Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn “brawf” o ba mor niweidiol fyddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn y Senedd, yn ôl Plaid Cymru.
Daw sylwadau Aaron Wynne, ymgeisydd Plaid Cymru yn Aberconwy, wrth iddo fe ladd ar y Ceidwadwyr am roi cytundebau i’w ffrindiau, eu polisi llymder a’u hymosodiadau ar ddatganoli.
Dros y dyddiau diwethaf, fe fu adroddiadau bod David Cameron, cyn-Brif Weinidog Ceidwadol Prydain, wedi lobïo gweinidogion yn gyfrinachol – gan gynnwys anfon negeseuon testun at y Canghellor Rishi Sunak – er mwyn cael mynediad i gynllun benthyciad coronafeirws ar ran cwmni ariannol Greensill Capital.
Ymhlith helyntion eraill y blaid roedd cytundebau Covid amheus, gydag adroddiad y Swyddfa Archwilio yn dod o hyd i gytundebau gwerth miliynau o bunnoedd ac yn fwyaf diweddar, roedd Gorchymyn Llys yn dangos bod y prif weinidog Boris Johnson wedi camarwain San Steffan ynghylch y cytundebau.
O ganlyniad, mae Aaron Wynne yn mynnu na ddylai’r Ceidwadwyr gael mynd “unrhyw le yn agos at rym yng Nghymru”.
Ymhellach, mae’n cwestiynu pam ddylid ymddiried mewn plaid sy’n benderfynol o “danseilio democratiaeth” yng Nghymru ac o wrthwynebu rhoi cyllid i’n cymunedau gwledig.
Mae e hefyd yn tynnu sylw at brosiect ‘Cymru a Lloegr’ HS2, gyda Chymru eisoes ar ei cholled o £514m, a’r golled mae Cymru’n ei dioddef o ran y Gronfa Ffyniant a Rennir ers i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
‘Barnu yn ôl eu gweithredoedd, nid eu geiriau’
“Dylem barhau i farnu’r Ceidwadwyr yn ôl eu gweithredoedd, nid eu geiriau,” meddai Aaron Wynne.
“Mae eu record gywilyddus yn San Steffan o roi contractau i’w ffrindiau, llymder ac ymosodiadau ar ddatganoli yn brawf byw o ba mor niweidiol fyddai Llywodraeth Gymreig Torïaidd.
“Dyma blaid sydd wedi gwasgu biliynau o bunnoedd mewn contractau amheus – gan arwain at ffrindiau’r Torïaid yn mynd yn gyfoethocach tra bod eraill yn mynd yn dlotach.
“Mae’n blaid sy’n caniatáu i gyn Brif Weinidogion Torïaidd ennill contractau cyhoeddus oherwydd eu cysylltiadau, nid eu cymwysterau, tra bod miloedd o bobl gyffredin yn cael eu gadael ar ol.
“Ar ôl treulio’r pum mlynedd diwethaf yn tanseilio democratiaeth Cymru yn ddidrugaredd yn gwadu cyllid i’n cymunedau – o HS2 i’r Gronfa Ffyniant a Rennir – ni ddylid ymddiried ynddynt yn unman agos i rym yng Nghymru.
“Gyda rhaglen uchelgeisiol i greu 60,000 o swyddi, cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, rhoi taliad plant wythnosol o £ 35 i deuluoedd, a hyfforddi a recriwtio 6,000 o feddygon, nyrsys, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, mae gan Plaid Cymru yr atebion cadarnhaol i adeiladu Cymru sy’n wrthgyferbyniad llwyr i ddinistr y Torïaid yn San Steffan.”