Mae cynllun newydd yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher, Ebrill 14) er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n hybu’r iaith Wyddeleg yn eu colegau.

Bydd y cynllun Gníomhaí Gaeilge yn rhoi cydnabyddiaeth, mentora, hyfforddiant, tystysgrifau a gwobrau i fyfyrwyr Lefel 3.

Caiff y cynllun ei gefnogi gan Conradh na Gaeilge, y prif fudiad sy’n gyfrifol am hybu’r defnydd o’r Wyddeleg, ac Undeb Myfyrwyr Iwerddon.

“Mae Conradh na Gaeilge ac Undeb Myfyrwyr Iwerddon wedi bod yn cydweithio â’r cymdeithasau iaith Wyddeleg a Swyddogion Iaith Wyddeleg mewn colegau lefel tri i’w datblygu, cryfhau a’u hymestyn ers 1998,” meddai Niall Comer, llywydd Conradh na Gaeilge.

“Cafodd nifer o ddigwyddiadau, sesiynau hyfforddi, ymgyrchoedd cymunedol, gwobrau a phethau eraill eu trefnu yn ystod y blynyddoedd hyn.

“Rydym yn cydnabod y cynnydd arwyddocaol a wnaed ac yn credu mai dyma’r amser nawr i ni adeiladu ar y strwythurau cryf rydyn ni wedi’u hadeiladu gyda’n gilydd.

“Dyna y byddwn ni’n ei wneud gyda’r cynllun Gníomhaí Gaeilge newydd.”

Yn ôl Lorna Fitpatrick, mae myfyrwyr yn cyfrannu’n helaeth at ddatblygu’r iaith Wyddeleg ac mae Undeb Myfyrwyr Iwerddon yn awyddus iawn i’w cefnogi.

“Rydym yn credu bod myfyrwyr sy’n weithgar wrth hybu’r Wyddeleg ar lefel tri yn Undebau’r Myfyrwyr a Chymdeithasau Iaith Wyddeleg yn rhoi hwb enfawr i’r mudiad iaith Wyddeleg trwy sefydlu amryw o brosiectau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd, ac mae modd gweld canlyniadau’r gwaith hwn yn arbennig dros y blynyddoedd diwethaf gyda niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn cymryd rhan,” meddai.

“Hoffem roi mwy o gefnogaeth i’r myfyrwyr hyn yn y dyfodol a’u cydnabod am y gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud yn wirfoddol i gynnig cyfleoedd i ddefnyddio’r Wyddeleg ac i hybu’r iaith ymhlith myfyrwyr eraill.”

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Mae pedair rhan i’r cynllun, sef mentora, hyfforddi, tystysgrifo a gwobrwyo.

Bydd mentoriaid ar gael i gynnig cyngor, cefnogaeth ac awgrymiadau i fyfyrwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr sy’n rhan o’r cynllun.

O ran hyfforddiant, bydd gweithdai rheolaidd yn cael eu cynnal i hyfforddi myfyrwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau priodol er mwyn cwblhau cylluniau gwaith.

Bydd pob myfyriwr a chynrychiolydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif i’w rhoi ar eu CV a fersiwn i’w gosod ar eu proffil ar wefan LinkedIn.

Bydd undebau myfyrwyr yn derbyn gwobr Gníomhaí Gaeilge os ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau eu rhaglen waith ar y cyd â mentoriaid.

Bydd y cynllun yn weithredol yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22, ac mae ceisiadau’n cael eu derbyn bellach gan gymdeithasau iaith Wyddeleg, undebau myfyrwyr a darpar fentoriaid.

Ynghlwm wrth lansiad y cynllun mae nifer o bobol flaenllaw yn y gwaith o hybu’r Wyddeleg, gan gynnwys Niamh Ní Chróinín (prif drefnydd y digwyddiad a rheolwr Raidió Rí-Rá), Osgur Ó Ciardha (cyd-sylfaenydd y Pop-Up Gaeltacht), y cyflwynydd teledu a radio Caoimhe Ní Chathail a John Prendergast, Swyddog Cynllunio Iaith Tobar Dhuibhne.