Mae Dr Rhodri Thomas, prifathro Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth, wedi dweud wrth golwg360 fod disgyblion “wedi ymateb yn dda i sefyllfa anodd” wrth ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos hon.
Daw hyn wrth i ddisgyblion ymhob blwyddyn ddychwelyd i ysgolion uwchradd ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 13).
Cyn y Pasg, dim ond disgyblion blynyddoedd 11 i 13 oedd yn sefyll asesiadau oedd wedi cael dychwelyd i’r ysgol yn llawn amser.
“Mae’r adeilad wedi teimlo’n wag er bod rhai plant wedi bod yn mynychu yn ystod y cyfnod clo,” meddai Dr Rhodri Thomas wrth golwg360.
“Heb blant, mae’r ysgol yn rhywle heb enaid, oherwydd y nhw sy’n rhoi bywyd i’r lle.
“Mae presenoldeb yn ofnadwy o uchel gan fod y plant eisiau dod yn ôl i weld eu ffrindiau a’u hathrawon.
“Maen nhw wedi bod yn gwenu a chwerthin wrth fod allan amser egwyl y bore ‘ma.
“Roeddwn i’n meddwl y byddai mwy ohonyn nhw’n bryderus, ond mae’r plant yn ymateb yn dda i sefyllfa anodd.”
Balch bod disgyblion wedi cael dychwelyd i’r ysgol yn raddol
Dywed Dr Rhodri Thomas ei fod yn falch bod disgyblion wedi cael dychwelyd i’r ysgol yn raddol.
“Pe baen ni wedi cael pawb yn ôl gyda’i gilydd ar yr un diwrnod, byddai’r sialens wedi bod yn sylweddol,” meddai.
“Mae’r newidiadau – hynny yw cyflwyno profion i’r plant, gwisgo mygydau yn y stafell ddosbarth ac ati – yn newydd i’r plant ac i’r staff.
“Ond drwy gael y plant yn dod yn ôl yn raddol, mae wedi rhoi cyfle i’r staff gyflwyno’r newidiadau fesul blwyddyn yn hytrach na thrio eu cyflwyno i’r holl blant yr un pryd.
“Mae hynny wedi helpu i setlo’r plant i mewn i’r drefn newydd.”
Disgyblion sy’n sefyll asesiadau eleni “ddim o dan anfantais”
Dydi disgyblion sy’n sefyll asesiadau eleni ddim o dan anfantais o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol “er eu bod nhw’n pryderu eu bod nhw”, yn ôl Dr Rhodri Thomas.
“Dw i ddim yn rhagweld y bydd problem gyda chynnal yr asesiadau, ond maen nhw yn rhoi pwysau ar y plant,” meddai.
“Y rhai sy’n pryderu fwyaf yw’r goreuon dw i’n credu – maen nhw’n licio cael popeth yn gywir ac maen nhw’n pryderu bod eu haddysg nhw wedi cael ei tharo gyda’r cyfnodau clo.
“Maen nhw’n poeni y byddan nhw’n wynebu heriau a chwestiynau nad ydyn nhw’n gyfarwydd gyda [nhw], ond dw i wedi bod yn pwysleisio y bydd y cwestiynau yn canolbwyntio ar agweddau o’r cwrs y maen nhw wedi dysgu amdano.
“Y gwirionedd yw y byddai’r un plant yn poeni pe baen ni mewn sefyllfa “normal” gydag arholiadau allanol.
“Ddylen nhw ddim bod o dan anfantais, ond dw i’n credu eu bod nhw’n pryderu eu bod nhw.
“Y peth da am eleni yw ein bod ni’n gwybod mai’r graddau rydan ni fel ysgol yn ei rhoi i’r plant fydd yn cyfri, a byddwn yn sicrhau bod y rheini’n raddau teg.”