Ni ellir gwadu, ers yr etholiad cyntaf hwnnw’n ôl ym 1999, fod Plaid Cymru wedi, fwy na heb, gilio’n ôl i’w chadarnleoedd traddodiadol.

Chafodd buddugoliaeth swmpus Leanne Wood yn y Rhondda yn 2016 mo’i hadlewyrchu’n unman arall yng Nghymru tro diwethaf, gyda fawr ddim cysur yn 2019 chwaith, y tu hwnt i atgyfnerthu ei hetholaethau presennol.

Mewn difri, dydi’r Blaid dal heb ddod allan o’r cyfnod o segura sydd wedi nodweddu ei pherfformiad etholiadol ers dau ddegawd.

Ond gyda phob etholiad, daw cyfle arall i unioni pethau….

Stori gymysg yn y polau

Mae Adam Price yn gwbl grediniol y gall wneud hynny, ac mae ganddo o leiaf ychydig o le i fod yn obeithiol.

Hwn ydi’r etholiad cyntaf erioed y mae annibyniaeth, prif nod y Blaid, wedi bod yn rhan o’r agenda wleidyddol, a phetai Plaid Cymru’n medru cronni’r rhan helaethaf o’r gefnogaeth honno gallai gael noson dda.

Dydi’r polau, fodd bynnag, ddim eto’n rhagweld hynny – nid tua Phlaid Cymru y mae pleidleiswyr yn gadael Llafur, ac mae cryn gagendor rhyngddi a’r Ceidwadwyr sy’n gyson ail.

Llafur yn erbyn y Ceidwadwyr?

Fel rheol, pan fo’r naratif ei bod hi rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn cydio mewn etholiad, mae gobeithion Plaid Cymru’n cael eu llesteirio.

Ond dw i am awgrymu nad dyma’r achos y tro hwn.

Yn nau bôl diweddaraf y Baromedr Cymreig mae un peth difyr iawn yn codi – Plaid Cymru ar 17% digynsail ar gyfer etholiadau San Steffan.

I mi, aiff yn erbyn y ddoethineb gyffredin fod y Blaid ond yn llwyddo pan fo Llafur mewn grym. Bron y gellir dweud bod awgrym yma fod ei chefnogaeth yn fwy ‘annibynnol’ nag y bu.

Cecru

Er, mae’r Blaid unwaith eto wedi’i chael ei hun mewn sefyllfa o gecru dros syniadau ac mewn etholaethau penodol.

Ond mae’n hawdd gwneud môr a mynydd o’r rheiny a go brin y bydd effaith ddifrifol ar ei phleidlais o’u herwydd y tro hwn.

Mae lot o’r storm syniadol ar Twitter – does yna’r un ymgeisydd arbennig o amlwg wedi troi cefn arni.

Oes targedau mewn difri?

Un broblem, fodd bynnag, ydi ei bod yn aneglur lle yn union mae ei seddi targed y tu hwnt i Lanelli.

Does neb yn disgwyl iddi ennill Aberconwy, nac ychwaith Gorllewin Caerdydd a Blaenau Gwent (ill dwy’n sefyllfaoedd digon unigryw yn yr etholiad diwethaf).

Gyda’r blaid fymryn yn uwch yn y polau o’i gymharu â chanlyniad 2016, mae’n rhaid i’r pleidleisiau ychwanegol ’na fod yn rhywle, ac mae posibiliad eu bod nhw dan y radar (fel Blaenau Gwent yn 2016).

Os byddan nhw mewn llefydd fel Caerffili a Chastell-nedd, gallwn gael ambell ganlyniad trawiadol.

Er, fy nheimlad i ydi, oni welwn ni ymchwydd mwy cyffredinol i Blaid Cymru yn y polau, mae hyd yn oed y rhan fwyaf o’i seddi targed – beth bynnag ydi’r rheiny – ar hyn o bryd y tu hwnt i’w gafael.

Pe byddai’n cropian i fyny i tua 25% yn y bleidlais etholaethol, mae’n bosib iawn y bydd mwy nag un Blaenau Gwent yn 2021.

Ond faint o weithiau ydyn ni wedi clywed hynny o’r blaen?

Noson dda

Byddai 15 sedd yn noson ddigon da i Blaid Cymru, ac unrhyw beth yn fwy na hynny’n ganlyniad da iawn. Gwylier seddi fel Caerffili a Gorllewin Caerdydd i weld pa mor wydn yw’r gefnogaeth y mae hi wedi’i hadeiladu yno.

Noson ddrwg

Yn syml, colli’r Rhondda. Os na all Leanne Wood gadw’i sedd yn dilyn y mwyafrif mawr a gafodd yn 2016, go brin y gwneir yn iawn am y golled honno mewn sedd arall yn y Cymoedd.

Sedd i’w gwylio

Llanelli … wrth gwrs! Os na all Plaid Cymru gipio ei phrif sedd darged, mae’n anodd gweld gobaith iddi’n unrhyw le arall chwaith. Cadwodd Llafur y sedd er ei bod hi yn ei gwendid yn 2016; byddai peidio â manteisio ar ei thwll presennol unwaith yn rhagor yn annerbyniol.