Mae tri o gynghorwyr Caerdydd wedi cefnu ar Blaid Cymru, gan ei chyhuddo o “ddod yn rhy agos o dipyn” at y Blaid Lafur.
Keith Parry, Lisa Ford ac Andrea Gibson yw’r cynghorwyr dan sylw, ac yn sgil y cam does gan Blaid Cymru ddim cynghorwyr ar gyngor y brifddinas rhagor.
Daw hefyd yn sgil cynhadledd Plsid Cymru yn Abertawe y mis diwethaf lle methodd enwebiadau etholaeth Gorllewin Caerdydd â chipio’r prif swyddi.
Mae gan yr etholaeth honno berthynas agos â Neil McEvoy – Aelod Cynulliad a gafodd ei wahardd o’r blaid y llynedd – ac roedd yna bryderon bod ymdrechion ar droed i adfer ei aelodaeth.
Hyd yma, does neb wedi cael ei ddewis i gynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd yn etholiad Cynulliad 2021, ac mae’r mater yma hefyd wedi bod yn destun ffrae.
Datganiad y cynghorwyr
Mewn datganiad ar y cyd mae’r cynghorwyr yn dweud bod “llawer ar frig Plaid Cymru wedi dod rhy agos o dipyn at Lafur”, ac maen nhw’n egluro eu rhesymau tros adael y Blaid.
“Rydym wedi cadw’n dawel am lawer er budd undod,” meddai datganiad ar y cyd rhwng y cynghorwyr. “Ni allwn wneud hyn mwyach.”
“Nid penderfyniad a gymerwn yn ysgafn mo hwn. At ei gilydd rydym wedi bod yn aelodau o Blaid Cymru ers degawdau ac wedi ennill pleidleisiau dros y Blaid ar flaen y gad, gan gipio seddi gan Lafur yn ei pherfeddwlad dybiedig.
“Ond yn hytrach na chael ein cefnogi gan Blaid Cymru, rydyn ni wedi cael ein mygu gan y blaid ar bob cyfle.”
Beirniadu Adam Price
Mae’r cynghorwyr hefyd wedi beirniadu Arweinydd Plaid Cymru yn uniongyrchol – roedd yntau wedi rhybuddio am ymdrechion i danseilio’r Blaid, cyn y gynhadledd.
“Mae’n resyn bod cynnen personol parhaus bellach yn ymddangos yn bwysicach na dim i arweinyddiaeth Plaid Cymru,” meddai.
“Anogir aelodau i gwyno yn erbyn aelodau eraill a chaniatawyd i awyrgylch gwenwynig gydio o fewn y blaid.
“Yn syml, ni fu ymateb i’n galwadau am arweinyddiaeth, gyda’r arweinydd newydd Adam Price yn amharod i ymyrryd mewn unrhyw ffordd i geisio gwireddu ffordd ymlaen at gymodi.”
Ymateb Plaid Cymru
“Diolchwn i’r cynghorwyr am eu cyfraniad a dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.