Ffrainc 32–30 Cymru

Doedd dim Camp Lawn i Gymru yn dilyn gêm hynod ddramatig yn erbyn y Ffrancwyr ym Mharis nos Sadwrn.

Roedd Cymru ar y blaen am gyfnodau hir ond torrwyd eu calonnau gan gais hwyr Brice Dulin, a gipiodd y fuddugoliaeth a phwynt bonws holl bwysig i’r tîm cartref.

Bydd yn rhaid aros tan nos Wener yn awr i weld os mai Cymru neu Ffrainc a fydd pencampwyr y Chwe Gwlad eleni.

Dechrau ar dân

Dechreuodd y gêm ar gan milltir yr awr gyda phedwar cais yn yr ugain munud cyntaf.

Plymiodd y clo mawr, Romain Taofifenoa, at y gwyngalch wedi cyfnod o bwyso gan flaenwyr Ffrainc yn y munudau agoriadol.

Croesodd Gareth Davies i Gymru wedi hynny ond barnwyd i’r bêl gael ei dal i fyny. Ni fu’n rhaid aros yn hir am gais i Gymru serch hynny, Dan Biggar yn taro ongl dda i groesi o bellter byr.

Roedd ail Ffrainc yn berl; cic Brice Dulin dros yr amddiffyn yn arwain at gais i Antoine Dupont o dan y pyst.

Yn ôl y daeth Cymru drachefn gyda Josh Navidi yn twrio trwy bentwr o gyrff i sgorio ail gais Cymru a phedwerydd y gêm gyda dim ond 19 munud ar y cloc!

Cyfnewid ciciau

Gyda’r sgôr yn 14 pwynt yr un hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, fe arafodd pethau, a chic gosb yr un a oedd yr unig sgôr arall cyn yr egwyl.

Ciciodd Biggar Gymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm cyn i eilydd faswr Les Bleus, Romain Ntamack, unioni pethau eto gyda thri phwynt dadleuol.

Arhosodd Luke Pearce gyda’i benderfyniad gwreiddiol o dacl uchel yn erbyn Biggar er iddo gyfaddef ei hun ar ôl ei gweld eto ar y sgîn fawr ei fod wedi gwneud camgymeriad. Camgymeriad mawr Luke bach o ystyried y sgôr terfynol!

Cymru’n cryfhau

Cymru a ddechreuodd orau wedi’r egwyl a daeth pwyntiau cyntaf yr hanner o droed Biggar.

Ymestynnodd yr ymwelwyr eu mantais i ddeg pwynt gyda throsgais wedi hynny, Josh Adams yn rhoi’r bêl i lawr a’r dyfarnwr fideo, Wayne Barnes, ddim yn gweld digon o dystiolaeth o law oddi tani i wyrdroi penderfyniad Pearce ar y cae.

Caeodd Ntamack y bwlch i saith pwynt wedi hynny ond roedd digon o ddrama i ddilyn.

Sioe Pearce a Barnes

Fe drodd hi’n dipyn o sioe Pearce a Barnes wedi hynny gyda sawl penderfyniad mawr yn dylanwadu ar y canlyniad yn yr hanner awr olaf.

Roedd hi’n ymddangos fod Louis Rees-Zammit wedi sgorio cais gwych yn y gornel toc cyn yr awr ond sylwodd Barnes i’r bêl gyffwrdd bôn y lluman cornel a’r llinell gais yr un pryd. Dim cais.

Ond roedd Pearce yn chwarae mantais wedi i Mohamed Haouas atal sgarmes symudol yn anghyfreithiol yn gynharach yn y symudiad. Cerdyn melyn i’r prop a thri phwynt arall o droed Biggar felly ond a ddylai sgarmes a oedd yn taranu at y llinell gais fel trên TGV fod wedi arwain at gais cosb tybed? Dadleuol.

Llygad goch

Parhau i ddod a wnaeth y digwyddiadau mawr yng ngêm orau’r bencampwriaeth. Roedd Dulin yn meddwl ei fod wedi croesi am gais ond galwyd y chwarae yn ôl i roi cerdyn coch i Paul Willemse am roi ei law yn llygad Wyn Jones!

Buan iawn y newidiodd y fantais rifyddol o blaid y Ffrancwyr serch hynny wrth i Pearce roi dau gerdyn melyn i Gymru o fewn munud i’w gilydd.

Roedd y cyntaf i Taulupe Faletau yn ddigon teg, yn dilyn rhybudd a throseddu cyson gan y tîm. Roedd yr ail yn hallt. Liam Williams yn gadael y cae am fynd oddi ar ei draed yn ardal y dacl, er bod y ryc wedi gorffen pan daclodd y mewnwr, Dupont.

Rhoddodd cais y capten, Charles Ollivon, a throsiad Ntamack y tîm cartref o fewn tri phwynt gyda thri munud yn weddill ac roedd diweddglo dramatig ar y gweill.

Gyda’r cloc yn goch a’r niferoedd yn brin yn y llinell amddiffynnol fe gyrhaeddodd y bêl i Dulin ar y chwith. Carlamodd yntau drosodd i dorri calon Wayne Pivac a’i dîm. Am gêm.

Beth nawr?

Mae’r fuddugoliaeth bwynt bonws i Ffrainc a’r pwynt bonws i Gymru am golli o fewn saith pwynt yn cadw’r Cochion bum pwynt o flaen eu gwrthwynebwyr yn y tabl. Ond mae gan Ffrainc un gêm ar ôl, un wedi ei hail drefnu yn erbyn yr Alban nos Wener.

Mae’r Ffrancwyr angen ennill honno gyda phwynt bonws ac o un pwynt ar hugain neu fwy i gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Unrhyw ganlyniad arall a Chymry sydd â hi.

.

Ffrainc

Ceisiau: Romain Taofifenoa, Antoine Dupont, Charles Ollivion, Brice Dulin

Trosiadau: Matthieu Jalibert (2), Romain Ntamack (1)

Ciciau Cosb: Romain Ntamack (2)

Cerdyn Melyn: Mohamed Haouas

Cerdyn Coch: Paul Willemse

.

Cymru

Ceisiau: Dan Biggar, Josh Navidi, Josh Adams

Trosiadau: Dan Biggar (3)

Ciciau Cosb: Dan Biggar (3)

Cardiau Melyn: Taulupe Faletau, Liam Williams