Dylai cyfiawnder gael ei “ddatganoli’n ddeddfwriaethol” i Gymru, yn ôl comisiwn a fu’n ymchwilio i’r drefn yng Nghymru.
Ar ôl dwy flynedd o waith, mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad gan argymell y dylai fod gan Gymru reolaeth lawn dros ei system gyfiawnder.
Mae’r adroddiad yn dweud y dylai Cymru fod â phwerau tros blismona a charchardai, a dylai allu penodi ei barnwyr ei hun.
Derbyniodd y Comisiwn dystiolaeth gan lu o bobol a chyrff, ac maen nhw wedi cyflwyno 78 o argymhellion.
Y prif argymhellion
- Dylid datganoli cyfiawnder
- Dylai Adran Gyfiawnder newydd gael ei sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru
- Dylid creu ‘cyfraith Cymru’ sydd ar wahân i gyfraith Lloegr a Chymru
- Dylai Cymru fod ag Uchel Lys a’i Llys Apêl ei hun
- Dylai pob corff cyfiawnder gydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011
“Cymhlethdod” a “dryswch”
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi taflu dŵr oer tros y casgliadau gan fynnu bod y drefn sydd ohoni yn gweithio, ond y gwrthwyneb sy’n wir ym marn Cadeirydd y Comisiwn.
“Mae’r ffordd mae cyfrifoldebau wedi’u rhannu rhwng San Steffan a Chaerdydd wedi creu cymhlethdod, dryswch a diffyg cysylltiad diangen o ran cyfiawnder a phlismona yng Nghymru,” meddai’r Arglwydd Thomas.