Bydd y genedl yn dal ei gwynt am gwpwl o oriau heno wrth i Ffrainc wynebu’r Alban ym Mharis, gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y fantol.

Cymru sydd ar frig y tabl gydag ugain o bwyntiau, ond mae gan Ffarinc – sydd ar bymtheg pwynt – un gêm yn weddill.

A phe bae’r Ffrancod yn sicrhau buddugoliaeth o 21 neu fwy o bwyntiau heno, ac yn sgorio pedwar cais i sicrhau pwynt bonws, nhw fyddai’r pencampwyr.

Romain Ntamack fydd yn cychwyn y gêm yn safle’r maswr, wrth iddo lenwi esgidiau Matthieu Jalibert sydd wedi ei anafu.

Daeth Ntamack i’r cae ar gyfer diwedd y gêm gofiadwy gyda Chymru’r penywythnos diwethaf, a llywio’r chwarae yn ddeheuig wrth i’r Ffrancwyr sicrhau buddugoliaeth ddramatig 32-30 yn y munudau olaf.

Chwaraewyr eraill sy’n dod fewn i’r tîm ar gyfer yr ornest heno yw’r chwaraewyr ail-reng Bernard Le Roux a Swan Rebbadj, y blaenasgellwr Anthony Jelonch a’r canolwr Arthur Vincent.

“Mae’r tîm yma yn edrych fel y tîm wnaeth orffen y gêm yn erbyn Cymru ac fe chwaraeon nhw yn dda iawn yn ugain munud ola’r gêm honno,” meddai Fabien Galthie, Prif Hyfforddwr Ffrainc.

Ac mae Galthie wedi dweud wrth ei chwaraewyr i osgoi meddwl am ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 11 mlynedd, a chanolbwyntio ar ennill y gêm yn unig.

“Yr hyn sy’n allweddol yw chwarae yn dda ac ennill, a bydd y gweddill yn dibynnu ar sut aiff y gêm,” meddai.

“Ond mae gan yr Alban uchelgais hefyd, oherwydd os ydyn nhw yn ennill o wyth pwynt fe fyddan nhw yn gorffen yn yr ail safle, sy’nrhywbeth sydd heb ddigwydd iddyn nhw ers amser maith.”

Yn wir, nid yw’r Alban erioed wedi gorffen cyn uched â’r ail safle yn hanes y Chwe Gwlad.

Mae’r gic gyntaf am wyth y nos a’r ornest yn fyw ar BBC One Wales