Ni fydd myfyrwyr prifysgolion Cymru yn cael mynychu seremonïau graddio eleni, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd eisoes wedi gohirio eu seremonïau, gan ddweud eu bod yn ystyried cynnal eu seremonïau’r flwyddyn nesaf.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi dweud ei bod yn gobeithio aildrefnu’r seremonïau.
Aberystwyth yw’r brifysgol ddiweddaraf i ohirio ei seremonïau, tra bod Prifysgol Bangor yn dal i hysbysu seremonïau ym mis Gorffennaf er bod disgwyl iddyn nhw ddilyn gweddill y prifysgolion a gohirio.
“Hynod o anodd”
Dywedodd llefarydd ar ran corff Prifysgolion Cymru: “Mae’r penderfyniadau a wneir gan sefydliadau ynghylch seremonïau graddio eleni yn rhai hynod o anodd, ac nid ydynt yn cael eu cymryd yn ysgafn.
“Diogelwch a lles myfyrwyr a staff yw’r brif flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru a, gan eu bod wedi gwneud hynny trwy gydol y pandemig, bydd unrhyw benderfyniadau a gymerir yn adlewyrchu’r cyfyngiadau cyfredol, a chyngor iechyd y cyhoedd a llywodraeth.
“Mae Prifysgolion Cymru yn benderfynol o ddathlu llwyddiannau myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu graddau yng nghanol her pandemig byd-eang.
“Bydd sefydliadau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu graddedigion i nodi a dathlu’r achlysur pwysig hwn gan gynnwys cynnal digwyddiadau dathlu rhithiol ar-lein.”
Diwedd “anti-climactic” i gyfnod prifysgol
Wrth siarad â golwg360, dywedodd Lleucu Mair, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg a Hanes: “Mae o’n siomedig iawn peidio cael graddio ar ôl gweithio’n galed, a hynny mewn amgylchiadau anodd.
“Mae peidio cael graddio ar ôl tair blynedd yn eithaf anti-climactic yn enwedig ar ôl treulio hanner fy amser yn y coleg mewn pandemig.
“Yn amlwg rydan ni’n deall bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad am resymau iechyd a diogelwch, ond gan mai dyma yw’r ail flwyddyn yn olynol i’r seremoni raddio gael ei ohirio mi fasat ti’n meddwl efallai y byddai rhyw fath o drefniadau amgen wedi cael eu dyfeisio.
“Doedden ni ddim wir yn disgwyl y byddai yno seremoni ar ddechrau’r flwyddyn, ond gyda’r brechlyn yn dod allan a dim cyhoeddiad gan y Brifysgol tan rŵan roedden ni wedi dechrau codi ein gobeithion.
“Rydan ni’n gobeithio y bydd modd cynnal y seremoni maes o law.”
Prifysgol Aberystwyth wedi “gwneud y penderfyniad ychydig bach yn gynnar”
Dywedodd Llywydd UMCA, Moc Lewis, wrth golwg360: “Maen nhw wedi gwneud y penderfyniad ychydig bach yn gynnar byddwn i’n dweud.
“Mae lot yn gallu newid mewn cwpl o fisoedd.
“Bydd yna backlog nawr gan fod criw’r llynedd, criw eleni a chriw blwyddyn nesaf angen graddio blwyddyn nesaf.
“Ond yn amlwg maen nhw’n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniad a dw i’n credu fod y myfyrwyr yn deall hynny.
“Yr hyn dw i wedi bod yn clywed gan fyfyrwyr yw bod hyn yn llai i wneud â’r seremoni ei hun ond y diwrnod… cael mynd yn ôl i Aberystwyth, gweld y lle unwaith eto, gweld ei ffrindiau a chael dathlu.
“Dyna mae pobol yn edrych ymlaen amdano wrth raddio yn hytrach na’r seremoni ei hun.”