Mae golwg360 wedi pori trwy faniffestos pleidiau Cymru er mwyn gwneud pen a chynffon o’u haddewidion o ran y Gymraeg.
Bydd y stori hon yn cael ei diweddaru wrth i ragor o faniffestos gael eu cyhoeddi.
Llafur
Mae gan faniffesto y Blaid Lafur bennod gyfan am ‘Y Gymraeg, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth’ ac mae yna gyfeiriadau at ei chyraeddiadau yn ystod ei chyfnod mewn grym.
Nodir bod Llywodraeth Llafur Cymru wedi ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a’i bod yn bwriadu troi Llywodraeth Cymru yn sefydliad cwbl ddwyieithog erbyn 2050.
Mae’r maniffesto yn nodi bod “ein hiaith Gymraeg yn drysor cenedlaethol, sy’n adlewyrchu ein hanes hir” a bod y blaid “wedi ymrwymo i ddathlu hanes ac iaith Cymru”
Crynodeb o’r addewidion:
- Creu ‘Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg’ i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith
- Gweithio i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg
- Cyflwyno’r ‘Bil Addysg Gymraeg Cymraeg 2050’ i gryfhau a chynyddu ysgolion Cymraeg ledled Cymru
- Ehangu darpariaeth ‘blynyddoedd cynnar’ iaith Gymraeg gan gynnwys grwpiau meithrin
- Ehangu’r Rhaglen Drochi i Ddisgyblion i sicrhau bod gan bob newydd-ddyfodiad i’r iaith fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg
- Cyflwyno prosiect peilot a fydd yn cymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu gydag addysgu Cymraeg mewn ysgolion ar gyfer wythnosau olaf y tymor ysgol
- Darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022 ar ei phen-blwydd yn gant oed
Plaid Cymru
Mae maniffesto Plaid Cymru yn ddwbl hyd maniffesto y Blaid Lafur ac mae ganddo bennod gyfan am ‘Y Gymraeg’ sydd yn cynnig gweledigaeth hynod fanwl.
Mae’r Blaid yn deisyfu “Cymru wirioneddol ddwyieithog, lle mae dinasyddion yn teimlo’n rhydd i ddefnyddio eu dewis iaith yn eu bywydau bob dydd”.
Yn y ddogfen rhoddir sylw i sawl maes penodol: Miliwn o Siaradwyr, Y Gymraeg yn y gwaith, Addysg Cyfrwng Cymraeg, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, a Statws y Gymraeg.
Crynodeb o’r addewidion:
- Cyflwyno Deddf Addysg Gymraeg i roi’r rhodd o ruglder yn y Gymraeg i bob plentyn
- Codi statws a dyrannu cyllid ychwanegol i Brosiect 2050 (miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050) a fydd, gyda mandad ‘mwy na miliwn o siaradwyr’ ac fel rhan ganolog o’r Llywodraeth, yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau polisi ar draws pob adran
- Gosod targed o 1,000 o ofodau Cymraeg newydd, gan gynnwys gofodau diwylliannol a gweithleoedd, i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Sefydlu ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ newydd fel rhan o strategaeth ddigidol newydd ar gyfer yr iaith
- Ymestyn cylch gwaith Comisiynydd y Gymraeg a’i bwerau i weddill y sector preifat
- Dyblu’r cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ceidwadwyr
Mae yna sawl cyfeiriad at y Gymraeg ym maniffesto’r Ceidwadwyr, sydd wedi’u rhannu rhwng dwy bennod wahanol – pennod am addysg, a phennod am gefnogi cymunedau.
Dan bennawd addysg mae’r blaid yn galw am “greu mwy o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg” ac ystyried cyflwyno “trefniadau cyfnewid athrawon” er mwyn helpu staff i ddatblygu sgiliau iaith.
Maen nhw hefyd yn galw am “ddarparu trafnidiaeth ysgol am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu eu hysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg agosaf”, ac am “ddatblygu’r Mudiad[au] Meithrin”.
Crynodeb o’r addewidion eraill:
- Cynnal targed o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
- Diogelu cyllid, ac annibyniaeth weithredol a golygyddol S4C
- Rhoi ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ ar waith er mwyn hyrwyddo darlledu a gwasanaethau ar-lein Cymraeg
- Cynyddu buddsoddiad mewn prosiectau sy’n annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau beunyddiol, gan gynnwys adfywio Mentrau Iaith a chyflwyno Tipyn Bach
- Buddsoddi i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu addysg a gofal plant
- Rhoi mwy o rôl i’r Coleg Cenedlaethol o ran addysg gychwynnol i athrawon a datblygu ei ddylanwad ym maes addysg bellach ymhellach
- Helpu’r Eisteddfod Genedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru i adfer o’r pandemig ac i ddatblygu
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Yng nghanol eu maniffesto mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol bennod am y Gymraeg, sydd hefyd yn rhoi sylw i faterion gweledig a darlledu.
Mae’r ddogfen yn nodi bod y Gymraeg “yn elfen gynhenid o wead ein gwlad ond mae’n dal yn teimlo ymhell o afael gormod o bobl.”
Mae’n nodi bod “cymunedau Cymraeg eu hiaith ledled Cymru dan bwysau” a bod “llawer o waith yn dal i’w wneud” er mwyn ei hadfywio.
Crynodeb o’r addewidion:
- Cymeradwyo Deddf Addysg Gymraeg i Bawb, gan normaleiddio’r Gymraeg mewn addysg
- Cefnogi a galluogi twf cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith trwy becyn o bolisïau a chyllid
- Sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bob defnyddiwr trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cryfhau’r angen i ystyried iaith, a’r goblygiadau i gymunedau Cymraeg, wrth ddatblygu tai
- Parhau i ymgyrchu i ddatganoli grymoedd dros S4C a materion darlledu gwasanaeth cyhoeddus eraill
- Cynorthwyo i ddatblygu a buddsoddi mewn technoleg iaith Gymraeg i gyfrannu ymhellach at sicrhau cydraddoldeb o ran iaith ar draws pob diwydiant a gwasanaeth
Plaid Diddymu’r Cynulliad
Yn hytrach na maniffesto arferol mae Plaid Diddymu’r Cynulliad wedi cyhoeddi ‘Datganiad Polisi’ sydd yn nodi’n glir mai un polisi sydd ganddyn nhw, sef diddymu’r Senedd.
Er hynny, mae’r ddogfen fer hon yn rhoi cryn sylw i’r Gymraeg dan is-bennawd ‘Addysg a’r Iaith Gymraeg’.
Mae’r blaid am leihau rôl y wladwriaeth yn y maes yma.
Crynodeb o’r addewidion:
- Rhoi diwedd ar darged ‘miliwn o siaradwyr’ Llywodraeth Cymru
- Cefnogi’r hawl i gyfathrebu gyda’r sector gyhoeddus yn Gymraeg, ond rhoi diwedd ar ohebiaeth ddwyieithog i bawb
- Cwtogi nifer y swyddi sector gyhoeddus lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol
- “Gwrthwynebu gorfodi dwyieithrwydd ar y sector breifat”
- Datganoli pwerau i gynghorau fel mai nhw fydd yn dewis os ddylai, ac i ba raddau, y dylai’r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion nad yw’n rhai cyfrwng Cymraeg
- Cefnogi academïau ac ‘ysgolion rhydd’ – ysgolion a fyddai’n rhydd i bennu polisïau iaith eu hunain
UKIP
Mae gan faniffesto UKIP bennod gyfan am y Gymraeg sy’n honni bod yr iaith yn “ddibynnol ar ewyllys da yr 80% a mwy o bobol yng Nghymru nad ydynt yn siarad Cymraeg”.
Dylid sicrhau “chwarae teg” i bobol ddi-Gymraeg, yn ogystal â’r rheiny sy’n medru’r iaith, yn ôl y ddogfen.
Crynodeb o’r addewidion:
- Dileu’r orfodaeth ar i gynghorau ddarparu gwasanaethau dwyieithog
- “Dileu polisi rhagfarnllyd ac annheg sawl cyngor yng Nghymru o gyflogi siaradwyr Cymraeg yn unig”
- Cefnogi hawl pob perchennog cartref i alw’r eiddo beth bynnag y mynnant – boed yn Saesneg neu’n Gymraeg
- Diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg
- Cefnogi hawl rhieni i eithrio’u plant o wersi Cymraeg o 14 oed ymlaen – er hynny, yn credu y dylai pob ysgol anelu at ddarparu gwersi Cymraeg hyd at TGAU
- Gwrthwynebu polisi rhai cynghorau o ddiddymu ffrydiau ysgol cyfrwng Saesneg
- Tanio “adolygiad radical” o gyrff sy’n derbyn arian cyhoeddus gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, a dyraniad arian i blatfformau newyddion
- Hybu gwersi Cymraeg “gwirfoddol” ledled Cymru
Reform UK
Mae gan Reform UK ‘Gytundeb â’r Bobol’ (ei fersiwn hithau o faniffesto) a does dim un cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfen.
Y Blaid Werdd
Mae yna gyfeiriadau cyson tuag at y Gymraeg ym maniffesto’r Gwyrddion sydd wedi’u rhannu rhwng llu o adrannau gwahanol – o ddiwylliant hyd at faterion gwledig.
Ceir geiriau cynnes am yr iaith ond nid rhyw lawer o fanylion ynghylch sut y byddai’r Blaid Werdd yn gweithredu yn y maes yma.
Mae ei maniffesto yn nodi y byddai’r blaid yn sicrhau bod y Gymraeg yn “parhau’n iaith fyw” ac yn “diogelu a chreu cymunedau dwyieithog lle gall y Gymraeg ffynnu”.
Crynodeb o’r addewidion:
- Sicrhau bod dysgu ac addysgu yn Gymraeg yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi fel rhan annatod o system addysg Cymru
- Ehangu buddsoddiad yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Sicrhau bod dysgu’r Gymraeg yn ddi-dâl i’w wneud, a bod cyrsiau Cymraeg dwys llawn amser a rhan amser yn cael eu cynnig, gyda’r hawl i fynychu heb golli budd-daliadau
- Cefnogi digwyddiadau a sefydliadau megis eisteddfodau a’r Urdd
- Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn dal i gyfathrebu â’r cyhoedd trwy gyfrwng y ddwy iaith
Gwlad
Mae maniffesto Gwlad yn cyfeirio at y Gymraeg mewn sawl un o’i phenodau, gyda’r pwyslais cryfaf ar yr iaith dan bennawd ‘Diwylliant’.
Mae’r ddogfen yn nodi bod “ein hiaith a’n diwylliant unigryw wedi cadw Cymru’n fyw ac wedi ein hatal rhag cael ein llyncu gan Loegr”
Ac mae’n ategu bod angen “cynnal, annog ac ehangu’r gwahaniaeth diwylliannol hwn”.
“Cymraeg –ein hiaith genedlaethol; Saesneg – ein hiaith gyffredin” – Dyma yw “egwyddor arweiniol” y blaid yn ôl ei maniffesto.
Crynodeb o’r addewidion:
- Ymestyn addysg cyfrwng Cymraeg i bob ysgol gynradd yng Nghymru,
- Bydd pob ysgol uwchradd yn gyfrwng Cymraeg hyd at 14 oed, ac yna’n ddwyieithog
- Recriwtio a hyfforddi llawer mwy o athrawon Cymraeg eu hiaith
- Galluogi athrawon presennol di-Gymraeg i ddysgu’r iaith i safon hyfedr
- Annog sefydlu cyfryngau cenedlaethol yn Gymraeg ac yn Saesneg
Propel
Yn hytrach na maniffesto arferol mae Propel wedi cyhoeddi ei gweledigaeth ar ffurf ‘Cytundeb gyda Chymru’.
Mae yna lai o gynnwys yma o gymharu â dogfennau’r pleidiau eraill, ond serch hynny mae yna gyfeiriadau at y Gymraeg.
Crynodeb o’r addewidion:
- Dosbarthiadau trochi a hyfforddiant Cymraeg am ddim
- ‘Deddf Addysg Cyfrwng Cymraeg’ newydd
- Gwahardd ailenwi eiddo sydd ag enwau Cymraeg
Plaid Gomiwnyddol Cymru
Mae maniffesto Plaid Gomiwnyddol Cymru yn fyr, ond er tegwch i’r cochion mae ganddyn nhw fersiynau o’r ddogfen yn y ddwy iaith.
Dim ond un cyfeiriad sydd yna at y Gymraeg, a daw’r cyfeiriad yma dan bennawd ‘Addysg’.
“Mae addysg yn chwarae rhan anhepgor wrth gefnogi’r iaith Gymraeg,” meddai’r maniffesto.
Crynodeb o’r addewidion:
- Rhaid i ysgolion a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg fod ar gael ym mhob cwr o Gymru
- Bydd angen mesurau newydd i hyrwyddo’r defnydd cynyddol a wneir o’r Gymraeg ym mhob sefyllfa addysgol ac wrth hyfforddi llawer mwy o athrawon dwyieithog
*
Darllen mwy
- Yng nghylchgrawn Golwg, mae Iolo hefyd wedi bod yn cadw golwg ar seddi penodol a allai fod o ddiddordeb yn yr etholiad eleni (rhaid tanysgrifio):
- A gallwch ddarllen sylwadau Jason Morgan am obeithion y pleidiau yma (nid oes angen tanysgrifio):