Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i python wyth troedfedd o hyd gael ei ganfod ar fferm yn ardal Merthyr.
Daeth aelod o’r cyhoedd o hyd i’r python ar dir ger Troedyrhiw, a’i drosglwyddo i’r RSPCA.
Dywedodd arolygydd yr RSPCA Dave Milborrow: “Mae’n rhaid bod dod o hyd neidr mor fawr â hyn yn yr awyr agored yn dipyn o sioc!”
Nid dyma’r python mwyaf – gall menywod dyfu hyd at 28tr o hyd.
‘Gwenwynig’
Er nad ydyn nhw’n wenwynig, maen nhw’n dal i allu brathu a gwasgu. Mae angen gwybodaeth arbenigol am nadroedd i’w cadw’n ddiogel.
Meddai Dave Milborrow: “Dydyn ni ddim yn gwybod a oedd y neidr hon wedi dianc neu wedi cael ei gadael, felly rydyn ni’n awyddus i gael gwybod mwy – a hefyd eu cael adref os ydyn nhw wedi dianc.”
Mae’r neidr wedi’i throsglwyddo i geidwad arbenigol, lle caiff ei chadw os na fydd y perchennog yn cael ei ganfod.
Nid yw nadroedd yn gallu cynhyrchu eu gwres corff eu hunain ac mae nhw yn dibynnu ar eu hamgylchedd i gynnal tymheredd eu corff.
Os byddant yn mynd yn rhy oer efallai na fyddant yn gallu bwydo neu symud fel arfer, ac ni fydd eu system imiwnedd yn gweithio’n iawn i ymladd clefydau, sy’n golygu y gall yr anifail fynd yn sâl iawn.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â llinell apeliadau’r RSPCA ar 0300 123 8018.