Fe fydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cwrdd bore ma (Dydd Iau, Ebrill 8) er mwyn trafod y trais ar strydoedd Belfast yn ystod yr wythnos.

Mae disgwyl i arweinwyr gwrdd am 10yb, awr cyn i Gynulliad Sormont gael eu galw nôl i drafod y golygfeydd treisgar.

Cafodd y cyfarfod ei gadarnhau nos Fercher wrth i’r trafferthion barhau ar strydoedd Belfast. Mae disgwyl i’r aelodau drafod cynnig yn condemnio’r ymosodiadau diweddar ar yr heddlu. Mae galw ar weinidogion i gondemnio’r trais “â llais unedig”.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf fe fu ymosodiadau ar yr heddlu, bomiau petrol yn cael eu taflu, a therfysgoedd ar strydoedd Belfast a Deri.

“Does dim cyfiawnhad dros drais”

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi apelio ar bobl i bwyllo gan ddweud ei fod yn “bryderus iawn” am y golygfeydd treisgar yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn ymosodiad ar yrrwr bws a newyddiadurwr.

Mae’n debyg bod y gwrthdaro wedi digwydd yn sgil tensiynau rhwng cymunedau teyrngarol dros Brotocol Gogledd Iwerddon ar Brexit, a’r modd yr oedd Heddlu Gogledd Iwerddon wedi ymateb yn dilyn honiadau bod Sinn Fein wedi torri rheolau coronafeirws yn ystod angladd y gweriniaethwr Bobby Storey.

Mae’r Prif Weindog Arlene Foster wedi condemnio’r ymosodiadau ar Twitter, gan ddweud: “Does dim cyfiawnhad dros drais. Mae’n anghywir ac fe ddylai stopio.”

Mae tua 55 o swyddogion yr heddlu wedi’u hanafu a 10 o bobl wedi’u harestio yn dilyn y gwrthdaro.