“Fydd na ddim ymgyrch gan Blaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd” yn etholiad y Senedd eleni, yn ôl cyn-ymgeisydd yr etholaeth.
Ddiwedd wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Ashley Drake ei fod yn sefyll i lawr yn ymgeisydd yn etholaeth Gogledd Caerdydd, a’i fod wedi gadael y Blaid.
Wrth wraidd ei benderfyniad oedd yr anghydweld rhyngddo ef a Phlaid Cymru tros gynllun dadleuol i godi Canolfan Ganser newydd Felindre ar y Dolydd Gogleddol (Northern Meadows) yng ngogledd Caerdydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith i’r cynllun, ac roedd y Blaid yn ddrwgdybus yn wreiddiol, ond bellach mae wedi newid ei safiad.
Bydd angen i Blaid Cymru ddod o hyd i ymgeisydd newydd ar gyfer yr etholaeth cyn diwedd yr wythnos, ond yn ôl Ashley Drake mi all pethau fod yn lletchwith gan fod y gangen gyfan yno wedi’u digio.
“Fydd na ddim ymgyrch gan Blaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd,” meddai wrth golwg360.
“Ac os ydy’r Blaid eisiau rhoi ymgeisydd arall i fyny ychydig iawn o bobol – efallai neb – fydd yn fodlon ymgyrchu gyda’r person yna achos maen nhw wedi troi cefn ar y Blaid am fradychu etholaeth gogledd Caerdydd a phobol Eglwys Newydd a’r ardal yma.”
Mae rheolwr ymgyrchu’r cyn-ymgeisydd, Phil Nifield, a’i asiant Dan Allsobrook, ill dau wedi ymddiswyddo o’r blaid hefyd.
Yn ymateb i’r sylwadau mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud bod eu sylw “ar ffurfio’r Llywodraeth nesaf a rhannu ein neges bositif gyda phobol Cymru.”
Y Blaid wedi’i sbŵcio
Yn ôl Ashley Drake roedd ef ac uwch-swyddogion Plaid Cymru, yn wreiddiol, yn credu bod angen cynnal ymchwiliad i’r cynlluniau.
Ond penderfynodd y Blaid newid ei safiad ddechrau’r wythnos diwethaf, meddai, ac mae ganddo ei amheuon ynghylch pam y gwnaethpwyd hynny.
Leanne Wood yw AoS presennol y Rhondda, a hi fydd yn sefyll yno unwaith eto ar ran y Blaid eleni.
Roedd yr AoS honno yn aelod o Bwyllgor Deisebau’r Senedd, ac yn ôl Ashley Drake, mi brofodd hi “bwlio a- lein” gan y cyhoedd pan fu’r pwyllgor yn trafod deisebau yn gysylltiedig â chynlluniau Canolfan Ganser newydd Felindre.
Mae’n credu bod y Blaid wedi cael ei “sbŵcio” i newid ei safiad yn sgil hyn.
Mae hefyd yn nodi bod mwyafrif o gleifion presennol Ysbyty Felindre yn dod o’r Cymoedd – cartref y Rhondda, y sedd ymylol mae Leanne Wood yn ei chynrychioli.
Yr awgrym yw bod Plaid Cymru yn awyddus i blesio pobol etholaeth Leanne Wood, a’u bod am wneud hynny ar draul cangen Gogledd Caerdydd.
“Maen nhw’n trio achub croen aelod o’r Blaid mewn sedd yn y Cymoedd sydd dan fygythiad bwlis [sydd yn cefnogi cynlluniau Felindre ar eu ffurf bresennol],” meddai.
“Maen nhw wedi cael eu sbŵcio, mewn ffordd, i ildio er mwyn lleihau’r pwysau ar yr aelod yna.
“Dw i’n deall pam. Achos mae wedi bod yn gwbl ffiaidd. A dw i’n teimlo dros yr ymgeiswyr i gyd sydd wedi cael yr holl helynt fan hyn.”
Mae Ashley Drake yn dweud ei fod yn “hen hen ffrind gyda Leanne”, ei fod yn “meddwl y byd ohoni”, a bod dim “atgasedd o fy ochr i”.
Cefndir y cynlluniau
Dyw Ashley Drake ddim yn gwrthwynebu syniad o sefydlu’r Canolfan Ganser newydd, ond mae’n gwrthwynebu’r cynlluniau ar eu ffurf bresennol.
Yn 2010 cyhoeddodd Ysbyty Felindre y byddan nhw’n codi canolfan ar eu tir eu hunain, ond erbyn 2015 roedden nhw wedi cefnu ar y syniad yna.
Derbyniodd Ysbyty Felindre llain o dir ar y Dolydd Gogleddol trwy swopio tir â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, a dyma’r mater sy’n gofidio Ashley Drake.
“Ers i Felindre newid eu cynlluniau a gwneud y land swap mae pobol wedi dweud bod yna rywbeth dodgy yn fan hyn,” meddai. “Maen nhw’n ei wneud e’ er mwyn yr arian.
“Mae lot mwy i’r cynllun fel y mae e’. Felly mae angen rhyw fath o ymchwiliad mewn i beth sy’n digwydd fan hyn.
“Mae’r Blaid wedi bod yn gyson iawn yng ngogledd Caerdydd, ers pum mlynedd neu fwy, bod angen ymchwiliad annibynnol. Dyna oedd yr alwad reit tan brynhawn ddydd Mawrth.”
Pleidiwr “yn y bôn”
Fydd Ashley Drake ddim yn sefyll yn annibynnol, ac mae’n pwysleisio ei fod yn dal i rannu’r un syniadau â Phlaid Cymru.
“Yn y bôn pleidiwr ydw i, ond mae’r Blaid wedi fy ngadael i lawr,” meddai. “Ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod i’n troi fy nghefn ar y Blaid yn y ffordd egwyddorol yna.
“Does dim bwriad [sefyll yn annibynnol]. Ers blynyddoedd rydym ni wedi bod yn gofyn am ymchwiliad annibynnol.
“Dydd Mawrth [Mawrth 30] wnaeth pwyllgor y Blaid yn y Senedd benderfynu eu bod nhw’n derbyn y polisi, a bod yr hyn rydym ni wedi bod yn ymgyrchu drosto ers blynyddau ddim yn ddilys bellach a bod yn rhaid i ni ddilyn eu polisi nhw.
“Ac rydym ni’n credu ein bod ni wedi cael ein bradychu heb fewnbwn.”
Y Blaid yn ‘parhau i ofyn cwestiynau’
Yn ymateb i gais am sylw gan golwg360 mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud bod eu prif sylw “ar ffurfio’r Llywodraeth nesaf a rhannu ein neges bositif gyda phobol Cymru.”
“Dim ond trwy fabwysiadu rhaglen uchelgeisiol Plaid Cymru, fel a amlinellir yn y maniffesto mwyaf radical ers 1945, y bydd modd creu’r Gymru newydd a fydd yn gweithio er lles pawb,” meddai.
“Dros y mis nesaf, bydd holl egni Plaid Cymru yn mynd ar ledaenu’r weledigaeth hon ymhob cwr o’r wlad.”
Wythnos ddiwethaf, yn ymateb i benderfyniad Ashley Drake i gamu o’r neilltu, wnaeth llefarydd ar ran Plaid Cymru ddweud y canlynol:
“Mae’n siomedig iawn bod Ashley Drake unwaith eto wedi dewis camliwio digwyddiadau trwy rannu dyfyniadau dethol o sgyrsiau preifat.
“Mae nifer o sgyrsiau wedi digwydd dros sawl diwrnod gydag Ashley Drake, ac mae’n siomedig ei fod wedi dewis peidio trafod mewn ffordd adeiladol.
“Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ein cefnogaeth i’r ganolfan ganser newydd i dde-ddwyrain Cymru a byddwn yn parhau i ofyn y cwestiynau sy’n mynnu atebion er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i bobl y rhanbarth.”