Bydd Joe Allen yn colli gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth oherwydd anaf i’w goes.

Dim ond saith munud wnaeth y chwaraewr canol cae bara yn yr ornest rhagbrofol gyntaf nos Fercher, wrth iddo orfod gadael y cae draw yng Ngwlad Belg.

Fe gollodd y Cymry’r gêm agoriadol 3-1, er gwaethaf chwarae addawol yn yr ail hanner.

Bellach yn 31 oed, y gêm nos Fercher oedd y tro cyntaf i Joe Allen chwarae i’w wlad ers 2019, oherwydd anaf.

Ond bu yn chwarae yn gyson i’w glwb Stoke City eleni, felly mae’r anaf diweddaraf yn siom amlwg.

“Rydyn ni wedi colli Joe, sy’n drueni. Mae’n golled fawr i ni,” meddai rheolwr dros dro Cymru, Robert Page.

“Mae’n siomedig gorfod gwneud hebddo, bydd yn rhaid iddo fynd yn ôl i’w glwb nawr a byddan nhw’n ei asesu.”

Fe fydd Cymru yn croesawu’r Weriniaeth Tsiec i’r brifddinas nos Fawrth, wedi iddyn nhw ennill 6-2 yn eu gêm ragbrofol gyntaf yn Estonia.

Mae’r Weriniaeth Tsiec gartref yn erbyn Gwlad Belg nos Sadwrn.

Carreg filltir

Mae’r gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico nos Sadwrn yn addo bod yn achlysur arbennig i un o weision ffyddlona’r tîm cenedlaethol.

Bydd Chris Gunter yn gapten y tîm wrth iddo ennill i ganfed cap – y Cymro cyntaf i gyrraedd y garreg filltir.

“Mae’n esiampl o broffesiynoldeb i bawb ac mae’n haeddu 100 o gapiau, a’r holl glod y bydd yn ei gael am gyflawni hynny,” meddai Robert Page.

“Mae e’n fachgen da, yn sicr yn un o’r bobl rydych chi eisiau ei weld yn y gêm yn gwneud yn dda.”