Mae ymchwiliadau ar y gweill ar ôl tân yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd y prynhawn yma (dydd Iau Ebrill 8).

Cafodd Criwiau Tân ac Achub eu galw i’r amgueddfa yn fuan ar ôl hanner dydd, gan ddarganfod tân yng nghromen yr adeilad.

Roedd mwg yn codi o do’r adeilad hefyd.

Mae’r amgueddfa wedi cadarnhau na chafodd unrhyw staff eu hanafu ac ni ddifrodwyd unrhyw gasgliadau.

Cafodd y tân ei ddiffodd yn ddiweddarach ond mae ymchwiliadau i’r hyn a achosodd y tân bellach ar y gweill.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gartref i gannoedd o arteffactau hanesyddol a gweithiau celf.

Mae’n rhan o grŵp ehangach Amgueddfa Cymru a sefydlwyd yn 1905.

Ym mis Chwefror cyhoeddwyd pecyn achub gwerth £6.2 miliwn ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn sgil effeithiau pandemig y coronafeirws.

Roedd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn rhoi £3.95 miliwn i’r amgueddfa i “ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd.”