Mae The London Economics yn adrodd fod Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn berchen ar 15% o gyfranddaliadau Topwood Ltd – cwmni sydd wedi derbyn dau gytundeb gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

Cofrestrodd Hancock y “rhodd” o 15% o gyfranddaliadau cyhoeddedig Topwood Ltd, cwmni ei chwaer, o dan “drefniant rheoli dirprwyedig”.

Mae Topwood Ltd wedi sicrhau dau gytundeb gwerth £300,000 gyda GIG Cymru i ddarparu gwasanaeth gwaredu gwastraff.

Mae’n ofynnol i Aelodau Seneddol gofrestru eu buddiannau ariannol o dan y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Seneddol.

Ddoe (Ebrill 14), cyhoeddwyd hefyd fod yn rhaid i weithwyr y gwasanaeth sifil ddatgan unrhyw swyddi ychwanegol, a hynny erbyn diwedd yr wythnos.

Daw hyn ar ôl y datgeliad bod cyn-brif swyddog masnachol y llywodraeth, Bill Crother, yn gweithio i Greensill Capital – y cwmni yng nghanol ffrae lobïo’r cyn-Brif Weinidog, David Cameron – a hynny cyn iddo adael y gwasanaeth sifil.

Sgandal lobïo

Canfuwyd bod David Cameron yn lobïo aelodau presennol y cabinet ar ran Greensill Capital, a hynny heb ddefnyddio sianeli ffurfiol.

Mae Greensill Capital bellach wedi’i ddirwyn i ben.

Y bore ’ma, dywedodd llefarydd David Cameron y byddai’n “ymateb yn gadarnhaol” i geisiadau am dystiolaeth gam ymchwiliad.

Mae’r cyn Brif Weinidog yn mynnu nad oedd wedi torri unrhyw reolau ond yn cydnabod bod “gwersi i’w dysgu”.

“Tra ei fod yn ymgynghorydd i’r busnes ac nid yn gyfarwyddwr bwrdd, mae’n awyddus i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar ôl i’r busnes gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr,” meddai’r llefarydd ar ran David Cameron.

Mae Boris Johonson wedi mynnu y bydd y cyfreithiwr a benododd yr wythnos hon i gynnal adolygiad o’r gwaith lobïo yn arwain ymchwiliad “priodol”.

Mae Llafur wedi pwyso am ymchwiliad llawn yn cynnwys panel trawsbleidiol o ASau yn cynnal gwrandawiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, ddoe gwrthododd y Llywodraeth Geidwadol y cynllun a phleidleisio yn ei erbyn.

Boris Johnson yn lansio adolygiad annibynnol i ffrae lobïo David Cameron

Bydd yr ymchwiliad yn edrych i weld sut y gwnaeth y cwmni sicrhau cytundebau gyda’r Llywodraeth, ac yn ymchwilio i weithredoedd y cyn-Brif Weinidog

Greensill: David Cameron am ymateb yn “gadarnhaol” i gais i roi tystiolaeth

Pwyllgor y Trysorlys yn bwriadu cynnal ymchwiliad i fethiant y cwmni cyllid