Ers yr etholiad Senedd cyntaf yn 1999 mae etholaeth Llanelli wedi bod yn ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a’r blaid Lafur.

Lee Waters

Y Llafurwr, Lee Waters, sydd yn cynrychioli’r sedd ar hyn o bryd, a phe bai’n dal ei afael yn y sedd eleni, fe fyddai’r unigolyn cyntaf i gynrychioli Llanelli am ddau dymor yn olynol.

Bu iddo ennill y sedd am y tro cyntaf yn sgil yr etholiad diwethaf yn 2016, ac yn 2018 – er mawr syndod i lawer – cafodd ei benodi’n Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Ac ers y penodiad hwnnw mae ei broffil wedi cynyddu cryn dipyn. Tybed a yw’n disgwyl i hynny weithio o’i blaid yn etholiad eleni?

“Gwneud penderfyniadau a chael eich dal yn atebol amdanyn nhw – dyna yw bod mewn Llywodraeth,” meddai. “A dw i’n credu bod hynny’n deg.

“Felly mae’n anochel y bydda’ i wedi gwneud pethau nad yw pawb yn cytuno â nhw. Mater o ddadlau tros rywbeth yw gwleidyddiaeth – dw i’n credu hynny’n gryf.

“[Does dim pwynt] bod heb awch, neu apelio at y grwpiau sydd â’r disgwyliadau isaf, neu ddweud pethau sydd ddim am ddigio pobol.

“Ers cael fy ethol dw i wedi penderfynu peidio â thrin hyn fel gyrfa, ond ei drin fel cyfle i ddadlau tros wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol.”

Mae Lee Waters yn adnabyddus am fod yn llafar iawn ei farn.

Mae wedi bod yn wrthwynebydd amlwg i gynlluniau i adeiladu ffordd liniaru’r M4 – roedd yn wrthwynebus hyd yn oed pan oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter.

Ac yn 2019 tynnodd nyth cacwn am ei ben trwy ddweud bod y Llywodraeth “ddim wir yn gwybod beth yr ydym ni’n ei wneud gyda’r economi”.

Mae hefyd yn rhannu ei farn yn feunyddiol ar gyfryngau cymdeithasol.

Ei obaith yw y bydd pobol Llanelli yn gweld ei onestrwydd a’i dryloywder yn rhinweddau.

“Dw i wedi bod yn AoS sy’n gweithio’n galed, sy’n siarad yn blaen, ac sy’n onest,” meddai. “Dw i wedi gwneud llawer o ymdrech i gyfathrebu yn uniongyrchol trwy gyfryngau cymdeithasol.

“Os edrychwch ar fy nhudalen Facebook dw i’n tanio sgyrsiau agored â phobol drwy’r amser. Mae pobol yn ymateb i hynny. Yn y pendraw – dw i’n credu hyn yn gryf – dw i’n ymddwyn fel fi fy hun.

“Dw i’n hapus i anghytuno â phobol, a’u bod nhw yn anghytuno â fi. Mae pobol naill ai eisiau gwleidydd fel yna, neu dydyn nhw ddim. Dw i’n rhoi’r opsiwn iddyn nhw.

“Ond os dydyn nhw ddim yn hoffi hynna, mae hynna’n oce.”

Wrth ei waith yn Ddirprwy Weinidog mae wedi bod yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gadw busnesau Cymreig dan berchnogaeth Gymreig.

Wrth i fusnesau Cymreig dyfu, maen nhw yn wynebu’r temtasiwn i werthu a throsglwyddo perchnogaeth i gyrff tramor, yn ôl Lee Waters.

Mae “gormod o’n diwydiant” yn cael ei rheoli gan endidau tramor, meddai, ac mae’n ystyried hynny’n “broblem”.

Pe bai’n parhau’n AoS mae’n dweud y byddai’n ymrwymo i ddal ati â’r gwaith yma, a sicrhau nad yw busnesau Cymreig yn cefnu ar Gymru wrth iddyn nhw dyfu.

Cafodd Lee Waters ei fagu ym Mrynaman yn Nyffryn Aman. Bu’n newyddiadurwr ac yn gyfarwyddwr ar nifer o gyrff cyn dod yn AoS.

Y Blaid am gipio’r sedd yn ôl

Helen Mary Jones

Ers dechrau datganoli bu pum etholiad Senedd yng Nghymru, ac yn ystod dau o’r rheiny cafodd Llanelli ei chipio gan Blaid Cymru (1999 a 2007).

Helen Mary Jones yw’r unig berson sydd erioed wedi cynrychioli’r Blaid yn yr etholaeth honno, a hi fydd yn sefyll trosti unwaith eto eleni.

Ar hyn o bryd, mae hi’n AoS Plaid Cymru tros ranbarth Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, ac mi fydd hi ar restr ranbarthol y Blaid unwaith eto eleni, ond Llanelli yw’r sedd y mae hi’n ei deisyfu.

Wedi degawdau o herio’r sedd ar ran y Blaid, oni ddylid fod wedi rhoi cyfle i rywun arall sefyll eleni? Neu ydy ei hanes â’r sedd yn golygu mai Helen Mary Jones yw’r unig opsiwn?

“Mae’r Blaid yn lleol wedi fy newis i,” meddai. “Felly yn amlwg maen nhw’n credu bod y cysylltiad personol yna i’r etholaeth yn bwysig.

“O fy rhan i yn bersonol, mae Llanelli yn gartref gwleidyddol i fi. Mae’n ardal dw i eisiau ei chynrychioli.

“Dw i’n mwynhau cynrychioli rhanbarth [y Canolbarth a Gorllewin Cymru] yn fawr, ond mae’n anodd dod i nabod y cymunedau dros ardal mor fawr.

“Dw i’n nabod cymuned Llanelli [yn dda]. Felly dw i’n credu bod y cysylltiad yna yn mynd i fod yn bositif.”

Mae’n dweud ei bod wedi helpu dros 5,000 o deuluoedd yn ystod ei chyfnodau yn cynrychioli Llanelli.

Ac mae wedi “synnu”, meddai, o weld cymaint o bobol yr ardal yn “cofio’r help yna maen nhw wedi ei chael, ac yn gwerthfawrogi [hynny]”.

Dyw pethau ddim wedi bod yn fêl i gyd i Blaid Cymru yn Llanelli ers yr etholiad Senedd diwethaf yn 2016.

Yn 2018 fe gafodd y gangen gyfan yn Llanelli ei diarddel gan uwch-swyddogion y Blaid. Digwyddodd hynny yn sgil ffraeo rhwng aelodau cangen Llanelli a’r Blaid yn ganolog.

Wrth wraidd y cyfan roedd dadl ynghylch pwy ddylai gynrychioli Llanelli yn etholiad cyffredinol 2017. Wedi’r diarddel bu sawl cyn-aelod o’r gangen yn siarad yn agored am eu hanfodlonrwydd.

Tybed beth yw’r sefyllfa yno erbyn heddiw?

“Dw i’n falch i allu dweud ein bod ni yn ôl ar ein traed,” meddai Helen Mary Jones. “Roedd yna gyfnod anodd – doeddwn i ddim yn weithgar ar y pryd, ond dw i’n gwybod y bu cyfnod anodd.

“Ond dw i’n falch i allu dweud bod pawb yn tynnu at ei gilydd nawr. Mae’n anoddach gweithio fel tîm pan dydych chi ddim yn gallu gweld eich gilydd. Ond rydym ni yn llwyddo gwneud.

“A bydden i yn dweud ein bod ni’n gweithio’n agosach gyda’n gilydd nag erioed. Mae’r gefnogaeth dw i’n ei gael yn bersonol fel ymgeisydd yn wych gan bawb, a gan bob cornel o’r etholaeth.”

Pe bai’n dod yn AoS ar Lanelli mae’n dweud y byddai’n awyddus i sicrhau swyddi i bobol ifanc, a gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd i bobol ifanc.

Mae “yna waith i’w wneud o hyd i ailadeiladu canol dre Llanelli”, meddai, ac mae’n dweud y bydd angen cydweithio â Chyngor Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Daw Helen Mary Jones o Colchester yn Essex yn wreiddiol, ac mae hi’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fedru symud yn ôl i ardal Llanelli pan dw i’n ennill yr etholiad,” meddai.

Hwyl fawr cyfyngiadau, helo twristiaid!

Yn cynrychioli Reform UK (Plaid Brexit ar ei newydd wedd) yn Llanelli mae Gareth Beer.

Gareth Beer

Mae’n byw yng Nghydweli lle mae’n aelod o’r cyngor tref, ac mae’n rhedeg busnes sy’n darparu cymorth a llety i bobol ifanc a myfyrwyr.

Mae’n dweud ei fod yn “rhwystredig” gydag ymddygiad gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n awyddus i gynnig “llais amgen” i bleidleiswyr.

Heb os, mae gwrthdroi’r cyfyngiadau coronafeirws yn flaenoriaeth iddo.

“Pe bawn yn cael fy ethol mi fuaswn yn blaenoriaethu ailagor Cymru ac adfer ein rhyddfreiniau,” meddai.

“Buaswn yn ymrwymo i beidio â rhoi Cymru dan glo byth eto, ac i helpu pobol hunangyflogedig a busnesau bach i fasnachu eto – nhw yw asgwrn cefn economi Cymru.”

Mae’n clodfori “talent, pobol, busnesau ac atyniadau ardderchog” etholaeth Llanelli, ac mae am weld yr etholaeth yn elwa o dwristiaeth.

“Mae ‘gwyliau aros yng Nghymru’ (staycations) yn fwy tebygol yn y dyfodol, ac mae angen i ni fagu a thyfu’r hyn sydd eisoes gennym ni yma er mwyn tyfu ein potensial ym maes twristiaeth.

“Mi fuaswn yn dwlu bod ynghlwm â, a dylanwadu ar, botensial Llanelli a’r cymunedau ehangach – o Langennech i Bontyberem, i Heol y Mynydd yn Nhrimsaran.

“Oddi’r heol yno rydych yn medru gweld prydferthwch ysblennydd ardal ehangach Llanelli a thraethau hyfryd Pen-bre a Phorth Tywyn.

“Mae gan Lanelli ŵyl fwyd a diod hynod lwyddiannus a rhaid canmol y trefnwyr,” ychwanega.

“Mae ffermwyr a chynhyrchwyr yr ardal yma hefyd yn haeddu llawer o gydnabyddiaeth a chefnogaeth am y gwaith maen nhw’n ei wneud.”

Adferiad i Lanelli, annibyniaeth i Gymru

Siân Caiach

Siân Caiach yw Cadeirydd Gwlad (y blaid sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru) a hi fydd yn eu cynrychioli yn Llanelli eleni.

Cafodd ei geni yn ardal Gelligaer, ger Caerffili, ac mae wedi treulio’r 26 mlynedd diwethaf yn byw yn Llanelli.

Yn ystod ei gyrfa ym maes iechyd mi’r oedd hi’n ddoctor ysbyty, ac yn llawfeddyg i’r heddlu. Mae bellach wedi ymddeol.

Fe dreuliodd yr 20 mlynedd ddiwethaf yn gwasanaethu ar Gyngor Gwledig Llanelli, ac mi dreuliodd naw mlynedd yn gynghorydd sir, hyd at 2017.

Bu’n ymgeisydd yn etholaeth Llanelli yn y ddau etholiad diwethaf (yn 2016 a 2011) tros blaid Putting Llanelli First.

Mae Siân Caiach yn awyddus i helpu’r etholaeth i ymdopi gydag ergydion yr argyfyngau diweddar.

“Pe bawn yn dod yn Aelod o’r Senedd mi fuaswn yn blaenoriaethu adferiad yr etholaeth,” meddai.

“Rydym yn wynebu cynhesu byd eang – argyfwng sydd eisoes yn achosi llifogydd amlach, ac sy’n bygwth ardaloedd o’r dref sydd ar dir is, ac ein cysylltiadau rheilffyrdd.

“Bydd covid-19 gyda ni am amser hir, mwy na thebyg. Ac wrth adfer yn sgil y cyfyngiadau covid (a’r effeithiau economaidd, iechyd a chymdeithasol), bydd angen cynnwys y gymuned ac ymgynghori.

“Bydd angen ymateb sydd wedi ei deilwra ar gyfer Llanelli.”

Mae ganddi bryderon ynghylch llu o faterion lleol.

“Mae gennym ardaloedd lle mae llygredd aer yn ddifrifol,” meddai. “Mae hyn yn cael ei achosi gan ormodedd o draffig mewn ardaloedd lle mae pobol yn byw.

“Mae’r cyfnodau clo wedi lleihau’r llygredd aer, ond mi fydd y ceir yn dod yn ôl.

“Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem iechyd difrifol yma a gwella’r ansawdd bywyd yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.

“Does dim atebion rhad a syml i’r problemau yma, ond mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw.

“A rhaid sicrhau mai’r bobol sydd yn byw yma sydd yn gwneud y penderfyniadau, a bod [y problemau] ddim jest yn cael eu hanwybyddu gan y Senedd a Chyngor Sir Gaerfyrddin ill dau.”

Mae’r ymgeisydd hefyd â’i bryd ar faterion y tu allan i Lanelli, ac mae’n gobeithio “cefnogi Cymru” trwy “ei gosod, yn gadarn, ar y llwybr tuag at annibyniaeth”.

Addo dyfodol gwyrddach i’r gorllewin

Yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol eleni mae Jon Burree.

Jon Burree

Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanelli, ac mae wedi treulio ei fywyd cyfan yno – ac eithrio ei gyfnod yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae bellach wedi ymddeol ar ôl treulio peth o’i yrfa yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llangennech.

Bu yn gofalu am sawl aelod o’i deulu ac mae’n dweud bod hynny wedi rhoi “persbectif i mi ar yr heriau mae gofalwyr yn eu hwynebu, a’r hyn maen nhw’n ei aberthu”.

Ef yw Dirprwy Gadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mi’r oedd yn gynghorydd ar Gyngor Tref Llanelli am gyfnod.

Mae yntau’n awyddus i danio adfywiad gwyrdd a fydd yn gwella bywydau pobol gorllewin Cymru.

“Pe bawn yn cael fy ethol yn gynrychiolydd ar etholaeth Llanelli, mi fuaswn yn canolbwyntio ar gydweithio gydag AoSau eraill er mwyn sicrhau adfywiad gwyrdd i bobol Llanelli a Sir Gaerfyrddin,” meddai.

“Mi fuaswn yn anelu i wneud hyn trwy ehangu capasiti ynni ledled de Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau gwefru sydd ar hyd ein priffyrdd ar gyfer ceir trydanol.

“Mae ceir trydanol yn hanfodol ar gyfer cwtogi allyriadau. Mi fuaswn yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn gwireddu’r nod hwn.”

Mae’n awyddus i sicrhau dyfodol lle fydd busnesau a chefn gwlad yn medru cydfyw â pholisïau gwyrdd.

Fe wnaeth Golwg gysylltu â Stefan Ryszewski, ymgeisydd y Ceidwadwyr, ond ni dderbyniwyd ateb.