Golyga hyn fod hawl trefnu gweithgareddau awyr agored a chwaraeon ar gyfer plant a phobol ifanc unwaith eto.
Ac mae aelod o bwyllgor clwb pêl-droed yn y gogledd wedi croesawu’r llacio, ond yn rhybuddio na fydd pethau yn setlo am sbel.
O fory ymlaen, bydd pobol yn cael teithio i unrhyw le o fewn Cymru, a chwe pherson o ddwy aelwyd wahanol yn cael cyfarfod tu allan.
Yn ogystal, bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor, gyda chyfyngiadau, ynghyd â rhai lleoedd a gerddi hanesyddol.
Bydd llety gwyliau hunan-ddarpar, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o’r un aelwyd neu swigod cymorth.
Ond, mae aelod o bwyllgor Clwb Pêl-droed Blaenau Ffestiniog wedi dweud na fydd ymarferion yn ailddechrau tan ganol yr haf.
“Gan na fydd y gynghrair yn dechrau tan ddiwedd yr haf, fydd ymarfer y tîm cyntaf na’r timau ieuenctid ddim yn dechrau tan ganol haf,” meddai Dewi Prysor, aelod o bwyllgor Clwb Pêl-droed Blaenau Ffestiniog.
“Felly o ran y clwb, mae hi’n anodd i ni ymateb i’r newyddion am lacio rheolau chwaraeon awyr agored plant ac ieuenctid ar y funud. Mater i ysgolion a rhieni ydi o ar y funud, ynde.
“Ond wedi dweud hynny, mae gweld plant ac ieuenctid yn cael mynd allan i ymestyn eu coesau ac ailgydio mewn chwaraeon, a chael dipyn o awyr iach ar ôl bod yn gaeth yn eu tai am gyhyd, yn rhywbeth i’w groesawu,” ychwanegodd.
“Ac wrth gwrs, mi all hyn fod yn gychwyn ar y broses o lacio pellach ar y rheoliadau chwaraeon yn gyffredinol – gobeithio!
“Ond tra bo’r pandemig yn dal o’n cwmpas ni, a dim sicrwydd o be ddigwyddith o un wythnos i’r llall, mae yna risg efo pob llacio rheolau.
“Felly, mae hi’n rhy gynnar i ddechrau chwythu’r trwmpedau,” pwysleisia.
“Tan y bydd pethau’n gwella o ddifri – y brechlyn yn cyrraedd pawb, a dim trydedd ton o covid yn dod i roi huddyg yn y potas – diogelwch y plant a’r ieuenctid, a’r gymuned, ydi blaenoriaeth y clwb, yn hytrach na dechrau cynhesu dwylo.”