Mae ymgeisydd seneddol wedi ymosod ar “fethiant Llafur”, gan ddadlau y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu ar bolisïau i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol.
Tynnodd Carrie Harper, ymgeisydd Plaid Cymru yn Wrecsam, sylw at “addewidion wedi eu torri, ymrwymiadau wedi’u gostwng, a thargedau wedi’u methu” dros yr ugain mlynedd diwethaf gyda’r Blaid Lafur mewn grym.
Ychwanegodd yr ymgeisydd, a gafodd ei geni a’i magu ym Mharc Caia lle mae 42% o blant yn byw mewn tlodi, fod cymunedau tlotaf Cymru wedi cael eu “siomi a’u gadael ar ôl.”
Daw hyn wrth i’r Blaid Lafur lansio eu maniffesto heddiw (Ebrill 8).
“Mae Llafur wedi cynrychioli fy nghymuned gartref yn Wrecsam ar bob lefel o lywodraeth ar ryw adeg trwy gydol fy mywyd,” meddai Carrie Harper.
‘Bradychu’
“Mae eu geiriau cynnes ar gyfiawnder cymdeithasol yn cael eu bradychu gan eu record o addewidion wedi eu torri, ymrwymiadau wedi eu gollwng, a thargedau wedi’u methu.
“Ym Mharc Caia lle cefais fy ngeni a fy magu, mae ffigurau’n dangos bod 42% o blant yn byw mewn tlodi. Gosododd Llafur darged o ddileu tlodi plant erbyn 2020 ond fe’i gollyngwyd pan ddaeth yn amlwg y byddent yn methu.
“Ar ôl addo dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, fe oruchwyliodd Llafur gynnydd o 40% yn nifer yr eiddo gwag ledled Cymru,” ychwanegodd.
“Er gwaethaf ymrwymo i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd, pleidleisiodd Llafur yn erbyn Deddf Awtistiaeth mawr ei hangen yng Nghymru.
“Ac er eu bod yn honni eu bod ar ochr teuluoedd, mae Llafur wedi anwybyddu eu Hadolygiad Tlodi Plant eu hunain ac wedi pleidleisio yn erbyn ehangu Prydau Ysgol Am Ddim i blant o aelwydydd ar Gredyd Cynhwysol.
“Gyda rhaglen uchelgeisiol i greu 60,000 o swyddi, cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, rhoi taliad plant wythnosol o £35 i deuluoedd, a hyfforddi a recriwtio 6,000 o feddygon, nyrsys, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i brofi nad oes problem na all Cymru ei datrys drosom ein hunain.”