Bydd y Blaid Lafur yn lansio eu maniffesto etholiadol ar gyfer y Senedd heddiw gan gyhoeddi eu cynlluniau i adfer Cymru wedi Covid.

Mae’r maniffesto yn addo adeiladu Cymru “gryfach a thecach”.

Mae chwe phrif ymrwymiad yn rhan o’r maniffesto:

  • Adfer wedi Covid: Cyflwyno’r rhaglen ddal-i-fyny fwyaf erioed ar gyfer y GIG ac ysgolion, ac adeiladu ysgol feddygol newydd yn y gogledd.
  • Gwarant i Bobol Ifanc: Sicrhau bod pob person ifanc o dan 25 yn cael cynnig swydd neu le ar gwrs addysg uwch, hyfforddiant, neu gymorth i ddechrau busnes eu hunain.
  • Bargen Deg i Ofalwyr: Rhoi Bargen Deg i ofalwyr, a sicrhau eu bod nhw’n derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • Gwlad Werddach: Gweithredu er mwyn cenedlaethau’r dyfodol, a gwneud Cymru’n wlad werddach drwy wahardd plastig un-defnydd a chreu Coedwig Genedlaethol.
  • Cymunedau Saffach: Cadw’n cymunedau yn sâff drwy roi 100 Swyddog Cynorthwyo’r Gymuned ychwanegol ar y strydoedd, gan ariannu cyfanswm o 600 ohonynt.
  • Swyddi Newydd i Gymru: Creu miloedd o swyddi gyda chwyldro adeiladu tai carbon isel, gan gynnwys adeiladu 20,000 ohonynt i’w rhentu.

Ynghyd â hynny, mae’r maniffesto yn manylu ar syniadau eraill i sicrhau bod Cymru’n symud yn ei blaen.

Yn eu plith, bydd y Blaid Lafur yn buddsoddi mewn Canolfannau Iechyd a Gofal newydd, blaenoriaethu buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a hyfforddi 12,000 o ddoctoriaid, nyrsys, arbenigwyr iechyd, a seicolegwyr.

‘Uchelgais’

“Mae dewis yn yr etholiad yma. Mae’n ymwneud ag ymddiriedaeth ac uchelgais,” meddai Mark Drakeford, arweinydd y Blaid Lafur.

“Dewis i fuddsoddi yn nyfodol ein pobol ifanc gyda Llywodraeth Lafur, neu gymryd llwybr gwahanol.

“Heddiw, rydym ni’n lansio maniffesto sy’n cyflwyno cynllun y Blaid Lafur er mwyn buddsoddi yn y dyfodol. Ynghyd â’n helpu ni i adfer ar ôl Covid, bydd y cynllun yn gwneud mwy – adeiladu Cymru’r dyfodol,” meddai

Disgrifiodd y maniffesto fel un sydd yn “symud Cymru yn ei blaen.”

Wrth ymateb i lansiad maniffesto’r Blaid Lafur, dywedodd ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Wrecsam, Jeremy Kent: “”Mae Llafur wedi bod mewn grym ers 22 mlynedd ac wedi methu â gwella ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Llafur yw’r unig blaid sydd erioed wedi torri cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig, a methon nhw gyflawni eu haddewidion mawr o etholiad Senedd 2016 drwy dorri eu haddewid i uwchraddio’r A55 ac ar ffordd liniaru’r M4.

“Does dim rheswm i gredu y bydd y tro hwn yn wahanol, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig all gyflawni newid ac adeiladu Cymru well gyda mwy o swyddi, ysbytai gwell ac ysgolion o’r radd flaenaf.”