Mae nifer y marwolaethau coronafeirws wythnosol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 92% o uchafbwynt yr ail don tua deufis yn ôl, mae ffigyrau’n awgrymu.

Cofnodwyd tua 712 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yn yr wythnos a ddaeth i ben ar Fawrth 19, i lawr o 8,945 o farwolaethau yn yr wythnos a ddaeth i ben ar Ionawr 22, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Bu cyfanswm o 379 o farwolaethau Covid-19 yn y grŵp oedran 80 a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos hyd at Fawrth 19, i lawr 92.9% o 5,354 o farwolaethau yn yr wythnos hyd at Ionawr 22.

Gostyngodd marwolaethau ar gyfer y rhai 75-79 oed 93.4% yn yr un cyfnod, o’i gymharu â gostyngiad o 92.4% ar gyfer y rhai 70-74 oed, 90.8% ar gyfer y rhai 65-69 oed ac 83.7% ar gyfer y rhai 60-64 oed.

Mae marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod yr wythnos hyd at Fawrth 26 yn dal i gael eu cofrestru.

Cafodd oedolion 80 oed a throsodd eu cynnwys yn ail grŵp blaenoriaeth y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar gyfer y brechlyn, ac yna’r rhai 75 oed a throsodd, a 70 oed a throsodd.

Cynigiwyd dosau am y tro cyntaf o ddechrau mis Rhagfyr.