Mae Liz Saville Roberts yn galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â methiannau yn narpariaeth gwasanaethau Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn ei hetholaeth.
Dywed Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd fod plant ag anghenion cymhleth wedi cael eu hatal rhag cael mynediad i’r feddyginiaeth gywir yn brydlon.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau nad oes Seiciatryddion Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc yn gweithio yn ei hetholaeth ar hyn o bryd, gyda phum swydd wag eto i’w llenwi.
Daw hyn yn dilyn achos Nicola Lewis o Flaenau Ffestiniog.
Doedd dim dewis ganddi ond talu mil a hanner o bunnoedd am ddiagnosis preifat o gyflwr niwrolegol ei mab un ar ddeg oed, ar ôl blynyddoedd ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd.
Mae hi bellach wedi cael gwybod nad oes Seiciatryddion Ymgynghorol ar gael i drafod a rhoi’r feddyginiaeth gywir sydd ei hangen ar ei mab, ac mae hi bellach yn gwario £80 y mis ar ei feddyginiaeth.
“Dydi o jyst ddim yn deg ein bod ni’n gorfod talu ffortiwn iddo fo gael be’ mae o ei angen,” meddai Nicola Lewis wrth siarad am ei phrofiadau ar raglen ‘Dros Frecwast’ Radio Cymru.
“Fasa nhw ddim yn gwrthod plentyn yn mynd i’r ysbyty wedi torri ei goes, fasa nhw ddim yn gwrthod rhoi treatment a chast i blentyn wedi torri ei goes a dyna sut yr oeddwn i’n teimlo.
“Dim ond meddyginiaeth oedd y mab angen, jyst i’w helpu fo ddod ymlaen efo bywyd bob dydd, dydi o’m yn llawer i ofyn.”
‘Annerbyniol’
“Rwyf wedi dychryn clywed nad oes unrhyw Ymgynghorwyr Seiciatrig Plant a Phobl Ifanc parhaol yn darparu gofal i gleifion ifanc, bregus yn fy etholaeth, sefyllfa sydd wedi ei gwaethygu gan anallu’r Bwrdd Iechyd i recriwtio Ymgynghorwyr locwm i gefnogi’r gwasanaeth,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’r sefyllfa hollol anfoddhaol hon yn atal plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth rhag cael eu hasesu a’u trin, gyda rhai yn aros blynyddoedd am ddiagnosis cychwynnol cyn cael gwybod bod yn rhaid iddynt aros hyd yn oed yn hirach am adolygiad meddyginiaeth.
“Mae’r lefel yma o ofal i’n plant mwyaf bregus yn annerbyniol. Yn syml, mae’n methu â diwallu anghenion penodol pobl fregus sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac sydd angen diagnosis cynnar a thriniaeth wedi’i thargedu.
“Ni ddylai’r un teulu orfod talu miloedd o bunnoedd i gael diagnosis o gyflwr eu plentyn ac yna wynebu’r un rhwystr i gael mynediad at y driniaeth gywir, yn enwedig o ystyried pwysau ychwanegol y pandemig Cofid ar gynifer o deuluoedd.
“A ni ddylid gadael unrhyw berson ifanc yn teimlo fel nad oes ganddynt gefnogaeth, yn enwedig yn dilyn un o’r argyfyngau iechyd mwyaf er cof byw.
“Rhaid i’r Bwrdd Iechyd, ac yn y pen draw, Gweinidog Iechyd llywodraeth Cymru weithredu rŵan, mynd i’r afael â’r pryderon dybryd hyn a rhoi sicrwydd i bobl ifanc y bydd eu hanghenion iechyd meddwl yn cael eu diwallu’n ddigonol.”