Yn fy ngwaith bob dydd, dw i’n gweithio’n agos â ‘phobl ifanc’.

A dw i wrth fy modd yn gwneud hynny.

Er gwaethaf yr heriau a’r rhwystredigaethau maen nhw’n eu hwynebu yn Oes y Covid, maen nhw’n helpu i ’nghadw’n ifancach fy ysbryd nag y byddwn i fel arall. Ac afiaith eu hieuenctid yn lliniaru’r diflastod a’r diffyg brwdfrydedd sydd weithiau’n bygwth meddiannu blynyddoedd fy nghanol oed.