Mae chwaraewyr Cymru wedi bod am dro ym Mrwsel am y tro olaf cyn herio Gwlad Belg yng ngêm agoriadol ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd heno.

Mae’r lluniau a gafodd eu trydaru gan dim cyfathrebu Cymdeithas Bel-Droed Cymru yn dangos chwaraewyr fel Gareth Bale, Wayne Hennessey, Danny Ward, Joe Allen, Edthan Ampadu a Dan James i gyd yn gwisgo mygydau.

Oherwydd y pandemig, bydd y gêm yn cael ei chwarae yn stadiwm Dan Dreef, Leuven – dinas sy’n adnabyddus am fragu cwrw ac sy’n cael ei ystyried yn brifddinas cwrw Fflandrys a Gwlad Belg.

Mae’r ddwy wlad wedi chwarae 13 tro yn flaenorol ac yn hawlio pum buddugoliaeth yr un a thair yn gyfartal ers y gêm gyntaf rhwng y ddwy ochr ym mis Mai 1949.

Y tro diwethaf i’r ddwy wlad chwarae ei gilydd fe gurodd Cymru Wlad Belg o dair gol i un a hynny yng Ngemau yr Euros yn 2016

Bydd y noson honno yn Lille yn cael ei chofio am byth fel un o fuddugoliaethau mwyaf erioed Cymru wrth i’r capten Ashley Williams, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes sgorio yn y fuddugoliaeth 3-1 i fynd ag ochr Chris Coleman i’r pedwar olaf.

Bydd y gic gyntaf heno (nos Fercher, Mawrth 24) am chwarter i wyth, a bydd modd gwrando ar y gêm ar BBC Radio Cymru neu wylio ar S4C.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fydd Aaron Ramsey yn rhan o’r garfan, tra bod Ben Davies hefyd wedi gorfod tynnu allan oherwydd anaf.

Ond mae Romelu Lukaku wedi ymuno â charfan Gwlad Belg ar ôl profi’n negyddol am Covid-19, ond fydd asgellwr Real Madrid, Eden Hazard, ddim ar gael i chwarae oherwydd anaf.

Dim ond y tîm fydd yn ennill y grŵp fydd yn ennill lle awomatig yng Nghwpan y Byd, tra bod y tîm sydd yn yr ail safle yn ennill lle yn y gemau ail-gyfle.

Byddai buddugoliaeth, neu bwynt hyd yn oed, yn cael ei ystyried yn ganlyniad da iawn i Gymru ar ddechrau grŵp sy’n cynnwys y Weriniaeth Tsiec, Belarus ac Estonia

Wrth siarad â golwg360 ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 23), dywedodd Chris Coleman, cyn rheolwr Cymru, fod rhaid i Gymru ddangos “agwedd” i guro Gwlad Belg.

“Mae’n rhaid i ni fynd i mewn i’r gêm gydag agwedd a’r gred ein bod ni’n gallu cael canlyniad fan hyn oherwydd pan ti’n chwarae yn erbyn y timau mawr ac yn mynd i mewn i’r sialens honno yn gobeithio am ganlyniad neu gydag agwedd negyddol rwyt ti’n mynd i gael dy guro,” meddai.

“Cyfle olaf” cenhedlaeth Gareth Bale gyrraedd Cwpan y Byd

Wrth siarad â’r Wasgêê ddoe, dywedodd capten Cymru, Gareth Bale, ei fod yn ymwybodol iawn mai dyma fydd y cyfle olaf i’w genhedlaeth allu cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.

“Efallai mai dyma’r tro olaf i’m cenhedlaeth i gael y cyfle i fynd i Gwpan y Byd,” meddai.

“Dydyn ni ddim wedi gwneud hynny fel gwlad ers amser maith ac mae’n rhywbeth y mae’r chwaraewyr yn breuddwydio am ei wneud.

“Byddwn yn rhoi popeth o fewn ein gallu i wneud hynny.”

Gemau ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd Cymru

Gwlad Belg v Cymru – dydd Mercher, Mawrth 24

Cymru v Y Weriniaeth Tsiec – dydd Mawrth, Mawrth 30

Belarus v Cymru – dydd Sul, Medi 5

Cymru v Estonia – dydd Mercher, Medi 8

Y Weriniaeth Tsiec v Cymru – dydd Gwener, Hydref 8

Estonia v Cymru – dydd Llun, Hydref 11

Cymru v Belarus – dydd Sadwrn, Tachwedd 13

Cymru v Gwlad Belg – dydd Mawrth, Tachwedd 16