Os ydych chi’n darllen hwn, mae’n debyg y byddwch chi’n gyfarwydd â’r syniad bod y niferoedd sy’n pleidleisio mewn etholiadau Senedd Cymru’n gallu golygu ambell beth.

Er enghraifft, y syniad yw bod cefnogwyr Plaid Cymru’n fwy tebygol o droi allan, ac felly bod nifer is o bleidleiswyr yn gyffredinol yn ffafriol iddyn nhw.

Yn yr un modd, dywedir na wnaiff Ceidwadwyr ddod allan doed â ddêl, felly maen nhw’n ofni nifer uchel o bleidleiswyr yn heidio i’r gorsafoedd.

Ac os daw Llafurwyr allan, mae’r niferoedd sy’n pleidleisio’n uchel yn awtomatig.

I weld a oes patrwm pendant, fe gymerais i olwg fanylach ar hyn. Isod mae graff yn dangos y ganran bleidleisiodd ymhob etholiad Senedd, ynghyd â siâr y tair plaid ymhob un yn yr etholaethau.

Mewn gwirionedd, does ’na fawr o batrwm i’w gael, a phob tro mae un yn ymddangos mae’n cael ei chwalu gan etholiad gwahanol yn mynd yn groes iddo.

Mae’n bwrw amheuaeth dros ein gallu i ragamcanu unrhyw beth o gwbl yn seiliedig ar y niferoedd sy’n pleidleisio.

Mae’r ystod sydd wedi pleidleisio yn etholiadau’r Senedd rhwng tua 38% a 46%, felly nid oes unrhyw gynsail gennym i wybod beth fyddai’n digwydd petai’r nifer hwnnw’n cynyddu neu’n gostwng yn sylweddol – dim ond damcaniaethau cymharol ddi-sail.

Yn gryno, mae’r doethinebau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol – y rhai a nodir uchod – yn wantan. Felly dwi’n teimlo’n ddigon sicr o ddweud na allwn ragweld gyda mymryn o sicrwydd pwy fyddai’n elwa o fwy neu lai o bobl yn bwrw pleidlais eleni.

Cyd-destun rhyngwladol a’r pandemig

Ydyn ni medru, fodd bynnag, damcaniaethu faint o bobl wnaiff droi allan?

Eto, mae hyn yn ansicr. Allwn ni ddim dweud a ydi’r coronafeirws – a’r ffordd y deliodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Dernas Unedig ag ef – am annog pobl i godi llais cefnogol neu feirniadol, neu eu hannog i aros adref.

A fydd mwy o bobl yn pleidleisio drwy’r post i wneud yn iawn am lai yn y gorsafoedd, neu fydd pobl ddim yn trafferthu o gwbl?

Oes ’na gliw mewn etholiadau tramor, tybed? Dyma ambell etholiad ar draws y byd yn ystod y pandemig a’r gwahaniaeth yn y niferoedd yn pleidleisio â’r etholiad cyfatebol cynt.

Etholiad Seneddol De Corea – Ebrill 2020 – +8.2%

Etholiad Seneddol Serbia – Mehefin 2020 – -7.2%

Rownd gyntaf Etholiad Arlywyddol Gwlad Pwyl – Mehefin 2020 – +15.0%

Etholiad rownd gyntaf Senedd y Weriniaeth Tsiec – Hydref 2020 – -5.0%

Etholiad Arlywyddol UDA – Tachwedd 2020 – +11.0%

Etholiad Seneddol Rwmania – Rhagfyr 2020 – -6.1%

Etholiad Arlywyddol Portiwgal – Ionawr 2021 – -9.4%

Wrth gwrs, mae sefyllfa wleidyddol benodol ymhob gwlad. Roedd etholiadau arlywyddol UDA a Gwlad Pwyl yn llwythol ac wedi tanio pobl i bleidleisio, hyd yn oed yn ystod pandemig (sydd wedi effeithio ar bob un o’r gwledydd uchod).

Efallai ein bod ni’n byw mewn cyfnod o bolareiddio yng Nghymru hefyd, ond mae’n bolareiddio llawer blerach. Brexit neu Aros? Cynnal neu lacio cyfyngiadau? Y dde a’r chwith? Cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr? Mae’r ffosydd yma’n cael eu cloddio ar draws ei gilydd.

Felly dwi ddim yn credu bod yma fawr o le i ddamcaniaethu o etholiadau gwledydd eraill faint o bobl a fydd yn troi allan i etholiadau’r Senedd.

Yn syml, does yna ddim gronyn o sicrwydd ar y pwnc hwn o gwbl: niferoedd yn pleidleisio nac effaith hynny.

Y polau ydi’r unig amcan sydd gennym. Ac er bod gan bolau yng Nghymru record dda dros y blynyddoedd diwethaf, ydyn nhw wir yn cyfleu awydd pobl i fwrw pleidlais yn y cyfnod unigryw hwn?

Rhaid i fi gyfaddef… dwi wir ddim yn gwybod!