Bydd pobol o dan 30 oed yn cael cynnig brechlynnau Pfizer neu Moderna yn y Deyrnas Unedig o hyn ymlaen, yn hytrach nag AstraZeneca.

Mae mwy o fanteision na pheryglon o dderbyn brechlyn AstraZeneca, meddai’r awdurdod rheoli ym Mhrydain (MHRA), wrth i reoleiddwyr Ewropeaidd ddod i’r casgliad fod achosion o geulo’r gwaed anghyffredin yn “sgil effaith prin iawn” i’r brechlyn.

Dyweda’r MHRA fod manteision mawr o ddefnyddio’r brechlyn, ac nad ydynt wedi dod i’r canlyniad ei fod yn achos i’r gwaed geulo.

Er hynny, maent yn dweud bod y cysylltiad yn mynd yn fwy cadarn.

Yn sgil nifer fach iawn o achosion o geulo’r gwaed ymysg bobol iau, a newid yn y cydbwysedd rhwng y peryglon a’r manteision o ddefnyddio brechlyn AstraZeneca, bydd pobol o dan 30 oed yn cael cynnig brechlynnau Pfizer neu Moderna.

Achosion o geulo’r gwaed yn “brin iawn”

Dywedodd Prif Weithredwr MHRA fod achosion o geulo’r gwaed yn “brin iawn.”

“Yn seiliedig ar y dystiolaeth ar hyn o bryd, mae manteision y brechlyn wrth gwffio Covid-19 yn parhau i fod yn fwy na’r perygl i fwyafrif helaeth o bobol,” meddai Dr June Raine.

“Mae ein hadolygiad wedi dod i’r canlyniad fod y risg o’r sgil effaith posib yma yn parhau i fod yn fychan iawn.”

“Mae’r dystiolaeth yn pentyrru, ac mae ein hadolygiad wedi dod i’r canlyniad bod angen gwneud mwy o waith i gadarnhau tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod y brechlyn yn achosi’r sgil effeithiau hyn, er ei fod yn bosibilrwydd cryf.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwnedd eu bod nhw’n cynnig y brechlynnau eraill i bobol o dan 30 oed er mwyn bod yn “hollol ofalus”, yn hytrach nag oherwydd bod “pryderon difrifol ynghylch ei ddiogelwch”.

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn ar Feddyginiaethau Dynol bod rhaid ystyried risgiau’r brechlyn ochr yn ochr â’r ffaith fod Covid yn “achosi i’r gwaed geulo.”

Bydd tua 7.8% o bobol sy’n cael Covid yn dioddef ceulo yn yr ysgyfaint, tra bod 11.2% yn dioddef thrombosis gwythiennau dwfn, esboniodd.

Sgil effaith “anghyffredin”

Daeth adolygiad gan yr Asiantaeth Feddyginiaeth Ewropeaidd i’r casgliad heddiw (Ebrill 7), y “dylid ychwanegu achosion anghyffredin o geulo’r gwaed gyda phlatennau gwaed isel fel sgil effaith anghyffredin” i frechlyn AstraZeneca.

“Mae’r brechlyn wedi profi i fod yn hynod effeithiol, mae’n atal salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai, ac mae’n achub bywydau,” meddai’r Asiantaeth Feddyginiaeth Ewropeaidd.

“Mae brechu yn bwysig ofnadwy wrth i ni gwffio Covid-19, ac mae angen i ni ddefnyddio’r brechlynnau sydd gennym ni er mwyn ein gwarchod rhag canlyniadau dinistriol.”

Cydbwysedd rhwng y risg a’r manteision yn “deneuach” ymhlith pobol iau

Yn y Deyrnas Unedig, mae’r MHRA wedi dweud y dylai pobol sydd wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca gymryd yr ail un.

Dim ond pobol sydd wedi dioddef achosion anghyffredin o geulo’r gwaed wedi’r dos cyntaf a ddylai beidio cymryd yr ail ddos.

Dylai unrhyw un sydd gan gyflyrau gwaed sy’n cynyddu’r risg o’r gwaed yn ceulo drafod y manteision a’r peryglon gyda’u meddyg cyn cael y brechlyn.

Hyd at Fawrth 31, roedd 79 o bobol yn y Deyrnas Unedig wedi dioddef o geulo’r gwaed ar ôl derbyn dos cyntaf o’r brechlyn.

Allan o’r 79, bu farw 19 o bobol, ond nid yw achos y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau ymhob achos.

Roedd 51 o’r 79 person yn fenywod, a 28 yn ddynion, i gyd rhwng 18 a 79 oed.

Allan o’r 19 fu farw, roedd 3 ohonynt o dan 30 oed, yn ôl yr MHRA.

Mae’r MHRA wedi dod i’r canlyniad bod y fantais o roi’r brechlyn yn uwch ymhlith pobol hŷn, ond bod y “cydbwysedd yn deneuach” ymhlith bobol iau.

Gofalwraig ddi-dâl o Rydaman yw’r person cyntaf i dderbyn brechlyn Moderna yn y Deyrnas Unedig

“Rydw i wrth fy modd, yn hapus iawn, ac yn teimlo’n freintiedig”