Mae mwy o bobol nag arfer wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a nifer ohonynt wedi bod mewn poen diangen oherwydd prinder meddyginiaethau.

Dangosa ymchwil gan Marie Curie fod mwy o bobol yn y Deyrnas Unedig wedi marw adre, yn hytrach na mewn ysbytai.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad fod gofal diwedd oes wedi bod yn rhan hanfodol o’r ymateb brys i’r pandemig, gyda gwasanaethau yn cynnig mwy o ofal yn y gymuned.

Ynghyd â hynny, cafodd y gofal ei effeithio gan brinder offer diogelwch, meddyginiaethau, offer cyffredinol, a staff.

Canfyddiadau

Yn ystod 2020, roedd 15% yn fwy o farwolaethau o gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer y bum mlynedd flaenorol – sef tua 91,000 o farwolaethau ychwanegol.

Er bod marwolaethau mewn cartrefi gofal ac ysbytai yn uwch na’r arfer pan oedd nifer achosion Covid-19 ar eu huchaf, fe wnaeth y nifer ostwng i is na’r arfer rhwng y ddau frig.

Ond, wrth edrych ar farwolaethau mewn cartrefi, dangosa’r adroddiad fod y niferoedd wedi aros yn sylweddol uwch drwy gydol y flwyddyn.

Yn ôl Marie Curie, digwyddodd hyn am fod pobol yn penderfynu peidio mynd i ysbytai neu gartrefi gofal ar ddiwedd eu hoes yn sgil cyfyngiadau ar ymwelwyr, ac ofn dal Covid-19.

Fe wnaeth gwasanaethau diwedd oes ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig ddweud eu bod nhw’n brysurach na’r arfer yn ystod y pandemig.

Yng Nghymru, dywedodd 53% eu bod yn brysurach, nododd 7% fod lefelau prysurdeb yr un fath, a 40% eu bod nhw’n llai prysur.

Dim ond yn Llundain, a Swydd Efrog a Humber, y gwnaeth mwy o wasanaethau adrodd eu bod nhw’n brysurach.

Roedd pob rhan o wasanaeth diwedd oes yn brysurach na’r arfer, ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig, ond gwelodd gwasanaethau cefnogi yn y gymuned y gwahaniaeth mwyaf.

Prinderau

Profa’r ymchwil gan Marie Curie fod gwasanaethau ar draws y Deyrnas Unedig wedi profi prinder offer diogelwch, meddyginiaethau hanfodol, staff, ac offer.

Dywedodd gweithwyr mewn hobsisau fod y prinderau yn waeth gan nad oedden nhw’n cael eu hystyried fel “rheng flaen y GIG”.

Roedd prinder meddyginiaethau hanfodol ar ei waethaf yng Nghymru, gyda 53% o wasanaethau yn dweud eu bod nhw wedi gweld prinder.

Yn ogystal, gwelodd Cymru a Llundain y prinder mwyaf ymhlith staff yn ystod y pandemig, wrth i 60% o’r gwasanaethau adrodd fod prinder.

Roedd y sefyllfa o ran staff ar ei gorau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Chanolbarth Lloegr.

Gwelodd 40% o’r gwasanaethau brinder mewn Offer Diogelwch Personol yn ystod y pandemig, gyda’r ffigwr ar gyfer yr holl ardaloedd yn amrywio rhwng 33% a 61%. Roedd y sefyllfa waethaf yng ngogledd orllewin Lloegr, ac ar ei orau yn yr Alban.

O ran offer cyffredinol, dywedodd 7% o’r gwasanaethau yng Nghymru eu bod nhw wedi gweld prinder.

Mae Marie Curie yn rhybuddio bod rhaid sicrhau fod gwasanaethau iechyd a gofal yn addas ar gyfer y dyfodol, gan y bydd 100,000 o bobol yn marw bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig ymhen ugain mlynedd.

Wrth i’r boblogaeth fynd yn hŷn, bydd mwy o alw am ofal diwedd oes wrth i bobol fyw am hirach gyda mwy o gyflyrau iechyd cymhleth, esbonia’r elusen.