Er fod ychydig o lacio heddiw ar y cyfyngiadau coronofeirws yng Nghymru, mae arbenigwr wedi rhybuddio “nid yw’r haint wedi diflannu.”

Dengys ffigyrau newydd heddiw fod saith o bobl yn ychwanegol wedi marw yng Nghymru gan ddod a’r cyfanswm i 5,505.

Cofnodwyd 201 o achosion newydd hefyd yn dod a’r cyfanswm i 208,895 ers dechrau’r pandemig.

O heddiw mae pobl Cymru yn cael teithio unrhyw le o fewn ffiniau’r wlad – ond nid oes hawl gan unrhyw un o wlad arall, gan gynnwys Lloegr, deithio yma, heb ei fod yn hanfodol.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi gofyn i bobl “feddwl am ble maen nhw’n mynd” ac osgoi llefydd prysur os ydyn nhw’n teithio y penwythnos hwn.

Mae busnesau lletygarwch hunangynhwysol, sy’n cynnwys rhai gwestai a bythynnod, hefyd wedi cael ailagor heddiw.

Mae’r newidiadau yn golygu mai Cymru ydy’r wlad gyntaf yn y DU i ganiatáu teithio heb rwystrau unwaith yn rhagor i unrhyw le o fewn ei ffiniau.

Sefydlog

Dywedodd Mr Drakeford bod modd llacio mwy o’r cyfyngiadau am fod “sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau’n sefydlog”.

Ond dangosodd map gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod Gwynedd mewn coch heddiw gyda 17 o achosion – y trydydd uchaf yng Nghymru ar ôl Abertawe (21) a Chaerdydd (19).  Roedd wyth o’r achosion yma yn ardal deheuol dinas Bangor sef yr ardal gyda’r nifer uchaf o achosion heddiw.

Roedd dim un achos mewn 70% o weddill Cymru.

Mae’r rheolau ynghylch nifer y bobl sy’n cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, wedi cael eu llacio hefyd.

O heddiw mae hyd at chwech o bobl, yn hytrach na phedwar, o ddwy aelwyd wahanol yn cael cwrdd. Does dim rhaid cyfrif plant dan 11 oed o fewn y cyfanswm hwnnw.

Mae gweithgareddau awyr agored a chwaraeon sydd wedi eu trefnu ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed wedi cael caniatâd i ailddechrau hefyd.

 

 

Yn ogystal, mae llyfrgelloedd ac archifdai yn cael ailagor a bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau, a rhai safleoedd a gerddi hanesyddol.

Fodd bynnag, dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i’r achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y gofyniad ‘aros yn lleol’ yn cael ei godi heddiw, dydd Sadwrn, Mawrth 27, ac y gall llety gwyliau hunangynhwysol agor i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.  Dylai pobl aros o fewn ffiniau Cymru, oni bai bod angen gwneud taith hanfodol fel mynd i’r gwaith neu ar gyfer addysg.

“Yn ogystal, gall chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored, gall gweithgareddau wedi’u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant dan 18 oed ailddechrau, a gall llyfrgelloedd ailagor.

‘Calonogol’

“Mae’r ychydig o lacio hwn ar reolau cyfyngiadau symud Covid yn galonogol, ond mae’n rhaid i ni fod yn glir iawn nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu. Er bod nifer yr achosion yn gostwng yn gyffredinol, mae sawl ardal sydd â chyfraddau uwch o hyd ac mae nifer fawr o bobl sydd dal heb gael eu brechu.  Er mwyn diogelu pawb, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed, rhaid i ni i gyd lynu wrth y rheolau.

“Mae’n rhaid i bawb fod yn wyliadwrus yn gyson drwy gadw 2m oddi wrth bobl nad ydych yn byw gyda nhw, ymarfer hylendid dwylo a gwisgo masg mewn lleoedd dan do.

“Mae’n glir nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu.

“Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylech fynd i unrhyw gartref arall na chymysgu dan do â phobl eraill nad ydych yn byw gyda nhw.

“Os bydd eich tîm Profi, Olrhain, Diogelu lleol yn cysylltu â chi, mae’n bwysig eich bod chi’n dweud y gwir wrthyn nhw ynglŷn â lle rydych chi wedi bod a phwy rydych chi wedi cwrdd â nhw. Ni fyddant yn eich barnu. Eu nod yw helpu i atal trosglwyddiad parhaus y feirws ac i ddiogelu’r gymuned.

“Os byddwch chi neu aelod o’ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu drwy ymweld â  https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19.”