Mae undeb amaeth yn paratoi i lansio her gyfreithiol yn erbyn rheolau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar lygredd amaethyddol.

Mae’r rheolau yn cyfyngu ar y defnydd o slyri ledled y wlad trwy osod y genedl gyfan dan ‘Parth Perygl Nitradau’,  ddaeth i rym ar ddechrau’r mis.

Dadl y Llywodraeth yw y bydd hyn yn cyfyngu ar y niwed amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan nitradau, ac mae grŵpiau amgylcheddol a physgotwyr yn croesawu’r cam.

Ond mae ffermwyr yn frwd yn erbyn y cynlluniau, a bellach mae’r NFU wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gweithredu’n gyfreithiol yn erbyn y rheolau newydd.

“Nid yw ‘Parth Perygl Nitradau’ sydd dros Gymru gyfan yn caniatáu hyblygrwydd, ac mae’n gyfwerth â chosb,” meddai’r undeb.

“Mi fydd yn cael effaith ar bob sector, pob rhan o Gymru, ac mi fydd pob ffermwr yn gorfod cydymffurfio â chyfyngiadau cymhleth ar eu busnes pob dydd.

“A hyn i gyd am fuddion amgylcheddol a fydd yn ymddangos yn eitha’ pitw.

“Dyma pam rydym ni, ynghyd â’n cyfreithwyr . . . wedi gofyn bod Llysoedd y Gyfraith yn edrych ar y rheoliadau yma ac yn penderfynu os ydyn nhw’n rhesymol ai peidio.”

Pam bod gwrthwynebiad?

Bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn raddol dros dair blynedd a hanner, ac mae disgwyl y bydd hyn yn effeithio ffermydd da godro yn bennaf.

Dan y drefn newydd, bydd ffermwyr yn cael eu rhwystro rhag rhoi slyri ar eu caeau am dri mis y flwyddyn – o ddiwedd hydref ymlaen – er mwyn osgoi’r misoedd gwlypaf.

Mae ffermwyr yn dadlau y gallai’r rheol hon waethygu’r sefyllfa, oherwydd bydd rhai yn diweddu fyny yn gwaredu cyflenwadau, munud olaf, cyn i’r cyfyngiadau ddod i rym.

Mae cyfres o ddadleuon wedi’u cynnal ynghylch y mater yn y Senedd.

Cafodd dadl ei chynnal gan y Ceidwadwyr ym mis Chwefror, a gan Blaid Cymru ar ddechrau mis Mawrth.

Yn ymateb i gais gan golwg360 dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddi sylw pellach am y mater.

Cynnig Plaid Cymru i ddiddymu mesurau llygredd amaethyddol yn methu

Llywodraeth Llafur yn ennill y dydd mewn pleidlais agos wedi dadl danllyd