Mae 72% o Gymry o blaid sefydlu Gwasanaeth Gofal Gwladol a fyddai’n darparu gofal i bobol hŷn, pobol ag anableddau a phobol fregus.

Dyna ganfyddiad pôl piniwn Savanta ComRes o 1,021 o bobol sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ebrill 14).

Canfu’r pôl piniwn, a gafodd ei gomisiynu gan undeb gwasanaethau cyhoeddus, UNSAIN, hefyd fod 90% o’r cyhoedd yn credu y dylid talu £9.50 neu fwy i weithlu gofal Cymru– y lefel a gafodd ei phennu gan y Sefydliad Cyflog Byw annibynnol.

Fel rheol, dim ond yr isafswm cyflog cenedlaethol y mae gweithwyr gofal yng Nghymru yn ei ennill, a gynyddodd ar Ebrill 1 i £8.91 yr awr.

Mae UNSAIN wedi rhoi blaenoriaeth i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru wrth iddyn nhw ymgyrchu cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Maen nhw’n disgrifio’r sector gofal fel un sydd mewn argyfwng.

“Mae pobl yn deffro i’r ffaith bod gan y Deyrnas Unedig wasanaeth gofal annigonol, lle mae miloedd o weithwyr gofal benywaidd yn bennaf yn cael eu hamddifadu o’r cyflogau teg y maent yn eu haeddu ac yn ei chael yn anodd byw ar eu cyflogau,” meddai Karen Loughlin, ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb.

“Yn gyffredinol, nid yw gweithwyr gofal yn y sector preifat yn cael fawr ddim tâl salwch, os o gwbl, ac mae’r cynnydd ar gyfer gweithio oriau anghymdeithasol yn llawer is na phe baent yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan gynghorau.

“Nid yw gweithwyr gofal yn cael eu gwerthfawrogi yn yr un modd â staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mae’n rhaid ailwampio’r sector gofal yn llwyr.

“Mae UNSAIN yn galw am Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru sy’n rhoi urddas a pharch tuag at gleientiaid a staff wrth ei wraidd.”