Dydi hi ddim yn ddweud mawr dweud bod hanes y blaid Geidwadol yng Nghymru yn oes datganoli’n ddifyrrach nag unrhyw blaid arall.

Daeth o’i diffeithir a threulio hanner cyntaf bodolaeth y Senedd yn rym dde-o’r-canol, cymedrol, â naws Gymreig iddi. Daeth hynny i ben wedi arweinyddiaeth Nick Bourne yn 2011, sef etholiad Cymreig mwyaf llwyddiannus y blaid erioed.

Yn ddiweddar, mae hi wedi gwyro’n gyflym i’r dde, gan ganlyn llu o leisiau sy’n feirniadol o ddatganoli, ac erbyn hyn mae’n anelu at ei chanlyniad gorau erioed yn y cyd-destun datganoledig.

Y polau’n darogan llwyddiant

Os ydi’r polau’n agos ati, mae’r Ceidwadwyr o fewn pellter taro i ennill y bleidlais boblogaidd yng Nghymru, a dwi’n bersonol yn meddwl y byddai diystyru eu cyfleoedd o wneud hynny’n ffôl, er ei fod yn annhebygol.

Hawdd fyddai hefyd eu diystyru yn sgîl dychweliad Andrew RT Davies i gymryd yr awenau, ond mae ’na beth wishful thinking yma gan ei wrthwynebwyr.

Wrth i Mark Drakeford ac Adam Price geisio siarad â phawb – dydi Davies ddim.

Mae’n fodlon canlyn carfan o’r etholwyr sydd ar dwf ar hyn o bryd, ac mae’n gwybod yn iawn sut mae siarad â nhw.

Ymosod ydi’r nod, a pham lai? Does yr un o seddi’r Ceidwadwyr dan fygythiad mewn difrif, gydag ambell un bellach yn gaerau etholiadol.

Cynghrair eang?

Mae mantais gan y Ceidwadwyr hefyd o ran y ffaith fod mwyafrif poblogaeth Cymru’n gwybod na’r Llywodraeth Lafur sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain Cymru drwy gyfnod y coronafeirws, ac na fydd effaith Brexit eto wedi’i dinoethi’n llawn erbyn y 6ed o Fai.

A hithau’n ymdebygu i gynghrair rhwng gwrth-ddatganolwyr, pobl sy’n anfodlon ar reolaeth Llafur ar y coronafeirws, a Brexiteers selog (er bod tipyn o orgyffwrdd rhwng y tri pheth!), mae’n cynnig rhywbeth unigryw rhag ei dau brif wrthwynebydd. Mae hynny bob amser yn fantais mewn etholiad.

Beth sydd o fewn cyrraedd?

Beth sydd o fewn eu cyrraedd felly? Edrychwn ni ar Glwyd, lle enillodd y Ceidwadwyr 4 sedd oddi ar Lafur yn 2019.

Sedd                                   Mwyafrif 2019                 Gogwydd 2019           Gogwydd sydd ei angen yn ’21

Alun a Glannau Dyfrdwy    213 yn fyr                       5.6                            12.4

De Clwyd                         1,239                              5.5                             6.8

Delyn                               865                               6.5                             7.7

Dyffryn Clwyd                   1,827                             5.8                             1.6

Wrecsam                          2,131                              5.8                             3.3

Roedd y gogwydd at y Ceidwadwyr yn y seddi uchod yn 5.8% ar gyfartaledd yn 2019, er rhaid cofio mai bychain oedd y mwyafrifau a sicrhawyd.

Gyda gogwydd cyffredinol o 4.9% eleni, byddai pedair o’r uchod yn troi’n las.

Anodd, ar hyn o bryd, gweld Llafur yn cadw’r seddi hyn. Ac mae angen gogwydd llai byth yng Ngwŷr a Bro Morgannwg (ac un cyfatebol yng Ngogledd Caerdydd) i rwydo’r seddi hynny hefyd. Mae’r darnau oll yn eu lle.

Noson dda

O ystyried pa mor ffafriol ydi’r etholiad hwn i’r Ceidwadwyr, byddwn i’n awgrymu bod o leiaf 5 etholaeth ychwanegol yn noson lwyddiannus.

Noson ddrwg

Unrhyw beth yn llai na’r uchod. Gyda’r disgwyliadau mor uchel, ’does yna’r ffasiwn beth â noson weddol i’r Ceidwadwyr eleni – mi fydd hi’n llwyddiant neu’n fethiant.

Sedd i’w gwylio

Pen-y-bont. Os gwelwn ni fod y don las yn cyrraedd hen sedd Carwyn Jones, fel y gwnaeth yn 2019, gallwch chi fod yn reit sicr fod y blaid ar garlam ac wedi ennill pob un o’i seddi targed, ac o bosib ambell un arall annisgwyl.