Mae golwg360 wedi bod yn pori trwy faniffestos pleidiau Cymru er mwyn gwneud pen a chynffon o’u haddewidion…

Dechreuwyd gyda’r addewidion o ran y Gymraeg, isod.

Y Gymraeg – Addewidion y pleidiau

Iolo Jones

Dyma golwg360 yn cymharu’r maniffestos a’u hymrwymiadau o ran yr iaith

Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Y tro hwn, dyfodol cyfansoddiadol Cymru sy’n cael sylw Iolo Jones

Llafur

Mae gan faniffesto Llafur bennod gyfan am ‘Y Genedl’ sydd yn mynd i’r afael â pherthynas Cymru ag Ewrop, a dyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Yn y bennod yma mae’r blaid yn ailddatgan ei hymrwymiad i ffederaliaeth, a’i hawydd i weld Teyrnas Unedig ffederal.

Mae’r undeb “wedi’i thorri’n anadferadwy”, meddai’r ddogfen, ac mi fydd “yn ymladd dros newid cyfansoddiadol radical yn seiliedig ar egwyddorion ffederaliaeth”.

Mae yna gyfeiriadau parhaus at y ‘Comisiwn Cyfansoddiadol’ – sef ymgais y Blaid Lafur (ar lefel Brydeinig) i danio trafodaeth am ddiwygio cyfansoddiadol.

Crynodeb o’r addewidion:

  • “Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol”
  • Sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru
  • Hyrwyddo a chefnogi gwaith y ‘Comisiwn Cyfansoddiadol’ ledled y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y Deyrnas Unedig
  • Dilyn yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder, fel y nodir gan Gomisiwn Thomas
  • Ymgyrchu i ddatganoli’r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch i Gymru – corff sy’n rheoleiddio iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Dadlau tros ddatganoli trethi i Gymru

Plaid Cymru

Mae maniffesto Plaid Cymru yn ddwbl hyd maniffesto Llafur, ac a hithau’n blaid genedlaetholgar, yn naturiol mae gan ei dogfen bennod gyfan am ‘Annibyniaeth a Gwladwriaeth Newydd Cymru’.

Caiff ei chynlluniau eu hamlinellu mewn cryn fanylder, a cheir addewid i sicrhau refferendwm annibyniaeth cyn mis Mai 2026.

Mae Cymru’n “wynebu perygl go iawn o gael ei gadael ar ôl yng ngweddillion y Deyrnas Unedig, mewn ffurfiad newydd Cymru-a-Lloegr,” meddai’r ddogfen.

Ac mae’n nodi mai “ethol Llywodraeth Plaid Cymru yw’r unig ffordd o warantu y gallwn ni greu Cymru newydd fel rhan o’r teulu byd-eang o genhedloedd annibynnol.”

Crynodeb o’r addewidion:

  • Cynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod ei thymor cyntaf mewn grym
  • Creu Comisiwn Cenedlaethol statudol i oruchwylio’r broses fydd yn arwain at y refferendwm, gan gynnwys drafftio Cyfansoddiad i Gymru gydag ymgynghori eang
  • Sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru a datganoli’r heddlu a chyfiawnder, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Cyflwyno Gorchymyn i geisio datganoli grym ar unwaith dros faterion sydd wedi’u cadw’n ôl ar hyn o bryd, gan gynnwys rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystadau’r Goron
  • Cyd-gynhyrchu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu polisi, a chreu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru, sy’n rhannu diwylliant a gweledigaeth ar draws pob sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth sifil
  • Cynnal archwiliad manwl o sut dylai Cymru annibynnol ymgysylltu â gwledydd eraill Prydain

Y Ceidwadwyr

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y blaid yn y Senedd, wedi dweud droeon mai materion ‘bara menyn’ sydd o bwys i’r cyhoedd – nid materion cyfansoddiadol dwys.

Ac yn wir does dim addewidion o gwbl yn eu maniffesto ynghylch diwygio cyfansoddiadol o unrhyw fath.

Ceir dim ond un cyfeiriad at ddiwygio cyfansoddiadol yn y ddogfen gyfan, a daw hynny yn y cyflwyniad.

“Tra bod gan Lafur a Phlaid obsesiwn gyda’r cyfansoddiad, mae ein cynllun ni yn canolbwyntio’n llwyr ar adfer Cymru yn dilyn y pandemig,” meddai Andrew RT Davies yn y cyflwyniad.

“Yn hytrach na cheisio mwy o bwerau, mwy o wleidyddion neu godi eich trethi, byddwn yn defnyddio’r pwerau sydd gennym eisoes yng Nghymru i gynnig cyfleoedd cyfartal ledled y wlad a sicrhau gwelliannau i bawb.”

Mae’n nodi bod y Ceidwadwyr yn credu “y gallwn adeiladu Cymru well o fewn Deyrnas Unedig gryf.”

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae maniffesto y Democratiaid Rhyddfrydol yn cloi gyda phennod sy’n llawn addewidion ynghylch diwygio cyfansoddiadol.

Mae’n mynd i’r afael â ffederaliaeth, datganoli, diwygio oddi fewn i Gymru, sustemau pleidleisio, ymhlith llu o bethau eraill.

Yn ôl y ddogfen “mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wastad wedi bod ar flaen y gad o ran diwygiadau  gwleidyddol” ac wedi “dadlau o blaid Teyrnas Unedig ffederal ers tro”.

Crynodeb o’r addewidion:

  • Gweithio i gyflawni Cymru gryfach fel rhan o Deyrnas Unedig ffederal
  • Cydweithio â dinasyddion i lunio polisïau trwy raglen o ‘Gynulliadau Dinasyddion’
  • Ymchwilio i’r posibiliad o ad-drefnu cynghorau yn gynghorau ‘Cantrefi’ – hynny yw, cynghorau sydd tipyn yn fwy a llai ohonyn nhw
  • Cynyddu nifer Aelodau’r Senedd i 80-90
  • Cyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ym mhob etholiad yng Nghymru
  • Dadlau am fwy o ddatganoli cyllidol (hynny yw, mwy o rymoedd i godi arian, gwario a benthyca)

Plaid Diddymu’r Cynulliad

Yn hytrach na maniffesto arferol mae Plaid Diddymu’r Cynulliad wedi cyhoeddi ‘Datganiad Polisi’ sydd yn nodi’n glir mai un polisi sydd ganddyn nhw, sef diddymu’r Senedd.

Dyw’r ddogfen fer hon ddim yn ymhelaethu rhyw lawer ar hyn.

Crynodeb o’r addewidion:

  • Gweithio’n ddiflino i wrthdroi datganoli
  • Gwrthwynebu cynlluniau i gynyddu nifer AoSau i 90, ac ymgyrchu i waredu’r cwbl lot
  • Dim rhagor o bwerau tros drethi i Gymru, a dychwelyd pwerau trethi presennol i San Steffan
  • Dychwelyd pwerau tros iechyd i San Steffan, fel bod yna un Gwasanaeth Iechyd unedig unwaith eto rhwng Cymru a Lloegr

UKIP

Mae pennod cyntaf maniffesto UKIP yn mynd i’r afael â datganoli, ac yn ei hanfod mae e’n cynnig dim ond un addewid yn hyn o beth – mi fyddan nhw’n “diddymu’r Senedd yn syth”.

Mae’r ddogfen yn dadlau bod datganoli “heb ddod â rhagor o ddemocratiaeth” i Gymru, a’i fod wedi “llusgo Cymru yn ôl”.

Mi fydd nifer Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan yn cwympo o 40 i 32 ymhen rhai blynyddoedd, ac mae UKIP yn dweud mai datganoli sydd ar fai yng Nghymru.

Yr awgrym yw y bydd llais Cymru yn San Steffan yn cryfhau unwaith eto os ddaw datganoli i ben.

Crynodeb o’r addewidion:

  • Diddymu’r Senedd

Reform UK

Mae Reform UK yn rhoi cryn sylw i faterion cyfansoddiadol yn ei ‘Chytundeb â’r Bobol’ – ei fersiwn hithau o faniffesto.

Yng nghyflwyniad y ddogfen nodir bod diwygio “wrth galon” amcanion y blaid, ac mae gan y ‘Cytundeb’ sawl pennod sy’n mynd i’r afael â materion cyfansoddiadol.

Mae’r blaid am gadw’r Senedd, ac mae’n galw’r rheiny sydd yn deisyfu annibyniaeth a diddymu’r sefydliad yn “leiafrif swnllyd”.

Crynodeb o addewidion:

  • Gwrthwynebu cynnydd yn nifer Aelodau o’r Senedd
  • Cynnal etholiadau ar wahân i benodi Prif Weinidog Cymru
  • Datganoli rhai o bwerau Llywodraeth Cymru i gynghorau
  • Ymgyrchu i barhau’n aelod o’r Deyrnas Unedig
  • Ymgyrchu i gadw Senedd Cymru

Y Blaid Werdd

Mae yna ambell gyfeiriad at annibyniaeth a datganoli ym maniffesto y Gwyrddion, wedi’u rhannu rhwng llu o adrannau gwahanol o’r ddogfen.

Mae’r blaid yn credu bod annibyniaeth yn “gam hanfodol ac angenrheidiol tuag at adeiladu Cymru wyrddach a thecach, cenedl amrywiol.”

Trwy annibyniaeth mae’r Gwyrddion yn credu bod modd “sicrhau dyfodol hyfyw i Gymru fel cenedl fach werdd flaengar.”

Byddai Cymru annibynnol, meddai’r maniffesto, yn medru cefnu ar ynni niwclear, ac mi fyddai’n “gosmopolitanaidd a rhyngwladolaidd, wedi ymrwymo i gydraddoldeb.”

Crynodeb o’r addewidion:

  • Gwrthsefyll “ymosodiad” Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddatganoli
  • Cefnogi’r dyhead am Gymru annibynnol, ac ymgyrchu o blaid annibyniaeth mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol

Gwlad

Mae maniffesto Gwlad yn rhoi ystyriaeth i annibyniaeth ym mhob un bennod, ac mae’n nodi’n glir mai annibyniaeth yw “raison d’être” y blaid.

Ei gweledigaeth ar gyfer Cymru annibynnol yw:

  • Gwlad sydd ag arian cyfred (currency) o’r enw ‘yr Hywel’ sydd yn rhannu’n 100 ceiniog
  • Gwlad sy’n “cynnal grym milwrol cymedrol ei hun nad yw’n niwclear”
  • Gwlad sydd â phorthladdoedd llynges ar ei harfordir
  • Gwlad sydd â’i deddfwrfa (y Senedd) yn adeiladau Sarn Mynach yng Nghyffordd Llandudno a’i swyddfeydd gweinidogol (gan gynnwys y Prif Weinidog) yn Aberystwyth
  • Caerdydd fyddai cartref Goruchaf Lys Cymru a’i Banc Canolog newydd

Propel

Mae plaid Propel yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ond does dim cyfeiriad at hyn yn ei ‘Cytundeb gyda Chymru’.

Fodd bynnag, mae’r blaid yn addo cyflwyno ‘Deddf Democratiaeth Uniongyrchol Fodern’ a fyddai’n tanio llu o newidiadau oddi fewn i Gymru gan gynnwys y canlynol:

  • Caiff Prif Weinidog Cymru ei ethol yn uniongyrchol
  • Astudiaeth ddichonoldeb ar greu tŷ uchaf ar gyfer Senedd Cymru, i’w leoli yng Ngogledd Cymru
  • Pob sir yn sofran, ac eithrio pan fo pŵer deddfu wedi’i gadw i Senedd Cymru (byddai wyth sir yn lle 22 dan Propel)

Mae’r ‘cytundeb hefyd yn nodi bod yn “rhaid i Lywydd y Senedd fod yn annibynnol i osgoi rhagfarn wleidyddol”.

Plaid Gomiwnyddol Cymru

Mae maniffesto Plaid Gomiwnyddol Cymru yn bwrw golwg tuag at y dyfodol, ac yn galw ar i’r Deyrnas Unedig fabwysiadu cyfundrefn ffederal – “ffederaliaeth flaengar”.

Roedd y blaid yn cefnogi Brexit, ond mae hi’n pryderu am Ddeddf y Farchnad Fewnol – deddf sydd wedi ennyn beirniadaeth llywodraethau datganoledig.

Mae’r Comiwnyddion yn gwrthwynebu annibyniaeth, ac yn credu bod angen i broletariat Prydain gydweithio.

Crynodeb o’r addewidion:

  • A ninnau wedi gadael yr UE bellach, mae yna gyfle i greu Prydain ffederal flaengarol seiliedig ar hunanlywodraeth, cyfartaledd a chyd-gefnogaeth rhwng ei thair cenedl
  • Rhaid i’r Senedd feddu ar ei phwerau trethu ei hun i roi terfyn ar ein dibyniaeth ar lywodraethau canolog yn Llundain

***

Darllen mwy