Mae Dominic Raab wedi condemnio byddin Myanmar am “fwlio” eu llysgennad yn Llundain, gan ei atal rhag cael mynediad i’r llysgenhadaeth.

Fe wnaeth Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, ganmol “dewrder” y diplomydd Kyaw Zwar Minn, a dreuliodd noson yn ei gar ar ôl cael ei gloi allan o’r llysgenhadaeth neithiwr (Ebrill 7).

Dywedodd Kyaw Zwar Minn ei fod wedi cael ei dargedu gan “coup” ar y strydoedd yng nghanol Llundain, gan ddweud fod y llysgenhadaeth wedi’i “meddiannu” gan y fyddin mewn ffordd sy’n “annerbyniol ac amharchus” i bobol Myanmar a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r diplomydd wedi galw am ryddhau Aung San Suu Kyi, arweinydd etholedig Myanmar sydd wedi’i charcharu ers y coup milwrol ddechrau Chwefror.

Arweiniodd y coup at wythnosau o brotestiadau, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi cyhuddo’r lluoedd diogelwch ym Myanmar o ladd dwsinau o bobl ddiniwed, gan gynnwys plant.

Mae gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi gofyn i’r awdurdodau ym Myanmar a ydyn nhw yn disodli’r llysgennad, ac fe wnaeth yr awdurdodau gadarnhau hynny.

Ond nid yw’r diplomydd wedi derbyn hysbysiad ffurfiol yn nodi ei fod yn cael ei ddisodli.

“Rydym ni’n condemnio bwlio cyfundrefn filitaraidd Myanmar yn Llundain ddoe, ac yn talu teyrnged i Kyaw Zwar Minn am ei ddewrder,” meddai Dominic Raab ar Twitter.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i alw am ddod â’r coup a’r trais erchyll i ben, ac am adfer democratiaeth ar frys.”

“Annerbyniol ac amharchus”

Mewn datganiad ar ran Kyaw Zwar Minn fore heddiw (Ebrill 8), dywedodd ei fod yn wynebu oblygiadau ar ôl gwneud datganiad yn condemnio’r coup ym Myanmar, ac yn galw am ddychwelyd at ddemocratiaeth, fis diwethaf.

“Ers hynny, mae e wedi stopio dilyn cyfarwyddiadau gweinidog tramor Myanmar, ac wedi bod yn cyfarfod gyda sawl diplomydd, a chymunedau Myanmar, er mwyn trafod y sefyllfa, a gobeithio gallu dod o hyd i ateb heddychlon,” meddai’r datganiad.

“Yn sgil hyn, cafodd y llysgenhadaeth yn Llundain ei meddiannu gan y fyddin neithiwr. Mae’r llysgennad wedi cael ei gloi allan ers hynny.

“Bu coup ym Myanmar ers mis Chwefror, a nawr mae’r un fath yn digwydd yng nghanol Llundain. Mae hyn yn annerbyniol ac amharchus i bobol ym Myanmar, ac mae’n amlwg yn amharchus i gymdeithas ddemocrataidd y Deyrnas Unedig.”