Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud na fyddai’n cefnogi refferendwm ar annibyniaeth oni bai bod Plaid Cymru yn ennill mwyafrif yn y Senedd.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynnal refferendwm erbyn 2026 os yw’n ffurfio’r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Ond dywedodd Mark Drakeford, na allai Plaid ddisgwyl cynnal y refferendwm hwnnw os na fydd yn ennill mwyafrif o seddi’r Senedd ar Fai 6.

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru wrth raglen Today ar BBC Radio 4 heddiw (Ebrill 8): “Rwyf bob amser wedi credu pe bai plaid yn ennill etholiad yng Nghymru gyda refferendwm ar annibyniaeth yn ei maniffesto yna byddai wedi ennill yr hawl i gynnal refferendwm o’r fath.

“Ond os yw plaid yn rhoi’r cynnig hwnnw ac nad yw’n ennill mwyafrif, ni allai ddisgwyl y byddai hynny wedyn yn cael ei weithredu.”

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai’n ei wneud pe bai Plaid Cymru yn gofyn am yr ymrwymiad hwnnw fel pris i gefnogi Llafur yn y Llywodraeth nesaf, dywedodd: “Rwy’n credu bod hynny yn bell iawn i ffwrdd ac nid dyma fydd y prif sylw yn yr etholiad hwn.”

Mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod e o blaid y Deyrnas Unedig a bod Cymru yn rhan o’r Undeb.

“Dw i’n credu yn y Deyrnas Unedig, a dw i’n credu ei bod o fudd i ddyfodol Cymru ein bod ni’n cymryd rhan mewn Deyrnas Unedig lwyddiannus, a bod y Deyrnas Unedig yn well o gael Cymru’n rhan ohoni,” meddai wrth egluro’i safbwynt.

Hyfforddi 12,000 o staff i weithio yn y GIG

Daeth ei sylwadau cyn lansiad maniffesto etholiad y Blaid Lafur, lle mae’r blaid yn ymrwymo i hyfforddi 12,000 o staff i weithio yn y GIG os yw’n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Ymhlith yr addewidion eraill mae sefydlu ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru a gwell tâl i staff gofal cymdeithasol.

Dywedodd Llafur Cymru y bydd hefyd yn cadw cynllun bwrsariaeth y GIG, sy’n cynnig grantiau i bobl sy’n hyfforddi i fod yn nyrsys neu’n weithwyr proffesiynol ym maes iechyd.