Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ceisio tawelu pryderon am frechlyn Rhydychen/AstraZeneca wrth i reoleiddwyr yn y Deyrnas Unedig ddweud bod cysylltiad posib rhwng y brechlyn a “math prin iawn” o geulad gwaed.
Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA) yn dweud bod y manteision o gael y brechlyn yn fwy na’r risg o ddioddef ceulad gwaed. Er nad yw wedi dod i’r casgliad bod y brechlyn yn achosi ceulad gwaed prin yn yr ymennydd, mae’n dweud bod y cysylltiad yn dod yn fwy amlwg.
Mae rheoleiddwyr wedi argymell bod pobl rhwng 18 a 29 oed yn Lloegr cael cynnig brechlyn Pfizer, Moderna neu frechlynnau eraill sy’n cael eu cynhyrchu wrth i’r rhaglen frechu barhau yn y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn dal i ystyried manylion y cyhoeddiad.
Yn y cyfamser mae teulu cyfreithiwr fu farw o geulad gwaed ar ôl cael brechlyn AstraZeneca, wedi annog y cyhoedd i “barhau i achub bywydau” drwy gael y brechlyn pan mae’n cael ei gynnig. Bu farw Neil Astles, 59, ar Ddydd Sul y Pasg ar ôl cael y brechlyn ar Fawrth 17.
Brechlyn “yn ddiogel”
Mae Boris Johnson wedi mynnu bod y brechlynnau yn “ddiogel” gan ychwanegu “maen nhw wedi achub miloedd o fywydau a dylai pobl barhau i gael eu brechu – fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr eu bod yn cael y brechlynnau cywir.”
Roedd prif weithredwr y MHRA, Dr June Raine, wedi dweud wrth gynhadledd i’r wasg bod yna gysylltiad posib rhwng y brechlyn AstraZeneca a cheulad gwaed ond fe bwysleisiodd eu bod yn “hynod o brin”.
Dywed y MHRA eu bod nhw wedi derbyn 79 adroddiad am geulad gwaed hyd at Fawrth 31 ymhlith pobl oedd wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, o tua 20 miliwn dos oedd wedi cael eu rhoi.
O’r 79 hynny, mae 19 o bobl wedi marw, er nad ydyn nhw wedi darganfod beth oedd achos eu marwolaeth ym mhob un o’r achosion hynny. O’r 19 fu farw, roedd tri o dan 30 oed.
Yn ôl y MHRA dylai pobl sydd wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca barhau i gael ail ddos.