Mae llywodraeth Gwlad Pwyl wedi cynnig cyfreithiau newydd a fyddai’n rhoi “pensiynau” i gŵn a cheffylau sy’n gwasanaethu gyda heddlu, gwarchodwr ffiniau a gwasanaeth tân y wlad.

Pan ddaw eu hamser ar gyfer ymddeol, mae gofal y wladwriaeth fel arfer yn dod i ben ar gyfer y cŵn a’r ceffylau sy’n gwasanaethu’r wladwriaeth yng Ngwlad Pwyl ac maen nhw’n cael gwared a’r creaduriaid, heb unrhyw fesurau diogelu ar gyfer eu lles yn y dyfodol.

Yn dilyn apeliadau gan aelodau o’r gwasanaeth tân, mae gweinyddiaeth fewnol Gwlad Pwyl nawr wedi cynnig deddfwriaeth newydd a fyddai’n rhoi statws swyddogol i’r anifeiliaid ac ymddeoliad â thâl i helpu i dalu am y biliau gofal costus y mae eu perchnogion newydd yn eu hwynebu.

Disgrifiodd Mariusz Kaminski, y gweinidog mewnol, y gyfraith ddrafft fel “rhwymedigaeth foesol” a ddylai gael cefnogaeth unfrydol pan gaiff ei chyflwyno yn y senedd i’w chymeradwyo yn ddiweddarach eleni.

‘Angen gofal meddygol drud’

Dywedodd Mr Kaminski: “Mae mwy nag un bywyd dynol wedi’i achub, mwy nag un trosedd peryglus wedi’i ddal diolch i’r anifeiliaid sydd mewn gwasanaeth.”

Byddai’r gyfraith newydd yn effeithio ar ryw 1,200 o gŵn a mwy na 60 o geffylau sydd mewn gwasanaeth ar hyn o bryd.

Bob blwyddyn, mae tua 10% o’r anifeiliaid yn ymddeol, yn ôl y weinidogaeth fewnol. Mae’r rhan fwyaf o’r cŵn yn Bugeiliaid Almaeneg neu Belgaidd.

Dywedodd Pawel Kuchnio o heddlu Warsaw Orbita, fod cŵn sydd wedi ymddeol bron bob amser angen gofal meddygol drud.

Bydd yr arian pensiwn “yn sicr yn help mawr a bydd yn gwneud pethau’n haws”, meddai.

Ychwanegodd y Rhingyll Katarzyna Kuczynska: “Mae’r anifeiliaid hyn wedi gweithio i’r wladwriaeth, maen nhw wedi gwneud eu gwaith yn dda a dylen nhw fod â hawl i ofal iechyd ac ymddeoliad priodol – ar borfeydd gwyrdd, yn achos ceffylau.”