Mae tîm Cymru Wayne Pivac yn mynd o nerth i nerth, meddai Gwyn Jones…
Mae’r sylwebydd Gwyn Jones yn disgwyl llawenydd i dîm rygbi Cymru nos Wener yma (Mawrth 26), wrth i Ffrainc wynebu’r dasg anodd o guro’r Alban o 21 o bwyntiau a gorfod sicrhau pwynt bonws, er mwyn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar eu tomen eu hunain ym Mharis.
Mae gobeithion Cymru o ennill y Gamp Lawn yn wenfflam ar ôl noson siomedig yn y Stade de France y penwythnos diwethaf – ac aeth hanner can mlynedd heibio bellach ers i Gymru ennill y Gamp Lawn dramor. Ond mae buddugoliaeth Ffrainc o 32-30 yn golygu bod y bencampwriaeth yn benagored o hyd wrth i’r Ffrancwyr groesawu’r Albanwyr ar gyfer y gêm ohiriedig i gloi’r gystadleuaeth.
“Mae’n dalcen caled i guro tîm rhyngwladol â phwynt bonws ac o 21 o bwyntiau,” meddai Gwyn Jones am obeithion Ffrainc. “Dw i’n amau fod hynny’n mynd i fod yn ormod. Mae Ffrainc yn gwybod beth sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud o’r cychwyn cyntaf, ac mae hi’n bosib.
“Ond dw i’n dal yn teimlo bod Cymru, ar hyn o bryd, yn ffefrynnau i ennill y Bencampwriaeth, ond mi fydd yn dibynnu’n fawr ar faint o ymdrech ac egni fydd yr Alban yn rhoi mewn iddi.”
Boddi wrth ymyl y lan ym Mharis
Oni bai am 13 munud tyngedfennol ar derfyn gêm Cymru yn erbyn Ffrainc, byddai’r bois yn y crysau cochion wedi gallu mwynhau gêm ola’r Chwe Gwlad gan wybod fod y Gamp Lawn wedi’i hennill.
Ond mae Gwyn Jones yn gwrthod yr awgrym fod Cymru wedi colli’u pennau pan oedden nhw ar y blaen o 30-20 ac yn dal i fynd am y Gamp Lawn, ond yn cydnabod fod sawl digwyddiad yn y munudau clo wedi costio’n ddrud wrth iddyn nhw geisio amddiffyn deg pwynt o fantais ar ddiwedd gornest gorfforol.
Wnaeth Brice Dulin groesi cyn i’r dyfarnwyr Luke Pearce atal y cais am drosedd mewn sgarmes. Ond wrth droi at y dyfarnwr fideo Wayne Barnes, daeth trosedd fwy difrifol i’r amlwg, wrth i fysedd Paul Willemse fynd i lygad Wyn Jones, ac fe gafodd ei anfon o’r cae.
Dylai Cymru fod wedi gallu gorffen y gêm gyda mantais o un dyn, ond roedd awgrym fod y chwaraewyr yn dechrau colli rheolaeth wrth i’r dyfarnwr orfod siarad â’r capten Alun Wyn Jones i roi rhybudd olaf am droseddu parhaus gan ei dîm. Ac wrth i’r blinder ddechrau dangos, wnaeth Wayne Pivac dynnu Dan Biggar, Ken Owens, Tomas Francis a Jonathan Davies oddi ar y cae – a’r pedwar hynny yn hynod brofiadol.
“Mae e wedi’i wneud e yn reit gyson yn ystod y gystadleuaeth,” meddai Gwyn Jones am yr eilyddio.
“Mae e wedi gweithio bob tro mae e wedi’i wneud e o’r blaen. Roedd e’n benderfyniad ar ôl i Gymru fod o dan y lach ac fe wnaeth e’r penderfyniadau pan oedd cic gosb i Gymru – penderfyniadau i ennill tir a dod â choesau ffres ymlaen. Felly mae’n hawdd iawn edrych yn ôl a dweud: ‘efallai bo ni wedi gwneud hyn yn anghywir bryd hynny’.
“Ond roedd y bois wedi rhoi eu calonnau i mewn i’r gêm yn amddiffynnol, roedd coesau ffres Ffrainc yn bwysig iawn trwy’r gêm. Roedd rhaid i ni ymateb i hynna, dw i’n meddwl y byddai e wedi bod hyd yn oed yn waeth tasen ni ddim wedi gwneud y newidiadau.
“Wrth edrych yn ôl, roedd Biggar yn chwarae’n dda p’un a oedd e’n mynd i gael ei dynnu bant neu beidio. Roedd e newydd gael cramp ac mae Sheedy wedi creu argraff bob tro mae e wedi dod ymlaen i’r cae. Dw i ddim yn beio Pivac am y penderfyniadau yna. Dw i’n credu bod rhaid i ti fynd amdanyn nhw.”
A chollon nhw ragor o brofiad ar ôl 71 munud, wrth i Taulupe Faletau gael ei anfon i’r gell gosb am gamsefyll… a funudau yn ddiweddarach, bu i Liam Williams ddilyn Faletau i’r gell gosb am chwarae’r bêl oddi ar ei draed.
Gyda Cymru lawr I 13 dyn, fe gafodd y Ffrancwyr gais yn y pen draw, a Chymru ar y blaen 30-27 gyda munudau’n weddill ar y cloc.
Daeth cic gosb i’r Ffrancwyr, gyda Romain Ntamack yn cicio am lein i roi ei dîm ar ben ffordd i ymosod. Roedd y pwysau’n ormod i Gymru oddi ar symudiad ola’r gêm, ac fe ildion nhw bedwerydd cais.
“Ga’th hi ei cholli yn yr 13 munud olaf gyda’r digwyddiadau un ar ôl y llall gyda Ffrainc yn pwyso, ac roedd y pwysau’n ormod i ddisgyblaeth Cymru, a Ffrainc, chwarae teg, yn cadw siâp ac yn mynd amdani,” meddai Gwyn Jones.
“Unwaith mae’r momentwm yn mynd yn eich erbyn chi ac mae’r tîm arall yn sylweddoli bod cyfle, mae’n anodd iawn atal e. Dwi ddim yn credu bod Cymru wedi colli’u pennau, fe wnaethon nhw chwarae hyd orau eu gallu nhw ond roedd Ffrainc jyst tamaid bach yn fwy pwerus yn y deg munud olaf yna.”
Y Ffrancwyr yn cwyno
Mae Gwyn Jones yn teimlo bod digwyddiadau’n gynharach yn yr ail hanner wedi bod yn drobwynt allweddol yn yr ornest.
“Efallai taw eiliad bwysica’r gêm, serch hynny, oedd diffyg cais cosb gyda rhyw ugain munud i fynd pan oedd Wyn Jones â’r bêl dan ei gesail ac yn ymddangos bod Cymru’n mynd i gael cais, a daeth [Mohamed] Haouas i fewn ac atal y sgarmes symudol.
“Aeth sylw’r dyfarnwr wedyn at ymdrech Louis Rees-Zammit am gais ond, i fi, roedd hwnna’n gais cosb a byddai Cymru, efallai, wedi cael mwy o bwyntiau a bydden nhw mewn sefyllfa gryfach ar gyfer yr ugain munud olaf.”
Roedd y prif hyfforddwr Fabien Galthié yn cwyno ar ôl y gêm fod Cymru’n gwybod sut i sicrhau bod gwrthwynebwyr yn cael eu hanfon o’r cae. Cafodd Zander Fagerson a Peter O’Mahony gerdyn coch yr un yn y gemau yn erbyn yr Alban ac Iwerddon. Ond mae Gwyn Jones yn gwbl sicr fod y tri yn haeddu’r gosb, ac yn dweud bod sylwadau Galthié yn “warthus”.
“Bydd unrhyw un sy’n gwylio’r digwyddiad yn wrthrychol yn gweld bod bysedd yn llygad Wyn Jones. Dw i ddim yn meddwl bod amheuaeth am hynny, mae’r dystiolaeth yn glir. Mae’n gerdyn coch. Os yw Galthié yn trio cysylltu’r cardiau coch eraill yn y gystadleuaeth, mae hynny’n warthus achos dyw e ddim yn wir. Diffyg disgyblaeth yn erbyn Cymru oedd ar fai yn y tri digwyddiad hynny. Wnaeth Cymru ddim ychwanegu atyn nhw o gwbl.”
Ar y cyfan, roedd safon y dyfarnu’n dda, ac fe wnaeth Luke Pearce gyfathrebu a chyfleu’r penderfyniadau’n glir i’r chwaraewyr. Ond mae Gwyn Jones yn dweud bod Cymru wedi bod yn “ffodus” yn sgil un penderfyniad, a bod ganddo fe amheuaeth am ddau benderfyniad arall.
“Roedd [y cyfathrebu] yn glir i bawb oedd yn gwylio gartre’, a bydden i’n cytuno ynglŷn â’r ffaith fod y digwyddiadau ynglŷn â chais neu ddim cais i gyd yn gywir fel o’n i’n eu dadansoddi nhw, ond am un. Ro’n i’n meddwl efallai bod cais Josh Adams yn ffodus i gael ei roi i Gymru. Ro’n i’n meddwl bod llaw y Ffrancwr o dan y bêl, ond aeth hwnna o’n plaid ni.
“Ond roedd dau ddigwyddiad arall, y gic gosb roddodd e i Ffrainc lle wnaeth e gydnabod fod e wedi gwneud camgymeriad, ond yn dal i roi cic gosb i Ffrainc pan ddywedodd e “We can’t just ref the game on the video” a wedyn, y cais cosb. Gallen ni ddadlau nôl a ’mlaen ynglyn â hynny. Yn y pen draw, pan wyt ti’n cael gêm mor gyffrous, mor agos gyda cheisiau’n cael eu sgori, mae’n anodd i feirniadu’r dyfarnu am unrhyw beth ond am y ffaith gaethon ni ddrama reit tan yr eiliad olaf, ac mae’n rhaid i’r dyfarnwr fod yn rhan o hwnna, wrth gwrs.”
“Mae hwn yn dîm sydd yn heneiddio”
Tra bod Cymru’n aros i glywed ai nhw yw’r pencampwyr, bydd cryn ddadansoddi ar y flwyddyn aeth heibio – o’r Chwe Gwlad a’r hydref siomedig y llynedd i’r ymgyrch sydd wedi dod i ben â Chymru’n cipio’r Goron Driphlyg ac o bosib yn bencampwyr y Chwe Gwlad.
Os oedd amheuon o’r blaen am ddyfodol Wayne Pivac, gall y gŵr o Seland Newydd ymlacio rywfaint ac edrych tua Chwpan y Byd 2023 yn weddol hyderus. Mae’r perfformiadau wedi mynd o nerth i nerth, yn ôl Gwyn Jones, sy’n tynnu sylw at y ffaith fod Cymru wedi torri eu record am nifer y ceisiau mewn un ymgyrch, gydag 20.
“Bedwar mis yn ôl, roedd Cymru’n dod mas o gystadleuaeth yr hydref yn edrych yn gwbl ddi-siâp, heb gyfeiriad a heb unrhyw safon i’w chwarae nhw. Wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen, mae Cymru wedi gwella ym mhob gêm, a’r eironi yw mai’r gêm y’n ni’n colli yw’r perfformiad mwyaf graenus gafon ni drwy’r chwech neu’r saith wythnos.
“Beth y’n ni’n gadael y gystadlaeuaeth yn fwy calonogol amdano, efallai, yw’r ffaith fod pobol wedi amau fod dull Wayne Pivac a Stephen Jones, y dull ymosodol yma o ledu’r bêl, gwasgaru’r cae, creu bylchau, ddim yn mynd i weithio ar lefel ryngwladol, taw rhywbeth oedd ond yn mynd i weithio ar lefel ranbarthol oedd hynny. Ond mae hynny’n amlwg wedi cael ei brofi’n anghywir. Roedd Cymru wedi chwarae’r gêm fwyaf ymosodol maen nhw wedi’i chwarae drwy’r bencampwriaeth, sgori ceisiau a chreu problemau trwy gydol y gêm pan oedd y meddiant gyda nhw.
“Wrth symud ymlaen felly, dw i’n credu y gall Cymru fod yn hyderus pan bo nhw’n chwarae yn erbyn timau eraill ac efallai yn erbyn timau Hemisffer y De, bod y gallu gyda nhw i sgori ceisiau. Dyna, trwy gyfnod Gatland, oedd y broblem fawr, fod y diffyg sgori pwyntiau gyda ni. Ond os ydyn ni’n gwneud hynny, sgori ceisiau a bod yn fygythiol, dw i’n credu bod y dyfodol yn edrych yn wych o safbwynt beth y’n ni’n gallu’i greu.
“Yr amheuaeth sydd gyda fi, ychydig bach, yw fod hwn yn dîm sydd yn heneiddio. Mae’r cyfartaledd oedran yn eithaf uchel, mae pump o’r pac dros 30, felly rhaid adnewyddu rywbryd. Ond rhaid i hynny ddigwydd yn araf dros gyfnod.”