Cafodd carfan Cymru ar gyfer y ffenestr ryngwladol ei chyhoeddi’r wythnos hon, heb lawer o newyddion annisgwyl yn y diwedd.

Aros yn ffit a oedd prif ffocws y chwaraewyr ynddi y penwythnos hwn felly a chreu argraff rhag ofn i’r gweddill.

*

Uwch Gynghrair Lloegr a’r Cwpan FA

Mae rhediad Tyler Roberts yn nhîm Leeds yn parhau wedi iddo chwarae ym muddugoliaeth ei dîm yn Fulham nos Wener. Roedd y Cymro yn anffodus na arweiniodd ei groesiad at gôl agoriadol i Luke Ayling yn yr hanner cyntaf. Dyfarnwyd, wedi ymyrraeth VAR, ei fod yn camsefyll ond aeth Leeds ymlaen i sgorio dwy gôl gyfreithlon ac ennill y gêm gynghrair o ddwy i un.

Roedd hi’n benwythnos wyth olaf y Cwpan FA hefyd. Bournemouth a oedd yr unig dîm o du allan i’r Uwch Gynghrair ar ôl yn y gystadleuaeth ond daeth eu rhediad i ben gyda cholled yn erbyn eu cymdogion, Southampton. Daeth Chris Mepham oddi ar y fainc i’r Cherries, gyda’i dîm eisoes dair gôl i ddim ar ei hôl hi.

Nid oedd Ethan Ampadu ar gael i Sheffield United yn y Cwpan ddydd Sul gan mai ei fam-glwb, Chelsea, a oedd y gwrthwynebwyr.

Ar ôl dechrau i Gaerlŷr yn y rowndiau blaenorol, yn ôl ar y fainc yr oedd Danny Ward wrth i’r Llwynogod drechu Man U yn yr wyth olaf nos Sul. Ar y fainc yr oedd Dan James i’r gwrthwynebwyr hefyd.

Gêm gynghrair a oedd gan Tottenham nos Sul, oddi cartref yn Aston Villa, a doedd fawr o syndod gweld Jose Mourinho yn gwneud saith newid i’r tîm yn dilyn sioc yn Zagreb ganol wythnos. Un o’r newidiadau hynny a oedd gollwng Ben Davies o’r tîm ac un arall a oedd dod â Joe Rodon i mewn am ymddangosiad prin yng nghanol yr amddiffyn.

Dechrau’r ddwy gêm ar y fainc a wnaeth Gareth Bale. Ac ymysg yr eilyddion yr oedd Neil Taylor i Villa hefyd. Aros ar y fainc a wnaeth Bale a Taylor ond fe ddaeth Davies i’r cae am ychydig dros hanner awr wrth i Spurs ennill o ddwy i ddim.

*

Y Bencampwriaeth

Y darbi Gymreig a oedd gêm fawr y penwythnos yn y Bencampwriaeth, gyda Chaerdydd yn trechu Abertawe o gôl i ddim nos Sadwrn. Roedd Will Vaulks, Harry Wilson a Kieffer Moore yn nhîm buddugol yr Adar Gleision.

Roedd cynrychiolaeth Gymreig gref ar y fainc hefyd, gyda Jonny Williams a Mark Harris arni yn ogystal â’r bechgyn ifanc, Rubin Colwill a Sam Bowen, a ddychwelodd o gyfnod ar fenthyg gyda’r Barri yn ddiweddar. Connor Roberts a oedd yr unig Gymro ar y cae i Abertawe, gyda Ben Cabango ac Oli Cooper yn eilyddion heb eu defnyddio.

Ymddengys fod canran y Cymry yng ngharfan Stoke yn tyfu bob wythnos ac roedd sawl un ohonynt yn rhan o fuddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Derby. Mae Adam Davies wedi adennill ei le rhwng y pyst yn dilyn cyfnod allan gydag anaf a dechreuodd ei ail gêm mewn wythnos yn erbyn Derby.

Chwaraeodd James Chester a Rhys Norrington-Davies y gêm gyfan hefyd ac fe ddechreuodd Joe Allen cyn cael ei eilyddio am Sam Vokes ddeuddeg munud o’r diwedd. Roedd Rabbi Matando ar y fainc ac felly hefyd ddau Gymro Ifanc o academi’r clwb. Gwnaeth Chris Norton ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc yn erbyn Caerdydd ganol wythnos ac roedd yntau a Dan Malone ymhlith yr eilyddion eto ar y penwythnos. Daeth Tom Lawence oddi ar y fainc am yr hanner awr olaf i Derby.

Gêm arall o ddiddordeb i gefnogwyr Cymru a oedd honno rhwng Luton a Preston yn Kenilworth Road. Luton a aeth â hi o gôl i ddim ond ar y fainc yr oedd Tom Lockyer a Joe Morrell. Dechreuodd Ched Evans i Preston a braf oedd gweld Billy Bodin yn ymddangos oddi ar y fainc yn dilyn cyfnod allan gyda’i anaf diweddaraf.

Roedd buddugoliaethau i Millwall dros Middlesbrough a Rotherham yn erbyn Bristol City ond ychydig funudau oddi ar y fainc a gafodd Tom Bradshaw a Shaun MacDonald yn y gemau hynny.

Go brin fod gemau cyfartal yn ddigon i Wycombe ar waelod y tabl erbyn hyn ond dyna a gawsant yn Coventry, gyda Joe Jacobson yn chwarae 90 munud eto.

*

Cynghreiriau is

Un o’r gemau mawr ar frig yr Adran Gyntaf y penwythnos hwn a oedd taith Lincoln i Sunderland ac mae’r Imps yn aros yn y safleoedd ail gyfle yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un. Chwaraeodd Declan Poole a Brennan Johnson i’r ymwelwyr a Poole a greodd y gôl i Callum Morton a achubodd bwynt i’w dîm.

Mae Doncaster yn aros ar gynffon Lincoln yn y tabl yn dilyn gêm gyfartal yn Gillingham, gyda Matthew Smith yn chwarae 90 munud eto yng nghanol cae.

Hefyd yn y chwech uchaf y mae tîm Chris Gunter, Charlton Athletic. Chwaraeodd y cefnwr de 90 munud o gêm gyfartal ddwy gôl yr un ei dîm yn Wimbledon.

Dau dîm arall sydd yn brwydro am y safleoedd ail gyfle yw Portsmouth ac Ipswich. Gan Pompey y mae’r fantais bellach wedi iddynt drechu Bois y Tractor o ddwy gôl i un. Creodd Gwion Edwards y gôl agoriadol i Ipswich cyn i Portsmouth daro nôl. Dechreuodd James Wilson y gêm hefyd.

Nid yw Blackpool allan ohoni ychwaith, maent yn y degfed safle a hynny’n bennaf oherwydd eu record amddiffynnol, yr ail orau yn y gynghrair. Mae llawer o’r diolch am hynny i Chris Maxwell yn y gôl a chadwodd y Cymro lechen lân arall wrth i’w dîm ennill o ddwy i ddim yn Rhydychen y penwythnos hwn.

Colli o ddwy gôl i ddim a fu hanes cymdogion Blackpool, Fleetwood. Chwaraeodd Wes Burns y 90 munud gartref yn erbyn Swindon.

Roedd ambell un yn siomedig mai yng ngharfan dan 21 Cymru y cafodd Luke Jephcott ei enwi’r wythnos hon, ac nid carfan y tîm cyntaf. Ni wnaeth y blaenwr sgorio yn erbyn Bristol Rovers ddydd Sadwrn ond fe wnaeth ddechrau’r gêm wrth i’w dîm ennill o ddwy gôl i ddim.

Hwb i obeithion Wigan o aros y gynghrair yw dychweliad diweddar Lee Evans i ganol cae yn dilyn cyfnod hir allan o’r tîm. Mae’r gŵr o Gasnewydd wedi dechrau tair gêm yn olynol ond colli fu hanes ei dîm yn erbyn yn Accrington ddydd Sadwrn wrth iddynt lithro yn ôl i safleoedd y gwymp.

Mae Casenwydd yn aros yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran er gwaethaf colled yn erbyn Leyton Orient. Dechreuodd Liam Shephard, Aaron Lewis a Josh Sheehan y gêm a gafodd ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd cyflwr cae Rodney Parade.

Un sydd yn wyneb cyfarwydd iawn yn y stadiwm hwnnw yw Joe Ledley ac roedd ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc i’r chwaraewr canol cae profiadol a arwyddodd gytundeb tymor byr gyda’r Alltudion yr wythnos hon.

*

Yr Alban a thu hwnt

Colli a fu hanes Aberdeen yn eu gêm gyntaf ers ymadawiad eu rheolwr, Derek McInnes, wrth iddynt deithio i herio Dundee United ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ash Taylor yn yr amddiffyn wrth iddynt golli o gôl i ddim.

Hefyd yn Uwch Gynghrair yr Alban, fe sgoriodd Christian Doidge ei gôl gyntaf ers tro i achub pwynt i Hibs yn Livingston.

Yn y Bencampwriaeth, fe lithrodd Dunfermline i’r trydydd safle wrth golli gartref yn erbyn Inverness. Un gôl a oedd ynddi gydag Owain Fôn Williams yn chwarae rhwng y pyst i’r Pars.

Un o benderfyniadau mwyaf od y garfan ddiweddaraf o bosib oedd cynnwys Dylan Levitt. Ar ôl treulio hanner cyntaf y tymor yn methu cael ei le yn nhîm Charlton yn yr Adran Gyntaf, mae’r chwaraewr canol cae sydd ar fenthyg o Man U wedi treulio’r ail hanner yn methu cael ei le yn nhîm NK Istra, sydd yn straffaglu tua gwaelodion prif adran Croatia. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y bachgen o Fodelwyddan unwaith eto yn y gêm gyfartal yn erbyn Slaven Belupo ddydd Sadwrn.

Cymro arall sydd ddim yn cael llawer o funudau yng Nghroatia yw chwaraewr canol cae Dinamo Zagreb, Robbie Burton. Roedd yn eilydd heb ei ddefnyddio ym muddugoliaeth gofiadwy ei dîm yn erbyn Spurs nos Iau ond nid oedd yn y garfan ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn HNK Gorica ddydd Sul.

Yn yr Eidal, nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus, ac nid oedd golwg o Andy King yng ngharfan Leuven yng Ngwlad Belg ychwaith.

Dau Gymro sydd yn chwarae’n gyson ar y cyfandir yw James Lawrence ac Isaac Christie-Davies. Chwaraeodd Lawrence yng nghanol amddiffyn St. Pauli wrth iddynt guro Osnabruck yn ail adran yr Almaen ddydd Sul ac roedd Christie-Davies yn nhîm Dunajska Streda a gollodd oddi cartref yn erbyn Spartak Trnava yn Slofacia diolch i gôl hwyr gan y tîm cartef yn y ‘Kieffer Moore End’!