Bydd astudiaeth sy’n ystyried a oes modd cymysgu brechlynnau coronafeirws Rhydychen/Astrazeneca a Pfizer yn ddiogel ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos hefyd yn cynnwys dau bigiad ychwanegol.

Mae’r ymchwilwyr sy’n gyfrifol astudiaeth Com-Cov, a gafodd ei lansio ym mis Chwefror i ymchwilio i ddosau eraill o’r ddau bigiad cyntaf i’w cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn i gynnwys brechlynnau Moderna a Novavax.

Dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, bydd yr astudiaeth ychwanegol yn ceisio recriwtio oedolion dros 50 oed sydd wedi cael eu brechiad cyntaf yn yr wyth i 12 wythnos diwethaf.

“Ffocws yr astudiaeth com-Cov yw archwilio a ellir defnyddio’r brechlynnau Covid-19 lluosog sydd ar gael yn fwy hyblyg, gyda brechlynnau gwahanol yn cael eu defnyddio ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos,” meddai Matthew Snape, athro pediatreg a brecheg ym Mhrifysgol Rhydychen sy’n brif ymchwiliad ar y treialon.

“Os gallwn ddangos bod yr amserlenni cymysg hyn yn creu ymateb imiwn sydd cystal â’r amserlenni safonol, a heb gynnydd sylweddol yn adweithiau’r brechlyn, bydd hyn o bosibl yn caniatáu i fwy o bobol gwblhau eu cwrs imiwneiddio Covid-19 yn gyflymach.

“Byddai hyn hefyd yn creu gwydnwch o fewn y system pe bai diffyg o ran argaeledd unrhyw un o’r brechlynnau sy’n cael eu defnyddio.”

Y treialon

Bydd y gwirfoddolwyr, a fydd wedi derbyn naill ai brechlyn AstraZeneca Rhydychen neu Pfizer/BioNTech yn cael eu dyrannu ar hap i dderbyn naill ai’r un brechlyn ar gyfer eu hail ddos, neu ddos o’r pigiadau Moderna neu Novavax.

Mae’r pigiad Moderna wedi’i gyflwyno ledled y Deyrnas Unedig erbyn hyn, ac mae’r pigiad Novavax, sy’n cael ei gynhyrchu gan GlaxoSmithKline (GSK), yn cael ei adolygu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Bydd chwe changen newydd y treialon yn recriwtio 175 o ymgeiswyr, gan ychwanegu 1,050 o bobol at y rhaglen hon.

Bydd yr ymchwilwyr yn astudio unrhyw adweithiau andwyol ac ymatebion y system imiwnedd i’r cyfuniadau newydd hyn o frechlynnau.

Bwriad yr astudiaeth yw dangos nad yw cymysgu’n sylweddol waeth na pheidio â chymysgu.

“Hyblygrwydd

Mae’r Athro Snape yn gobeithio y bydd canlyniadau ail ran yr astudiaeth ar gael ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, ac mae disgwyl i’r rhan gyntaf adrodd ar ganlyniadau fis nesaf.

“Yr hyn rwy’n gobeithio yw na fyddwn yn diystyru unrhyw gyfuniadau,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg.

“Dyna sut mae angen i ni edrych arno – oes unrhyw gyfuniadau na ddylen ni fod yn eu rhoi, oherwydd dydyn nhw ddim yn cynhyrchu ymateb imiwnedd da ac rwy’n gobeithio na fydd hynny’n digwydd.

“A bydd hynny’n rhoi llawer o hyblygrwydd i ni, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, nid yn unig yn Ewrop lle rydym yn edrych ar gyfyngu ar y defnydd o rai brechlynnau i rai grwpiau oedran, ond ar draws y byd, lle mae gennym, efallai, gyflenwad ychydig yn fwy ysbeidiol o frechlynnau, sydd ddim mor ddibynadwy.

“Ond gadewch i ni obeithio y gallwn ni ddefnyddio hyn i gael dau ddos o frechlyn i gynifer o bobol â phosibl.”