Mae Connor Roberts yn cyfaddef na all Cymru fforddio colli yn erbyn y Weriniaeth Tsiec pan fyddan nhw’n chwarae yn eu herbyn yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd wythnos nesaf.

Dechreuodd Cymru eu hymgyrch neithiwr (Mawrth 24), gan golli 3-1 i Wlad Belg, tra bod Gweriniaeth y Tsiec wedi curo Estonia o chwe gôl i ddwy.

Gallwch ddarllen adroddiad o gêm Cymru, isod.

Cymru’n colli yng Ngwlad Belg

Colli gêm gyntaf ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd

Gemau nesaf

Bydd Gweriniaeth Tsiec yn chwarae Gwlad Belg ddydd Sadwrn (27 Mawrth), cyn chwarae yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd ddydd Mawrth nesaf (30 Mawrth).

“Gallwch ddweud bod rhaid i ni beidio â cholli efallai, ond fyddwn i ddim yn dweud bod hi’n gêm mae’n rhaid ei hennill,” meddai Connor Roberts, amddiffynnwr Abertawe.

“Maen nhw wedi dechrau’n dda, ond mae’r daith o’u blaenau nhw’n hir. Yn ystod gemau rhagbrofol yr Ewros fe wnaethom ni golli i Croatia, ond llwyddo i fynd drwodd.

“Nid dyma holl hanfod a diben yr ymgyrch – mae gennym ni lawer o gemau i’w chwarae.

“Dydw i ddim yn credu bod angen poeni gormod am y pethau hyn ar hyn o bryd, a, gobeithio, gallwn gael digon o bwyntiau i fynd drwodd yn y diwedd.”

Edrych yn ôl ar y gôl yn gadarnhaol

Chwaraeodd Cymru yn well yn ail hanner y gêm neithiwr, a sgoriodd Harry Wilson gôl wych yn yr hanner cyntaf.

“Roedd yn symudiad gwych, ac yn orffeniad da gan Harry,” meddai Connor Roberts.

“Gallwn edrych yn ôl ar y gôl yn gadarnhaol, a gobeithio gallu sgorio mwy o goliau fel honna.

“Roedd ’na sibrwd am Brazil wrth inni ddathlu!”

Allen allan

Daeth y gôl yn fuan wedi i Joe Allen orfod gadael y cae gydag anaf ar y seithfed munud, ac mae’r tîm yn disgwyl i glywed pa mor ddifrifol yw’r anaf.

“Mae’n edrych fel bod yr anaf yng nghefn ei ben-glin,” meddai Robert Page, rheolwr dros dro Cymru.

Gallai Joe Allen fethu’r gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ddydd Sadwrn, ac, yn bwysicach, y gêm yn erbyn Gweriniaeth Tsiec wythnos nesaf.

Daw hyn wedi i Gymru gael eu taro ag anafiadau ddechrau’r wythnos wrth i Aaron Ramsey, Ben Davies a Tom Lockyer orfod tynnu allan.