Mae’r heddlu wedi cael amser ychwanegol i holi dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yng Ngwynedd dydd Iau.

Cafodd y dyn ei arestio ar ôl i Dafydd Thomas, 65, gael ei ddarganfod yn farw ym Minffordd, ger Porthmadog.

Heddiw dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael caniatâd i’w gadw yn y ddalfa am gyfnod pellach.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell: “Mae ymholiadau helaeth yn parhau i amgylchiadau’r digwyddiad hwn, a hoffwn ddiolch i deulu Dafydd Thomas, a’r gymuned leol am eu holl gefnogaeth.

“Hoffwn ofyn hefyd, os oes unrhyw un wedi gweld unrhyw beth amheus yn yr ardal, neu yn wir wedi gweld Dafydd ar Mawrth 25, dewch i siarad â ni, i’n helpu ni i lunio digwyddiadau ddydd Iau diwethaf.”

Roedd Mr Thomas yn berchen ar gwmni gwaredu gwastraff GEWS ym Mhenrhyndeudraeth.

Ddoe fe dalodd deulu Mr Thomas deyrnged  i “ŵr, tad a thaid rhyfeddol”.