Gwlad Belg 3–1 Cymru
Colli fu hanes Cymru yn erbyn Gwlad Belg nos Fercher yng ngêm gyntaf yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd Qatar 2022.
Oddi cartref yn erbyn y tîm gorau yn y byd, ni allai Cymru fod wedi cael gêm anoddach i ddechrau Grŵp E ac er gwaethaf dechrau gwych gyda gôl Harry Wilson, roedd safon y tîm cartref yn ormod i dîm Rob Page yn y diwedd.
Y timau
Roedd ambell ddewis diddorol yn un ar ddeg cychwynnol Cymru. Nid oedd lle i Kieffer Moore a chafodd James Lawrence ei ffafrio dros Ben Cabango yn absenoldeb Ben Davies yn y cefn.
Dechreuodd yr ymwelwyr gyda dau gefnwr de hefyd, Connor Roberts ar y dde a Neco Williams ar y chwith yn hytrach na Rhys Norrington-Davies.
Ond y syndod mwyaf o bosib a oedd gweld Danny Ward, yn hytrach na Wayne Hennessey neu Adam Davies, yn dechrau yn y gôl.
Roedd tîm Gwlad Belg ar y llaw arall yn llawn profiad ym mhob rhan o’r cae. Mae’r tri amddiffynnwr canol, Toby Alderweireld, Thomas Vermaelen a Jan Vertonghen yn gant oed rhyngddynt ac yn Romelu Lukaku, mae ganddynt flaenwr gyda mwy o goliau rhyngwladol na thîm Cymru i gyd!
Harry’n chwarae efo hwnna
Cafodd Cymru’r dechrau gwaethaf posib, Joe Allen yn gadael y maes gydag anaf wedi dim ond saith munud o’i ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ers bron i ddeunaw mis.
Doedd neb yn disgwyl yr hyn a ddigwyddodd nesaf, Cymru’n mynd ar y blaen gyda gôl berffaith. Cyfunodd Wilson yn wych gyda Gareth Bale a Connor Robets mewn symudiad slic cyn llithro’r bêl yn hyderus heibio i Thibaut Courtois yn y gôl.
Harry Wilson goal ⚽️???????
17 pass move ?
All 10 players involved ?Beautiful ?pic.twitter.com/uDbroZUE4u
— TheWelshDragon ???????? (@TheWelshDragon9) March 25, 2021
Gôl y byddai tîm clwb sydd yn chwarae gyda’i gilydd bob diwrnod yn falch ohoni.
Belg yn taro nôl
Llwyr reolodd Gwlad Belg weddill yr hanner cyntaf a doedd fawr o syndod eu gweld ar y blaen erbyn yr egwyl.
Roedd Kevin De Bruyne yng nghanol popeth ac ergyd o bum llath ar hugain gan seren Man City a unionodd y sgôr hanner ffordd trwy’r hanner. Gôl dda, er y bydd Ward yn siomedig o fod wedi cael ei guro o’r pellter hwnnw.
Chwaraewyd y gêm yn stadiwm Den Dreef yn Leuven oherwydd cyrffyw yn y brifddinas, Brwsel, ac nid oedd y cae yn edrych fel un o safon ryngwladol mewn gwirionedd. Roedd sawl chwaraewr yn llithro a dyna’n union a wnaeth Connor Roberts ar yr eiliad anghywir yn y cwrt chwech i ganiatáu Thorgan Hazard i benio’i dîm ar y blaen o groesiad cywir Thomas Meunier.
Cymru’n cryfhau
Dechreuodd Cymru’r ail hanner yn llawer gwell, yn mwynhau ychydig o feddiant yn hanner y gwrthwynebwyr am y tro cyntaf yn y gêm.
Prin a oedd cyfleodd clir ar gôl serch hynny a’r agosaf a ddaethant at unioni’r pethau a oedd hanner cyfle acrobataidd i Bale a rhediad ac ergyd nodweddiadol gan Dan James, y ddau gynnig yn methu’r targed.
Cymaint oedd gwellhad Cymru yn yr ail hanner, roedd trydedd gôl Gwlad Belg ddeunaw munud o’r diwedd yn erbyn llif y chwarae. Roedd hi’n gôl wael i’w hildio hefyd.
Gwnaeth Ward yn dda i gael dwrn i’r bêl yn y cwrt chwech i atal gôl sicr i Lukaku ond ymatebodd Chris Mepham yn rhy araf o lawer gan lorio Dries Mertens yn y broses. Penderfyniad hawdd i’r dyfarnwr a Lukaku yn rhwydo o’r smotyn gydag argyhoeddiad.
Y grŵp
Chwarae am ail fydd pob tîm ar wahân i Wlad Belg yng ngrŵp E ac ymddengys mai’r Weriniaeth Tsiec a fydd prif fygythiad Cymru am y safle hwnnw yn dilyn buddugoliaeth swmpus iddynt hwy yn erbyn Estonia yn y gêm arall nos Fercher.
Enillodd y Tsieciaid o chwe gôl i dwy a byddant yn llawn hyder wrth deithio i Gaerdydd i wynebu Cymru nos Fawrth.
Mae gêm gyfeillgar i Gymru cyn hynny yn erbyn Mecsico nos Sadwrn ond does dim dwywaith mai’r gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yw’r bwysicaf o’r cyfnod rhyngwladol yma.
Gwlad Belg
Tîm: Courtois, Alderweireld, Vermaelen (Denayer 45’), Vertonghen, Meunier, Tielemans, Dendoncker. T. Hazard (Castagne 84’), De Bruyne, Mertens, Lukaku
Goliau: De Bruyne 22’, T. Hazard 28’, Lukaku [c.o.s.] 73’
Cerdyn Melyn: T. Hazard 75’
Cymru
Tîm: Ward, Mepham, Rodon, J. Lawrence, Roberts, Allen (Morrell 8’), Ampadu, N. Williams, Bale (Moore 84’), Wilson (Roberts 67’), James
Gôl: Wilson 10’