Roedd y trais a brofwyd yn Belfast nos Fercher yn fwy eithafol na’r hyn a brofir fel arfer, yn ôl un o drigolion y ddinas.

Am bron i wythnos mae unoliaethwyr – a llawer ohonyn nhw yn blant – wedi bod yn gwrthdaro yng ngorllewin prifddinas Gogledd Iwerddon, ac mi wnaeth y trais ddwysáu ymhellach neithiwr.

Mae trais hefyd wedi digwydd yn Derry a nifer o ardaloedd eraill yn y Gogledd.

Taflwyd bomiau tân at fysys, cafodd swyddogion heddlu eu hanafu, ac yn ymateb i’r cyfan mae gwleidyddion Stormont wedi cynnal trafodaeth frys fore heddiw.

Ardal unoliaethol yw Shankill Road ac ardal cenedlaetholwyr yw Springfield Road yn bennaf, ac mi daniwyd y trais yn Lanark Way – heol sy’n cysylltu’r ddwy arall.

Ymgyrchydd iaith Wyddeleg yw Dr Liam Andrews sydd yn byw yn ardal Andersonstown yng ngorllewin y ddinas, ac mae yntau’n dweud bod y gwrthdaro wedi bod yn fwy dwys na’r arfer.

“Beth sydd wedi digwydd yw bod yr unoliaethwyr wedi cynhyrfu lot fawr,” meddai. “A dyna’r broblem.

“Beth ddigwyddodd neithiwr oedd bod criw mawr o bobol ifanc wedi ymgasglu ar un ochr o’r gât yn Lanark Way. Roedd cenedlaetholwyr ifanc mas am y noson yn cael hwyl.

“Mae [lefel y trais] uwch na’r arfer, yn enwedig beth ddigwyddodd neithiwr,” meddai wedyn.

“Un o’r pethau oedd wedi cynhyrfu pobol – gan gynnwys Boris Johnson – oedd eu bod nhw wedi herwgipio bws. Roedd y gyrrwr bws mewn perygl o gael ei ladd, a chafodd y bws ei losgi.”

Mae’n dweud bod y bobol ifanc yma yn “ddi-waith heb lot o ddyfodol iddyn nhw” ac mae’r “unig hwyl mewn bywyd [iddyn nhw] yw cael riots”.

Mae Liam Andrews yn dweud yr oedd e’ ei hun yn byw yn Shankill am gyfnod tan iddo “ffoi o ‘na”. Roedd casineb yn “gyffredin iawn” yn yr ardal pan oedd yno yn yr 1960au, meddai.

Y DUP a’r Protocol

“Does dim un rheswm” am y trais diweddar yn Belfast, yn ôl y trigolyn, ac mae’n dweud bod yna “lot” o ffactorau gwahanol.

Mae’n dweud bod Brexit wedi chwarae rhan fawr, a’r anniddigrwydd â Phrotocol Gogledd Iwerddon yn enwedig.

Dan y protocol mae yna rwystrau ar nwyddau sy’n symud rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n destun cryn anhapusrwydd ymhlith unoliaethwyr.

Mae Liam Andrews o’r farn bod y DUP (Democratic Unionist Party) – plaid unoliaethol mwyaf Gogledd Iwerddon – dan bwysau mawr gan unoliaethwyr.

Mae hefyd yn credu eu bod hwythau yn cyfrannu at y trais diweddar.

“Mae’r DUP yn trio dadlau eu bod o blaid Brexit ond ddim o blaid y Protocol,” meddai.

“Ond mae fel dweud eich bod o blaid dydd Gwener, ond ddim o blaid dydd Sadwrn, achos mae un yn dilyn y llall. Felly dyw dadleuon y DUP ddim yn dal dŵr.

“Mae yna anhapusrwydd ac mae’r DUP yn trio ennill tir yn ôl trwy siarad yn fygythiol,” meddai wedyn . “Felly maen nhw’n rhoi hwb i deimladau anhapus a dicter.

“Yn enwedig ers i’r Protocol ymddangos maen nhw wedi bod yn trio achub eu henw eu hunain trwy annog pobol i fod yn fwy dig er mwyn iddyn nhw beidio â chael y bai.”

Mae arweinydd y DUP a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, wedi galw’r trais yn “embaras i Ogledd Iwerddon”.

Ar ben hynny mae arweinwyr unoliaethol wedi cydnabod bod Brexit wedi cyfrannu at densiynau diweddar.

Angladd Bobby Storey

Ymhlith y materion sydd wedi gwylltio unoliaethwyr yn ddiweddar mae angladd y gweriniaethwr, Bobby Storey.

Cafodd yr angladd ei gynnal ym mis Mehefin 2020, ac mi wnaeth 2,000 o bobol gymryd rhan – yn groes i reolau’r argyfwng coronafeirws.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog, Michelle O’Neill, Sinn Fein, ymhlith y galarwyr.

Mae awdurdodau wedi dod i’r casgliad na ddylid erlyn yr aelodau Sinn Fein rheiny a gymerodd ran, ac mae hynny wedi bod yn fater hynod ddadleuol.

Mae Liam Andrews yn galw Bobby Storey yn “ŵr hynod o bwysig yn y rhyfel yn erbyn Saeson”, ac mae’n teimlo bod y DUP wedi codi stŵr am y mater er mwyn tynnu sylw oddi ar eu hunain.

O ran yr angladd, mae i weld yn cydnabod y torrwyd rheolau Covid.

“Oce, efallai eu bod nhw’n cadw pellter ac yn y blaen, ond roedd [y dorf] yn enfawr!” meddai. “Doeddwn i ddim yna fy hun!”

Fis diwethaf dywedodd Arlene Foster bod Sinn Fein wedi ymddwyn fel pe na bai’n rhaid i aelodau’r blaid gydymffurfio â’r gyfraith.