Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi eu cynllun i gefnogi pobol hŷn, sy’n cynnwys ymrwymiad i gynnal presgripsiynau am ddim yng Nghymru.

Dywed y blaid, wrth gyflwyno addewid ar drothwy etholiadau’r Senedd ar Fai 6, eu bod nhw am i bobol hŷn barhau i fod yn “aelodau gweithgar o’r teulu, y gymuned a chymdeithas” drwy ddarparu sicrwydd ar gyfer eu dyfodol.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno ‘Mesur Pobol Hŷn’ yn ystod y cyfnod Senedd nesaf, a fydd yn cynnwys gofyniad cyfreithiol i gyrff sector cyhoeddus ymgynghori â phobol hŷn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae addewidion y blaid i gefnogi pobol hŷn yng Nghymru yn cynnwys:

  • Cynnal presgripsiynau am ddim.
  • Cynnal teithio am ddim ar fysiau.
  • Hyrwyddo mynediad am ddim i safleoedd CADW i bobol dros 75 oed.
  • Treialu teithio am ddim ar y rheilffyrdd i bobol dros 75 oed.
  • Cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol yn erbyn cam-drin pobol hŷn, gwahaniaethu ar sail oedran, a sgamiau.
  • Sicrhau bod pobol hŷn yn gallu manteisio ar raglenni gwaith sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

‘Mae’n hen bryd am newid’

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd Janet Finch-Saunders, sy’n sefyll i gael ei hail-ethol yn sedd Aberconwy, ei bod hi’n “falch iawn o gyhoeddi cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi pobol hŷn ledled Cymru wrth i ni geisio cefnogi ac ailadeiladu ein cymunedau ar ôl y pandemig”.

“Byddwn yn helpu pobol hŷn ledled Cymru i barhau i fod yn aelodau gweithgar o’u teulu, eu cymuned a’u cymdeithas, wrth ddarparu diogelwch ar gyfer eu dyfodol drwy gynnal presgripsiynau am ddim a theithio am ddim ar fysiau,” meddai.

“Ar ôl 22 mlynedd o Lafur, mae’n hen bryd am newid ac mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i adeiladu Cymru well i’r hen a’r ifanc.”

Addewid y Ceidwadwyr “angen ei lyncu gyda mwy na llwyaid o siwgr”

Wrth ymateb, dywedodd Vaughan Gething: “Mae’r Torïaid yn honni y bydden nhw’n cadw presgripsiynau am ddim Llafur Cymru angen ei lyncu gyda mwy na llwyaid o siwgr.

“Pan oedd yn arweinydd ar y Grŵp Torïaidd y tro diwethaf, roedd Andrew RT Davies yn groch yn ei gondemniad o bresgripsiynau am ddim.

“Dywedodd bryd hynny – ‘Mae’n rhaid i ni gofio nad oes y fath beth â ‘phresgripsiwn am ddim’ ac mae polisi Llafur yn costio trethdalwyr Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol”, yna ychwanegodd “mae angen i ni gwestiynu o ddifrif a yw er lles pobol ledled Cymru i barhau gyda hyd. Mae’n rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb am ein hiechyd.’

“Ac eto maen nhw nawr yn disgwyl i ni gredu mai nhw yw gwarchodwyr yr union beth maen nhw wedi ymladd yn ei erbyn ers bron i ugain mlynedd.

“Mae’r Torïaid yn peri risg wirioneddol i swyddi Cymru, economi Cymru a chymunedau Cymru.”