Roedd y trais tuag at yr heddlu yn ystod protest arall ym Mryste neithiwr yn “warthus”, yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth Boris Johnson y sylwadau wrth i swyddogion ddweud eu bod yn pryderu y gallai mwy o anhrefn ddilyn.

Dywedodd Mr Johnson bod yr heddlu a’r ddinas wedi cael ei gefnogaeth lawn yn dilyn gwrthdaro pellach yn nhrydydd gwrthdystiad Kill the Bill ym Mryste.

Trydarodd: “Neithiwr gwelwyd ymosodiadau gwarthus yn erbyn swyddogion yr heddlu ym Mryste.

“Ni ddylai ein swyddogion orfod wynebu cael briciau, poteli a thân gwyllt yn cael eu taflu atynt gan griw sy’n benderfynol o drais ac achosi difrod i eiddo. Mae’r heddlu a’r ddinas yn cael fy nghefnogaeth lawn.”

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel drydar hefyd ei bod hi’n amlwg mai’r bwriad oedd achosi helynt

Gorymdaith

Ychwanegodd: “Mae’r trafferthion ym Mryste a’r trais sy’n cael ei gyfeirio tuag at yr heddlu yn fy ffieiddio.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd y mwyafrif tawel, sy’n cadw at y gyfraith, yn cael ei brawychu gan weithredoedd y lleiafrif troseddol hwn.

“Er gwaethaf rhybuddion mynych i wasgaru, mae’n amlwg mai dim ond bwriad i achosi helynt oedd gan y drwgweithredwyr yma.”

Daw ei sylwadau ar ôl i 10 gael eu harestio ar ôl yr hyn a ddisgrifiodd yr heddlu yn “ymddygiad treisgar” annerbyniol yn y brotest.

Ymunodd tua 300 o bobl mewn gorymdaith brotest drwy ganol y ddinas yn erbyn Mesur Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd newydd y Llywodraeth nos Wener, cyn i’r dorf chwyddo i ragor na 1,000 wrth i’r tensiwn gynnyddu.

 

Rhagor o brotestiadau

Fe wnaeth swyddogion yr heddlu oedd yn gwisgo helmedau ac defnyddio tariannau wasgaru’r protestwyr ar ôl 10yh oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod poteli gwydr, briciau, paent, wyau a thân gwyllt wedi cael eu taflu at swyddogion.

Roedd protestwyr hefyd wedi saethu goleuadau laser i wynebau swyddogion, meddai’r llu.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark Runacres heddiw bod yr heddlu’n paratoi ar gyfer rhagotr o brotestiadau dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd y bydd newidiadau mewn deddfwriaeth ddydd Llun yn caniatáu i’r heddlu ymgysylltu’n fwy effeithiol â threfnwyr protest.

Cyn yr arestiadau, roedd protestwyr yn dawnsio i gerddoriaeth er gwaethaf glaw trwm, yn dosbarthu blodau ac yn arddangos sloganau fel “Pwy ydych chi’n ei ddiogelu?” a “Chyfiawnder i Sarah”, gan gyfeirio at farwolaeth Sarah Everard.

Mae’r swyddog heddlu Wayne Couzens, 48, o Deal, Swydd Cent, wedi ei gyhuddo o’i llofruddiaeth.

Byddai Mesur arfaethedig yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn rhoi mwy o bŵer i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr osod amodau ar brotestiadau di-drais, gan gynnwys y rhai a ystyrir yn rhy swnllyd neu niwsans, gyda’r rhai a gollfarnwyd yn agored i ddirwyon neu garchar.