Fe fydd pobol dros 16 oed sy’n byw ar yr un aelwyd â phobol sydd â system imiwnedd wan yn cael eu blaenoriaethu i gael cynnig brechlyn Covid-19.

Dydy pobol sydd â system imiwnedd wan ddim mewn mwy o berygl o gael y feirws, ond fe fyddai’n fwy anodd i’w cyrff frwydro yn ei erbyn pe baen nhw’n cael eu heintio ac fe allai’r effeithiau fod yn waeth nag y bydden nhw ar gyfer rhywun sydd â system imiwnedd gryfach.

Ymhlith y rhai mae eu system imiwnedd yn wannach mae pobol sydd â chanser y gwaed, HIV neu sy’n derbyn triniaethau sy’n cynnwys gwrthimiwnyddion.

Daw’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar sail cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a hynny ryw fis ar ôl i’r Gwasanaeth Iechyd gyflwyno’r un drefn yn Lloegr.

Er gwaetha’r cyngor, dydy’r cyd-bwyllgor ddim yn argymell ar hyn o bryd y dylai cysylltiadau plant sydd â system imiwnedd wan gael eu blaenoriaethu.