Dydi hi fawr o gyfrinach fod Llafur wedi ennill pob un o etholiadau’r Senedd, ac yn y chweched go brin y gwelwn newid yn hyn o beth.

Mae’n dyst i hyfywedd y blaid – er gwaetha’r darogan cyson ers dros ddegawd gan sylwebwyr a gwleidyddion fod y blaid ar y dibyn ac mewn perygl o wneud colledion mawr – iddynt beidio â gwneud hynny ar lefel Gymreig.

Er, ychydig o ymdrech sy’n rhaid i Lafur ei wneud i ennill etholiad yng Nghymru – a hyd yn oed yn etholiad cyffredinol trychinebus 2019, mae’n ffaith bod Llafur dal wedi ennill yng Nghymru’n gymharol braf.

Dydi hirhoedledd y blaid yn arwain Llywodraeth Cymru heb effeithio rhyw lawer ar ei rhagolygon etholiadol hyd yma.

Tirwedd wleidyddol gwbl newydd

Rydyn ni, fodd bynnag, yn byw mewn tirwedd wleidyddol gwbl newydd i hyd yn oed yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Bydd elfen o refferendwm ar berfformiad y llywodraeth ar Covid (sydd, yn ôl y polau, yn fater ffafriol iddi), bydd Brexit yn y cefndir, ac mae annibyniaeth ar yr agenda am y tro cyntaf erioed.

Mae ’na deimlad o warchae ar y blaid Lafur – sydd wedi, i raddau helaeth, hawlio tir canol gwleidyddol Cymru.

Daw hyn ynghyd â phoblogrwydd eu harweinydd Prydeinig, Syr Keir Starmer, yn syrthio’n ddifrifol – a phrin na chaiff hynny effaith, er gwaetha’ poblogrwydd cymharol Mark Drakeford.

Gyda’r Ceidwadwyr o fewn pellter cyrraedd yn nau bôl diweddaraf Baromedr Cymru, mae’r pwysau i’w weld yn cynyddu, nid lleihau.

Bydd Llafur, yn y bôn, yn amddiffyn mwy o seddi y tro hwn nag erioed o’r blaen, a fydd yn profi effeithlonrwydd ei pheiriant etholiadol trawiadol.

Mae cael ei hysgubo ymaith o Glwyd yn gyfan gwbl yn bosibiliad, gyda seddi lu yn y De hefyd mewn peryg.

Rhagolygon

Yr hunllef i Lafur fyddai ras deirffordd wirioneddol, a allai ddatblygu dros y mis nesaf.

Yn y sefyllfa honno, dydi hi ddim yn annhebygol y byddai cwymp y bleidlais Lafur yn lled-gyson ledled Cymru, ond bod y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n gweld cynnydd sylweddol mewn ardaloedd penodol. Annhebygol, ar hyn o bryd, efallai, ond gallai pincer movement felly arwain at ddwsin o seddi’n newid dwylo’n hawdd – a’r cyfan oddi wrth Lafur.

Serch hynny, mae gan y blaid duedd i gryfhau ei chefnogaeth wrth i’r etholiad agosáu. Fe welwn yn y polau nesaf sydd i ddod ai dyna fydd yn achos unwaith eto.

Am y tro beth am i mi drafod be fyddai noson dda a noson ddrwg i Lafur ar Fai 6…

Noson dda

Yn fy marn i, ni raid i Lafur gadw ei holl seddi presennol i gael noson dda, mewn difri. Byddai cadw’r rhan fwyaf yn gwneud y tro.

Byddai cadw tair o’i seddi yn y gogledd-ddwyrain yn llwyddiant cymharol, a chael ei digolledu ar y rhestr, ynghyd ag atal y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg (sydd wastad wedi digwydd yn groes i’r disgwyl) a chadw seddi Casnewydd yn braf.

Byddai ailgipio’r Rhondda oddi wrth Blaid Cymru hefyd yn ganlyniad da.

Noson ddrwg

Er gwaetha’r gwarchae, byddai 25 sedd, neu lai, yn golygu ei chanlyniad gwaethaf erioed yn y Senedd.

A waeth pa mor anarferol ydi’r sefyllfa sydd ohoni, mae’n anodd sbinio hynny fel llwyddiant.

Sedd i’w gwylio

Wrecsam. Byddai colli hon yn y Senedd hefyd yn awgrymu nad blip oedd 2019, ond rhan o batrwm dyfnach.

Gwirioneddol bryderus fyddai hynny i’r Blaid Lafur.

Yn fwy arwyddocaol, bosib, byddai’n dangos bod y gogledd-ddwyrain yn dechrau’n fynych ddilyn patrymau pleidleisio yn Lloegr – yn enwedig ymhlith y dosbarth gweithiol (yr enillodd y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol).