Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cyhuddo y grymoedd diogelwch yn Myanmar o ladd dwsinau o bobl ddiniwed, gan gynnwys plant, ar ddiwrnod blynyddol y lluoedd arfog.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab fod y drefn wedi ymestyn i’r gwaelodion heddiw wrth i filwyr a’r heddlu geisio atal protestiadau yn y diwrnod mwyaf gwaedlyd ers y coup milwrol fis diwethaf.

Dywedidd ymchwilydd annibynnol yn Yangon fod ddros 100 wedi eu lladd mewn rhagor na dau ddwsin o ddinasoedd a threfi.

Dywedodd Mr Raab: “Mae lladd sifiliaid heddiw, gan gynnwys plant, yn nod isel newydd.

“Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol i roi terfyn ar y trais hwn, dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif, a sicrhau llwybr yn ôl i ddemocratiaeth.”

Dywedodd Dan Chugg, llysgennad Prydain yn Yangon, fod y grymoedd diogelwch wedi cywilyddio eu hunain drwy saethu sifiliaid.

Rheolaeth filwrol

Mae nifer y marwolaethau wedi bod yn codi’n gyson wrth i’r awdurdodau ddefnyddio mwy o rym a thrais yn dilyn y coup militaraidd a ddymchwelodd lywodraeth etholedig Aung San Suu Kyi fis diwethaf.

Roedd canlyniadau’r etholiad yn dilyn blynyddoedd o gynnydd tuag at ddemocratiaeth ar ôl pum degawd o reolaeth filwrol.

Dywedodd Phil Robertson, dirprwy gyfarwyddwr Asia ar gyfer Human Rights Watch o Efrog Newydd: “Mae hwn yn ddiwrnod o ddioddefaint a galaru i bobl Myanmar, sydd wedi talu am ddrahauster y Tatmadaw (enw arall ar y fyddin) ac wedi colli eu bywydau, dro ar ôl tro.

Galwodd Mr Robertson am erlyn y lluoedd arfog mewn llysoedd cyfreithiol rhyngwladol.

Ddydd Gwener, roedd Cymdeithas y Carchardai Gwleidyddol wedi cyfirf bod 328 o bobl wedi eu lladd yn dilyn y coup.

Mae’r fyddin wedi bywth y byddan nhw’n saethu unrhyw un sy’n protestio yn eu pennau neu yn eu cefnau.