Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol sy’n methu gweithio gartref i ddefnyddio hunan-brofion llif unffordd, wrth i becynnau gael eu cyflwyno ar draws y wlad.

Bydd y pecynnau profi cyflym ar gyfer Covid-19 ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener ymlaen (Ebrill 16).

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried opsiynau er mwyn i bobol allu casglu’r pecynnau o leoliadau eraill, neu eu hanfon yn uniongyrchol i gartrefi pobol.

Y gobaith yw y bydd sicrhau bod mwy o brofion llif unffordd ar gael yn golygu bod profion asymptomatig rheolaidd yn fwy cyfleus a hygyrch, ar gyfer pobol nag sy’n rhan o gynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau, a phrifysgolion.

Mae’n bosibl nad yw 1 o bob 3 pherson sydd â Covid unrhyw symptomau, sy’n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o gadw pobol yn ddiogel, meddai Llywodraeth Cymru.

Ym mhob safle profi, bydd pobol yn gallu casglu’r pecynnau rhwng 8am ac 1pm, a fydd dim angen gwneud apwyntiad i’w casglu.

Bydd y safleoedd yn cau wedyn er mwyn eu glanhau’n drylwyr ac yn ailagor ar gyfer profion PCR symptomatig rhwng 2yp ac 8yh bob dydd.

Gall pob person gasglu dau becyn o saith hunan-brawf llif unffordd i’w defnyddio gartref.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i wneud y profion ddwywaith yr wythnos, gan gofnodi’r canlyniadau ar borthol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Proses “hollbwysig”

“Mae’n bwysig bod y broses brofi mor gyfleus a hygyrch â phosibl. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i becynnau hunan-brofi gael eu defnyddio gan bobol sy’n methu gweithio gartref, fel bod modd iddyn nhw wneud y profion yn rheolaidd,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Bydd hyn yn helpu i’w cadw nhw, a’u teuluoedd, yn ddiogel.

“Gwyddom nad yw hyd at un o bob tri o bobpl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau o gwbl, ac felly gallen nhw ei ledaenu’n ddiarwybod iddyn nhw eu hunain.

“Wrth inni barhau i lacio cyfyngiadau, bydd y broses o brofi pobol asymptomatig yn rheolaidd yn hollbwysig i’n brwydr yn erbyn y feirws.”