Mae’r Ceidwadwyr wedi addo “rhewi’r” dreth gyngor am ddwy flynedd gyntaf tymor nesaf y Senedd, gyda’r bwriad o rewi am y tymor llawn.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae’r Dreth Gyngor yng Nghymru o dan Lafur wedi treblu ers 1998, tra eu bod £wedi methu â rhoi mwy o bŵer i gymunedau dros godiadau gormodol yn y dreth gyngor.”
Dywedodd llefarydd Llywodraeth leol Ceidwadwyr Cymru ac ymgeisydd De Ddwyrain Cymru, Laura Anne Jones: “Gyda phwysau ar incwm aelwydydd yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni wella o’r pandemig, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei gadw ym mhocedi pobl a theuluoedd gweithgar yng Nghymru.
‘Optimistiaeth’
“Ledled Cymru, mae cymunedau wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac i ymladd Covid-19.
“Wrth i ni ddechrau gweld llygedyn o optimistiaeth yn ein brwydr yn erbyn y feirws, bydd goblygiadau economaidd a chostau byw yn dechrau taro adref, ac mae pobl ledled Cymru bellach yn poeni am filiau’r dyfodol.
“Er mwyn lleddfu pryderon difrifol, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn rhewi biliau’r dreth gyngor am o leiaf ddwy flynedd gyntaf tymor nesaf y Senedd, gyda’r uchelgais o’i rewi am y pum mlynedd nesaf.
“Mae mwy o arian ym mhocedi cefn pobl yn golygu mwy o arian mewn tiliau lleol ac o ganlyniad mwy o gefnogaeth i adferiad economaidd Cymru.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pobl gyda chostau byw yng Nghymru ac yn helpu teuluoedd i fynd yn ôl ar eu traed ar ôl anawsterau’r 12 mis diwethaf.”